BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Sefydlu, Aelodaeth, Cyfansoddiad a Swyddogaethau) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040551w.html

[New search] [Help]

2004 Rhif551 (Cy.55)

PROFFESIYNAU GOFAL IECHYD A PHROFFESIYNAU CYSYLLTIEDIG, CYMRU

Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Sefydlu, Aelodaeth, Cyfansoddiad a Swyddogaethau) 2004

  Wedi'i wneud 2 Mawrth 2004 
  Yn dod i rym 5 Mawrth 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(1), (3), (4) a (7), 5 ac 8 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003[1] yn gwneud y Gorchymyn canlynol:  - 

Enwi, cychwyn, a dehongli.
     1.  - (1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Sefydlu, Aelodaeth, Cyfansoddiad a Swyddogaethau) 2004 a daw i rym ar 5 Mawrth 2004.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn  - 

    ystyr "y Cynulliad" ("the Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    ystyr "dyddiad sefydlu" ("establishment date") yw 1 Mawrth 2004;

    ystyr "dyddiad gweithredol" ("operational date") yw 1 Ebrill 2004;

    ystyr "PIC" ("HPW") yw Proffesiynau Iechyd Cymru neu Health Professions Wales a sefydlir gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn.

Sefydlu Proffesiynau Iechyd Cymru
    
2. Sefydlir drwy hyn, a bydd yn effeithiol o'r dyddiad sefydlu, gorff corfforaethol a elwir Proffesiynau Iechyd Cymru neu Health Professions Wales.

Diben a swyddogaethau PIC
    
3.  - (1) Sefydlir PIC at ddibenion ymgymryd â swyddogaethau mewn perthynas â phroffesiynau gofal iechyd a gweithwyr cymorth gofal iechyd.

    (2) Dyma swyddogaethau PIC a fydd yn ei alluogi i wneud y canlynol  - 

    (a) ar ran y Cynulliad - 

      (i) hybu a chynghori ar ansawdd a darpariaeth addysg, hyfforddiant ac ymarfer,

      (ii) ymgymryd â swyddogaethau awdurdod goruchwylio lleol yn unol ag erthygl 42(1)(b) ac erthygl 43 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001[
      2],

      (iii) ymgymryd â swyddogaethau (ac eithrio'r rhai sy'n ymwneud â gwneud deddfwriaeth sylfaenol) o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd a Iechyd Cyhoeddus 1968[3];

    (b) gwneud trefniadau â Chyngor Proffesiynau Iechyd Cymru[4] i gyflawni swyddogaethau ar ran y Cyngor hwnnw mewn perthynas â Chymru;

    (c) gwneud trefniadau â Chyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth[5]) i gyflawni swyddogaethau ar ran y Cyngor hwnnw mewn perthynas â Chymru;

    (ch) gwneud trefniadau ag unrhyw gorff arall i gyflawni swyddogaethau ar ran y corff hwnnw mewn perthynas â Chymru; a

    (d) cyflawni'r trefniadau hynny.

    (3) Rhaid i PIC yn ymgymryd â'i swyddogaethau o'r dyddiad gweithredol ymlaen.

    (4) Caiff unrhyw aelod neu aelod o staff PIC, neu unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor PIC, wneud unrhyw beth a awdurdodwyd at y diben gan PIC (boed yn gyffredinol neu'n benodol) yr awdurdodwyd PIC i'w wneud neu sy'n ofynnol i PIC ei wneud.

    (5) Caiff PIC godi'r ffioedd hynny y mae o'r farn eu bod yn briodol am unrhyw wasanaethau y mae'n eu darparu wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth.

    (6) Caiff PIC wneud unrhyw beth y mae'n ystyried sy'n angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion arfer ei swyddogaethau neu mewn cysylltiad â hwy.

    (7) Ni chaiff dilysrwydd unrhyw drafodion PIC eu heffeithio gan - 

    (a) unrhyw le gwag yn swydd y cadeirydd neu swydd aelod arall,

    (b) unrhyw ddiffyg ym mhenodiad person fel cadeirydd neu aelod arall, neu

    (c) cyfansoddiad aelodaeth PIC ar y pryd.

