BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040783w.html

[New search] [Help]

2004 Rhif783 (Cy.80)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 16 Mawrth 2004 
  Yn dod i rym 1 Medi 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 77(2) a (4), 80(4), 83(9) a 84(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[1].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.

    (2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001[2] fel a ganlyn.

    (2) Yn lle rheoliad 2 rhowch y canlynol  - 

         " 2. Mae arolygiadau i'w cynnal  - 

      (a) o fewn chwe mlynedd o'r arolygiad diwethaf, neu

      (b) os nad oes arolygiad wedi bod, o fewn chwe mlynedd o ba un bynnag yw'r cynharaf o'r canlynol  - 

        (i) dyddiad unrhyw asesiad neu arolygiad a gyflawnwyd o dan adran 9(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[3];

        (ii) dyddiad sefydlu sefydliad sy'n darparu'r addysg a hyfforddiant sydd i gael eu harolygu; neu

        (iii) 1 Medi 2004,

      ac yna o fewn pob cyfnod o chwe mlynedd o'r arolygiad diwethaf.".

    (3) Yn rheoliad 3  - 

    (a) yn lle'r Rhif "55" rhowch y Rhif "70", a

    (b) dilëwch y geiriau "neu, pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 65 niwrnod gwaith o'r dyddiad hwnnw".

    (4) Yn rheoliad 4(1)  - 

    (a) yn lle'r Rhif "40" rhowch y Rhif "50", a

    (b) dilëwch y geiriau "neu, pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 50 niwrnod gwaith" a'r geiriau "(yn y naill achos neu'r llall)".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Mawrth 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001 er mwyn  - 

    (a) darparu bod arolygiadau addysg neu hyfforddiant penodol i'w cynnal o fewn chwe mlynedd o ba un bynnag yw'r cynharaf o'r canlynol  - 

          
    • dyddiad yr arolygiad diwethaf (o dan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 neu'r drefn flaenorol o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992),

          
    • dyddiad sefydlu sefydliad newydd, neu

          
    • 1 Medi 2004,

    ac yna o fewn pob cyfnod o chwe mlynedd i ddyddiad yr arolygiad diwethaf; a

    (b) newid y cyfnod y mae'n rhaid gwneud adroddiad arolygu ynddo i 70 diwrnod gwaith ym mhob achos a'r cyfnod y mae'n rhaid cyhoeddi cynllun gweithredu ynddo i 50 diwrnod gwaith ym mhob achos.


Notes:

[1] 2000 p.21. I gael ystyr "prescribed" yn adran 77 gweler is-adran (9) o'r adran honno.back

[2] O.S. 2001/2501 (Cy. 204).back

[3] 1992 p.13.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090902 X


  © Crown copyright 2004

Prepared 23 March 2004
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010