BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 Rhif 2455 (Cy.238)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032455w.html

[New search] [Help]

OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 2455 (Cy.238)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 24 Medi 2003 
  Yn dod i rym s25 Medi 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 25 Medi 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    nid yw "awdurdod bwyd" ("food authority") yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;

    ystyr "awdurdod iechyd porthladd" ("port health authority") mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984[3], yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

    mae i "cylchrediad rhydd" yr un ystyr â "free circulation" yn Erthygl 23.2, o'i darllen ynghyd ag Erthygl 24, o'r Cytuniad a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd;

    ystyr "y Ddeddf ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990[4] ac eithrio lle mae'r cyd-destun yn mynnu fel arall ac yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr sydd i'r term Saesneg cyfatebol yn y Ddeddf;

    ystyr "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") yw Penderfyniad y Comisiwn 2003/460/EC ar fesurau brys ynghylch tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth[5] fel y'i cywirwyd drwy gywiriad a gyhoeddwyd ar 25 Gorffennaf 2003[6];

    ystyr "tsilis poeth a chyhyrchion tsilis poeth" ("hot chilli and hot chilli products") yw ffrwythau'r genws Capsicum, sydd wedi'u sychu a'u gwasgu neu wedi'u malu ac sy'n dod o dan god CN 0904 20 30 neu 0904 20 90; ac

    ystyr "tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth a reolir" ("controlled hot chilli and hot chilli products") yw tsilis a chynhyrchion tsilis poeth sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl.

    (2) Mae i unrhyw derm a ddefnyddir yn y diffiniad o "tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth" ym mharagraff (1) yr un ystyr â'r term cyfatebol ym Mhenderfyniad y Comisiwn.

Gwahardd mewnforio
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb fewnforio i Gymru unrhyw dsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth oni bai  - 

    (a) bod yr amodau a bennir yn Erthyglau 2.1 a 2.3, 3.1 a 3.4 o Benderfyniad y Comisiwn wedi'u bodloni mewn perthynas â'r cynhyrchion hynny; a

    (b) bod y costau sy'n deillio o'u dadansoddi a'u storio wedi'u pennu yn Erthygl 6 o'r Penderfyniad wedi'u talu.

    (2) Rhaid peidio â deall unrhyw beth ym mharagraff (1) fel petai'n gwahardd mewnforio i Gymru o Aelod-wladwriaeth unrhyw dsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth a reolir ac sydd mewn cylchrediad rhydd yn yr Aelod-wladwriaeth honno.

    (3) Euog o dramgwydd yw unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (1), gan wybod hynny, ac mae'n agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am dymor nad yw'n hwy na thri mis.

    (4) At ddibenion penderfynu a yw person yn euog neu beidio o dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i baragraff (3), rhaid rhagdybio, oni phrofir i'r gwrthwyneb, mai tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth a reolir yw unrhyw dsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth.

Gorfodi
    
4.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dyletswydd pob awdurdod iechyd porthladd fydd gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

    (2) Mewn perthynas ag unrhyw le nad yw o fewn ardal awdurdod iechyd porthladd, rhaid i'r awdurdod bwyd ar gyfer yr ardal y mae'r lle hwnnw ynddi weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.

    (3) At ddibenion arfer y ddyletswydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) neu, yn ôl fel y digwydd, (2), rhaid i swyddog awdurdodedig yr awdurdod o dan sylw - 

    (a) sicrhau y glynir wrth y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (4); a

    (b) bod â'r un pwerau mynediad ag a roddir i swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi o dan adran 32 o'r Ddeddf at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r Ddeddf neu Reoliadau neu Orchmynion a wnaed o dan y Ddeddf.

    (4) Y gofynion yw'r gofynion a bennir yn  - 

    (a) Erthygl 2.1 a 2.2 o Benderfyniad y Comisiwn (sy'n ymwneud â gwirio'r dogfennau sy'n berthnasol i lwythau o dsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth a reolir);

    (b) Erthyglau 3 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud â samplu a dadansoddi'r llwythau hynny), ac eithrio'r gofyniad i roi gwybodaeth benodedig i'r Comisiwn; ac

    (c) Erthygl 4 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud ag achosion lle mae llwythi wedi'u rhannu).

    (5) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd ac awdurdod bwyd roi unrhyw gymorth a gwybodaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Asiantaeth Safonau Bwyd y maent yn gofyn yn rhesymol amdanynt mewn cysylltiad â gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.

Cymhwyso amryw ddarpariaethau yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 a samplu a dadansoddi
    
5.  - (1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn  - 

    (a) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

    (b) adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.);

    (c) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b);

    (ch) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b);

    (d) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (c);

    (dd) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

    (e) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

    (2) Mae adran 29 o'r Ddeddf (caffael samplau) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiadau canlynol  - 

    (a) bod y geiriau "a food authority or as the case may be a port health authority" yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau "an enforcement authority";

    (b) bod y ddarpariaeth ganlynol yn cael ei rhoi yn lle is-adran (b)(ii)  - 

        " (ii) is found by him at any premises which he is authorised to enter by virtue of regulation 4(3)(b) of the Food (Hot Chilli and Hot Chilli Products) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2003;";

    (c) hepgorir is-adran (c); ac

    (ch) yn lle'r geiriau "any of the provisions of this Act or of regulations or orders made under it" yn is-adran (d) rhoddir y geiriau "the Food (Hot Chilli and Hot Chilli Products) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2003".