Swyddogaethau cyfyngedig cyn y dyddiad gweithredol
     4. Rhwng y dyddiad sefydlu a'r dyddiad gweithredol bydd gan PIC y swyddogaethau canlynol  - 

    (a) ymrwymo mewn contractau gan gynnwys contractau gwaith; a

    (b) gwneud y pethau eraill hynny sy'n rhesymol angenrheidiol i'w alluogi i ddechrau gweithredu'n foddhaol o'r dyddiad gweithredol ymlaen.

Dyddiad cyfrifyddu PIC
    
5. Dyddiad cyfrifyddu PIC fydd 31 Mawrth.

Aelodau PIC
    
6.  - (1) Bydd PIC yn cynnwys y canlynol - 

    (a) cadeirydd (a fydd yn aelod o PIC) a benodwyd gan y Cynulliad;

    (b) aelodau eraill a benodwyd gan y Cynulliad a chaiff y Cynulliad, os gwêl yn dda, benodi un o'r aelodau eraill yn is-gadeirydd.

    (2) Mwyafswm nifer aelodau PIC fydd 24.

    (3) Os na chafodd is-gadeirydd ei benodi gan y Cynulliad, yna caiff yr aelodau benodi un o'u plith yn is-gadeirydd am y cyfnod hwnnw, nad yw'n fwy na gweddill cyfnod yr aelod hwnnw fel aelod o PIC, y caiff yr aelodau ei bennu.

    (4) Os digwydd y canlynol  - 

    (a) bod aelod a benodwyd naill ai gan y Cynulliad o dan erthygl 6(1)(b) neu gan aelodau o dan erthygl 6(3) yn is-gadeirydd, a

    (b) bod y cadeirydd wedi marw neu wedi peidio â dal y swydd, neu os na all gyflawni dyletswyddau'r cadeirydd oherwydd salwch, absenoldeb o'r Deyrnas Unedig neu unrhyw achos arall,

rhaid i'r is-gadeirydd weithredu fel cadeirydd hyd nes y penodir cadeirydd newydd neu nes bod y cadeirydd yn ailafael yn nyletswyddau cadeirydd yn ôl y digwydd, a bernir y bydd cyfeiriadau at y cadeirydd, am ba hyd bynnag nad oes cadeirydd sy'n gallu cyflawni dyletswyddau cadeirydd, yn cynnwys cyfeiriadau at yr is-gadeirydd.

    (5) Aelodau PIC fydd - 

    (a)

      (i) personau o'r proffesiynau a gynrychiolir gan Bwyllgor Ymgynghorol Therapïau Cymru, Pwyllgor Gwyddoniaeth Ymgynghorol Cymru a Phwyllgor Nyrsio a Bydwreigiaeth Cymru[6],

      (ii) pobl broffesiynol sy'n meddu ar y cymwysterau, diddordebau neu brofiad a fyddai'n werthfawr wrth iddo arfer ei swyddogaethau,

      (iii) personau sy'n cynrychioli gweithwyr cymorth gofal iechyd; a

    (b) personau sydd â'r cyfryw gymwysterau, diddordebau neu brofiad a fydd yn werthfawr i PIC wrth iddo arfer ei swyddogaethau ond nad ydynt yn aelodau o'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, Cyngor Proffesiynau Iechyd Cymru, neu nad ydynt ar eu cofrestrau, neu unrhyw gorff rheoleiddio arall sy'n ymwneud â'r proffesiynau gofal iechyd a gweithwyr cymorth gofal iechyd.

    (6) Rhaid i'r Cynulliad yn arfer ei bwerau i benodi aelodau PIC i sicrhau ar bob adeg na fydd llai na 45% o'r aelodau yn bersonau a benodir yn unol â pharagraff (5)(b) uchod.

    (7) Bydd y cadeirydd ac aelodau eraill PIC yn dal swydd ac yn ymadael â'r swydd yn unol â thelerau eu penodiad perthnasol.

