BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Diwygio)(Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040392w.html

[New search] [Help]

2004 Rhif392 (Cy.40)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Diwygio)(Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 16 Chwefror 2004 
  Yn dod i rym 17 Chwefror 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â mesurau sy'n gysylltiedig â bwyd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 17 Chwefror 2004.

Diwygiadau i Reoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003
    
2.  - (1) Caiff Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003[3] eu newid yn unol â pharagraff (2).

    (2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)  - 

    (a) yn lle'r diffiniad o "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") rhodder y diffiniad canlynol  - 

      " ystyr "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") yw Penderfyniad y Comisiwn dyddiedig 21 Ionawr 2004 ar fesurau brys mewn cysylltiad â tsilis a chynhyrchion tsilis;"; a

    (b) yn lle'r diffiniad o "tsilis poeth a chynnyrtsilis poeth" ("hot chilli and hot chilli products") rhodder y diffiniad canlynol  - 

      " ystyr "tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth"("hot chilli and hot chilli products") yw  - 

      (a) ffrwythau'r genws Capsicum, sydd wedi'u sychu a'u gwasgu neu wedi'u malu ac sy'n dod o dan God CN 09042090; a

      (b) powdwr cyrri sy'n dod o dan God CN 091050;".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Chwefror 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2455 (Cy.238)) er mwyn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn dyddiedig 21 Ionawr 2004 ar fesurau brys mewn cysylltiad â tsilis a chynhyrchion tsilis ("y Penderfyniad newydd"). Diddymwyd Penderfyniad y Comisiwn 2003/460/EC ar fesurau brys mewn cysylltiad â tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth (OJ Rhif L154, 21.6.2003, t.114) gan y Penderfyniad newydd.

Dyma'r gwahaniaethau rhwng y Penderfyniad newydd a Phenderfyniad y Comisiwn 2003/460/EC  - 

    (a) mewn perthynas â phowdwr cyrri, mae'r Penderfyniad newydd yn ymestyn y mesurau brys a nodwyd eisoes ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2003/460/EC mewn cysylltiad â tsilis sydd wedi'u sychu a'u gwasgu neu eu malu. Caiff y newid hwn ei weithredu trwy fewnosod yn O.S. 2003/2455 (Cy.238) (rheoliad 2(2)(b)) ddiffiniad diwygiedig o "tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth" ("hot chilli and hot chilli products"); a

    (b) mae'r Penderfyniad newydd yn diwygio'r amodau ar gyfer mewnforio tsilis a chynhyrchion tsilis drwy ddarparu y gwaherddir mewnforio onid yw'r adroddiad dadansoddiadol sy'n dod gyda'r llwyth yn dangos nid yn unig bod y cynnyrch ddim yn cynnwys Swdan I (Rhif CAS 842-07-9) ond, at hynny, nad yw'n cynnwys Swdan II (Rhif CAS 3118-97-6), Swdan III (Rhif CAS 85-86-9) neu Scarlet Red neu Swdan IV (Rhif CAS 85-83-6). Caiff y newid hwn ei weithredu trwy fewnosod yn O.S. 2003/2455 (Cy. 238) (rheoliad)2(2)(a)) ddiffiniad diwygiedig o "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision").

Rhif au cod y gyfundrefn enwi a sefydlwyd o dan Reoliad 2658/87 ar y tariff a'r gyfundrefn enwi ystadegol ac ar dariff y tollau (OJ Rhif L256, 7.9.87, t.1) yw'r codau CN y cyfeirir atynt yn y diffiniad o "tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth" ("hot chilli and hot chilli products").

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] O.S. 2003/2901.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] O.S. 2003/2455 (Cy.238).back

[4] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11090874 0


  © Crown copyright 2004

Prepared 3 March 2004
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010