    (3) Bydd adran 30 (dadansoddi samplau etc.) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad canlynol, sef mai yn is-adran (1) yn lle'r geiriau "An authorised officer of an enforcement authority who has procured a sample under section 29 above shall" rhoddir y geiriau "An authorised officer of a food authority or a port health authority who has procured a sample under section 29 above as applied for the purposes of the Food (Hot Chilli and Hot Chilli Products) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2003 by regulation 5(2) thereof shall".

    (4) Pan fydd sampl a sicrhawyd o dan adran 29 o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir at ddibenion y Rheoliadau hyn gan baragraff (2) wedi'i ddadansoddi yn unol â'r darpariaethau yn adran 30 o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir gan baragraff (3), bydd hawl gan y perchennog, os bydd yn gofyn am un, i gael copi o'r dystysgrif ddadansoddi gan yr awdurdod y mae'n ddyletswydd arno, yn rhinwedd rheoliad 4(1) neu (2), i orfodi'r darpariaethau hynny.

Distrywio mewnforion anghyfreithlon
    
6.  - (1) Wedi arolygu neu archwilio unrhyw dsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth, os yw'n ymddangos i swyddog awdurdodedig awdurdod iechyd porthladd neu, yn ôl fel y digwydd, awdurdod bwyd, eu bod wedi'u mewnforio yn groes i reoliad 3(1), ar ôl iddo ymgynghori'n briodol â pherson y mae'n ymddangos iddo mai ef yw'r mewnforiwr, caiff gyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw sy'n gorchymyn distrywio'r tsilis poeth a'r cynhyrchion tsilis poeth o fewn y cyfnod rhesymol a bennir.

    (2) Mewn unrhyw achos pan ganiateir dwyn apêl o'r math a grybwyllir ym mharagraff (3), rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan  - 

    (a) bod hawl apelio i lys ynadon; a

    (b) y cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl.

    (3) Caiff unrhyw berson sy'n tybio iddo gael cam oherwydd penderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) apelio i lys ynadon a fydd yn penderfynu a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio.

    (4) Chwe diwrnod o'r dyddiad pryd y cyflwynwyd yr hysbysiad ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Cyhoeddus yw'r cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl a grybwyllwyd ym mharagraff (3) ac at ddibenion y paragraff hwn bernir bod gwneud y gwyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl.

    (5) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (3) y weithdrefn fydd ei gwneud drwy gyfrwng cwyn ar gyfer gorchymyn a Deddf Llysoedd Ynadon 1980[
7] fydd yn gymwys i'r achos.

    (6) Os yw'r llys yn caniatáu apêl o dan baragraff (3), rhaid i'r awdurdod o dan sylw dalu iawndal i berchennog y tsilis poeth a'r cynhyrchion tsilis poeth o dan sylw am unrhyw ddibrisiant yn eu gwerth sy'n dod yn sgil y camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.

    (7) Penderfynir unrhyw gwestiwn y mae dadl yn ei gylch ynghylch hawl i iawndal neu swm iawndal sy'n daladwy o dan baragraff (6) drwy gymrodeddu.

    (8) Bydd unrhyw berson sy'n torri telerau hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am dymor nad yw'n hwy na thri mis.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]


Dafydd Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Medi 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2003/460/EC ar fesurau brys ynghylch tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth (OJ Rhif L154, 21.6.2003, t.114) fel y'u cywirwyd drwy gywiriad a gyhoeddwyd ar 25 Gorffennaf 2003 (OJ Rhif L186, 25.7.2003, t.47).

Mae'r Rheoliadau  - 

    (a) yn gwahardd mewnforio "tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth a reolir" (fel y'u diffinnir yn rheoliad 2(1)), ac eithrio os yw adroddiad dadansoddiadol sy'n dangos nad yw'r cynnyrch yn cynnwys Swdan I (CAS Rhif 842-07-09) yn dod gyda hwy (rheoliad 3);

    (b) yn darparu ar gyfer eu gorfodi (rheoliad 4);

    (c) yn cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau penodol yn y Ddeddf Diogelwch Bwyd at ddibenion y Rheoliadau ac yn darparu ar gyfer samplu a dadansoddi (rheoliad 5); ac

    (ch) yn darparu ar gyfer distrywio mewnforion anghyfreithlon o dsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth a reolir (rheoliad 6).

Rhifau cod y gyfundrefn enwi a sefydlwyd o dan Reoliad 2658/87 ar y tariff a'r gyfundrefn enwi ystadegol ac ar dariff y Dollau (OJ Rhif L256, 7.9.87, t.1) yw'r codau CN y cyfeirir atynt yn y diffiniad o "tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth".

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ynglycircn â'r Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] 1984 p.22.back

[4] 1990 p. 16.back

[5] OJ Rhif L154, 21.6.2003, t.114.back

[6] OJ Rhif L186, 25.7.2003, t.47.back

[7] 1980 p. 43.back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090785 X


 
© Crown copyright 2003
Prepared 6 October 2003

About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010