    (8) Bydd cyfnod swydd y cadeirydd, yr is-gadeirydd aelodau eraill PIC am y cyfnod y caiff y Cynulliad ei benderfynu ond ni fydd  - 

      (i) yn achos y cadeirydd, am gyfnod hirach na chyfnod o bum mlynedd,

      (ii) yn achos yr is-gadeirydd, am gyfnod hirach na chyfnod o bum mlynedd, a

      (iii) yn achos aelodau eraill, am gyfnod hirach na phum mlynedd;

    (9)

      (i) Yn ddarostyngedig i (ii) isod, ni fydd gwasanaeth blaenorol fel cadeirydd neu aelod arall o PIC yn effeithio ar gymhwyster person i gael ei benodi fel cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod arall.

      (ii) Ni fydd person a fu'n aelod am ddeng mlynedd yn olynol yn gymwys i gael ei ailbenodi.

    (10) Caiff person sy'n dal swydd fel cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod arall o PIC ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person sy'n gyfrifol am y penodiad.

    (11) Rhaid i PIC, os bydd y Cynulliad yn gofyn iddo wneud hynny, dalu i'r cadeirydd, is-gadeirydd ac aelodau eraill o PIC ac unrhyw aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor nad yw'n aelod o PIC y tâl, a lwfansau teithio a lwfansau eraill, y caiff y Cynulliad benderfynu arnynt.

Symud rhywun o'i swydd
     7. Symudir person o'i swydd fel cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod arall o PIC  - 

    (a) os oes newid yng nghymwysterau, diddordebau neu brofiad y person hwnnw sy'n ymddangos i'r Cynulliad na fydd y person o dan sylw yn cyfrannu bellach at arfer swyddogaethau PIC mewn modd sy'n cyfiawnhau parhad y person hwnnw fel aelod;

    (b) os yw'r Cynulliad wedi'i fodloni bod y person wedi bod yn absennol o ddau gyfarfod olynol PIC heb esgus rhesymol neu ganiatâd PIC neu nad yw fel arall yn ffit neu'n alluog i gyflawni swyddogaethau cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod arall;

    (c) mewn amgylchiadau eraill y gall fod PIC wedi darparu ar eu cyfer mewn rheolau sefydlog.

Prif Weithredwr
    
8.  - (1) Rhaid i PIC benodi person yn Brif Weithredwr.

    (2) Y person cyntaf a benodir o dan baragraff (1) fydd y person a enwir gan y Cynulliad i ddal y swydd honno ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym.

    (3) O ran yr ail Brif Weithredwr ac unrhyw Brif Weithredwr wedyn a benodir o dan baragraff (1) - 

    (a) dim ond gyda chydsyniad y Cynulliad y penodir ef; a

    (b) caiff ei benodi ar y telerau a'r amodau y caiff y Cynulliad benderfynu arnynt.

    (4) Rhaid i PIC, os bydd y Cynulliad yn gofyn iddo wneud hynny - 

    (a) talu pensiwn, lwfansau neu arian rhodd y caiff y Cynulliad benderfynu arnynt i unrhyw berson sydd neu sydd wedi bod yn Brif Weithredwr PIC neu mewn perthynas ag ef; neu

    (b) gwneud y taliadau hynny y caiff y Cynulliad benderfynu arnynt tuag at ddarparu taliad pensiwn, lwfans neu arian rhodd i berson o'r fath neu mewn perthynas ag ef.

Staff
    
9. Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan y Cynulliad mewn perthynas â'r canlynol - 

    (a) unrhyw amodau y mae'n rhaid eu cyflawni ar gyfer y swydd; a

    (b) o ran telerau ac amodau cyflogaeth y staff (gan gynnwys darpariaeth ynghylch talu pensiynau, lwfansau neu arian rhodd a thalu iawndal am golli cyflogaeth),

caiff PIC benodi'r cyflogeion hynny fel y gwêl orau.

Trafodion
    
10  - (1) Rhaid i PIC fabwysiadu rheolau sefydlog neu reolau eraill sy'n ymwneud â thrafodion PIC fel y gwêl orau.

    (2) Gellir amrywio neu ddirymu'r rheolau mewn unrhyw gyfarfod PIC ar ôl hynny.

    (3) Caiff PIC benodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau a all gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o PIC.

Cyfrifon ac archwiliadau
    
11.  - (1) Rhaid i PIC gadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol wrth iddo arfer ei swyddogaethau.

    (2) Rhaid i PIC baratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn y ffurf y caiff y Cynulliad benderfynu arni.

    (3) Rhaid cyflwyno'r cyfrifon a baratoir gan PIC ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol i Archwilydd Cyffredinol Cymru cyn diwedd y cyfnod hwnnw ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol yn ôl cyfarwyddyd y Cynulliad.

    (4) Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru - 

    (a) archwilio ac ardystio'r cyfrifon a gyflwynir iddo o dan baragraff (3); a

    (b) gosod copi ardystiedig ohonynt gerbron y Cynulliad ynghyd ag adroddiad arnynt.

    (5) Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru wneud ymchwiliadau i ba mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y bu PIC wrth arfer ei swyddogaethau.

    (6) Ni ddehonglir dim ym mharagraff (5) fel pe bai'n rhoi hawl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gwestiynu teilyngdod amcanion polisi PIC.

    (7) Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gyflwyno adroddiad gerbron y Cynulliad o ganlyniadau unrhyw ymchwiliad a wnaeth o dan baragraff (5).

Adroddiadau a gwybodaeth
    
12.  - (1) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i PIC roi adroddiad i'r Cynulliad ar y ffordd y mae wedi arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn.

    (2) Rhaid i PIC gyhoeddi'r adroddiad a wneir o dan baragraff (1).

    (3) Rhaid i PIC hefyd roi unrhyw wybodaeth arall i'r Cynulliad sy'n ymwneud â'r ffordd y mae'n arfer ei swyddogaethau y gall y Cynulliad ofyn amdani.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Mawrth 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu corff corfforaethol a elwir Proffesiynau Iechyd Cymru neu Health Professions Wales ("PIC") (erthygl 2).

Sefydlir PIC at ddibenion ymgymryd â swyddogaethau mewn perthynas â phroffesiynau gofal iechyd a gweithwyr cymorth gofal iechyd

Bydd PIC yn ymgymryd â rhai swyddogaethau ar ran y Cynulliad mewn perthynas â hybu'r canlynol a chynghori arnynt, sef ansawdd a darpariaeth addysg, hyfforddiant ac ymarfer y proffesiynau gofal iechyd, awdurdod goruchwylio lleol ar gyfer bydwragedd a swyddogaethau o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd a Iechyd Cyhoeddus 1963 (erthygl 3(2)(a)). Bydd PIC hefyd yn ymgymryd â rhai swyddogaethau yng Nghymru ar ran cyrff megis y Cyngor Proffesiynau Iechyd a'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (erthygl 3(2)(b),(c) ac (ch)).

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth PIC gan gynnwys trefniadau gweithdrefnol a gweinyddol (erthyglau 6 i 12).


Notes:

[1] 2003 p.4.back

[2] O.S. 2002/253; offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2002/881 ac O.S. 2002/1125. Trosglwyddwyd swyddogaethau awdurdodau goruchwylio lleol oddi wrth yr awdurdodau iechyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 O.S. 2003/813 (Cy.98).back

[3] {d1}{t1}1968 p.46. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd gan Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros y Gwasanaethau Cymdeithasol 1968, O.S. 1968/1699 a Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Iechyd a Nawdd Cymdeithasol) 1988, O.S. 1988/1843.{d1}{t1}Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erth 2, Atodlen 1.back

[4] Sefydlwyd gan O.S. 2002/254 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/1571 ac O.S. 2003/1572.back

[5] Sefydlwyd gan O.S. 2002/253; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2002/881 ac O.S. 2002/1125.back

[6] Mae'r Cynulliad yn cydnabod Pwyllgor Ymgynghorol Therapïau Cymru, Pwyllgor Gwyddoniaeth Ymgynghorol Cymru a Phwyllgor Nyrsio a Bydwreigiaeth Cymru o dan baragraff 1(1) o Atodlen 6 o Ddeddf 1977 fel cynrychiolwyr categori neu gategorïau y personau sy'n darparu gwasanaethau sy'n ffurfio rhan o'r gwasanaeth iechyd.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090881 3


  © Crown copyright 2004

Prepared 16 March 2004
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010