BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 Rhif 2254 (Cy.224)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032254w.html

[New search] [Help]

OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 2254 (Cy.224)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 2 Medi 2003 
  Yn dod i rym 5 Medi 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, gan weithredu i arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003, deuant i rym ar 5 Medi 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    mae i "awdurdod bwyd" yr un ystyr â "food authority" yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o'r Ddeddf;

    ystyr "awdurdod iechyd porthladd" ("port health authority") mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984[3], awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a sefydlwyd gan orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf;

    ystyr "cnau Brasil" ("Brazil nuts") yw cnau Brasil yn eu plisg ac sy'n dod o fewn Cod CN 0801 21 00 sy'n tarddu o Frasil neu sy'n cael eu traddodi oddi yno[4];

    ystyr "Cyfarwyddeb 98/53/EC" ("Directive 98/53/EC") yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 98/53/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol ar lefelau halogion penodol mewn bwydydd[5] fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2002/27/EC[6];

    mae i "cylchrediad rhydd" yr un ystyr â "free circulation" yn Erthygl 23.2, fel y'i darllenir ynghyd ag Erthygl 24, o'r Cytuniad a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd;

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990[7]) ac, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall ac yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr sydd iddo yn y Ddeddf; ac

    ystyr "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") yw Penderfyniad y Comisiwn 2003/493/EC sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau Brasil yn eu plisg ac sy'n tarddu o Frasil neu yn cael eu traddodi oddi yno[8];

    (2) Mae i unrhyw derm a ddefnyddir yn y diffiniad o "cnau Brasil" ym mharagraff (1) yr un ystyr â'r termau cyfatebol ym Mhenderfyniad y Comisiwn.

Gwaharddiad ar fewnforio
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff unrhyw berson fewnforio unrhyw gnau Brasil i Gymru oni bai - 

    (a) i'r amodau a bennir yn Erthyglau 1.1, 4.1, 4.2 ac Erthygl 5 o Benderfyniad y Comisiwn gael eu bodloni mewn perthynas â'r cnau Brasil hynny; neu

    (b) i'r rhanddirymiad a gynhwysir yn Erthygl 1.2 o Benderfyniad y Comisiwn (sy'n ymwneud â llwythi a ymadawodd â Brasil cyn 5 Gorffennaf 2003) gael ei fodloni mewn perthynas â hwy.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb fewnforio unrhyw gnau Brasil i Gymru, ac eithrio drwy bwynt mynediad a restrir yn Atodlen II i Benderfyniad y Comisiwn.

    (3) Rhaid peidio â deall na pharagraff (1) na pharagraff (2) fel petaent yn gwahardd mewnforio i Gymru unrhyw gnau Brasil ac sydd mewn cylchrediad mewn aelod-Wladwriaeth o'r aelod-Wladwriaeth honno.

    (4) Euog o dramgwydd yw unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (1) neu (2), gan wybod hynny, ac mae'n agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am dymor nad yw'n hwy na thri mis.

Gorfodi
    
4.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dyletswydd pob awdurdod iechyd porthladd yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

    (2) Mewn perthynas ag unrhyw le nad yw o fewn ardal awdurdod iechyd porthladd, rhaid i'r awdurdod bwyd ar gyfer yr ardal lle mae'r lle hwnnw weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.

    (3) At ddibenion arfer y dyletswydd y cyfeirir ato ym mharagraff (1) neu, yn ôl y digwydd, (2), rhaid i swyddog awdurdodedig yr awdurdod dan sylw - 

    (a) sicrhau y glynir wrth y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (4); ac

    (b) bod â'r un pwerau mynediad ag a roddir i swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi gan adran 32 o'r Ddeddf at ddibenion cysylltiedig â'r Ddeddf neu Reoliadau neu Orchmynion o dan y Ddeddf.

    (4) Y gofynion yw'r gofynion a bennir yn  - 

    (a) Erthyglau 1.1 a 4.1 o Benderfyniad y Comisiwn (sy'n ymwneud â gwirio'r dogfennau perthnasol i lwythi o gnau Brasil);

    (b) Erthygl 4.2 a 4.4 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud â samplu a dadansoddi'r llwythi hynny); ac

    (c) Erthygl 5 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud ag achosion o hollti llwythi).

    (5) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd ac awdurdod bwyd roi unrhyw gymorth a gwybodaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Asiantaeth Safonau Bwyd y maent yn gofyn yn rhesymol amdano neu amdani mewn cysylltiad â gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 a samplu a dadansoddi
    
5.  - (1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn  - 

    (a) adran 20 (tramgwyddau sy'n codi oherwydd bai person arall);

    (b) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

    (c) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b);

    (ch) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau mae'n perthyn i dramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b);

    (d) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n perthyn i dramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (c);

    (dd) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

    (e) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

    (2) Mae adran 29 o'r Ddeddf (caffael samplau) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiadau canlynol  - 

    (a) bod y geiriau "a food authority or as the case may be a port health authority" yn cael eu rhoi yn lle "an enforcement authority";

    (b) yn lle is-baragraff (b)(ii) rhoddir y ddarpariaeth ganlynol  - 

        " (ii) is found by him at any premises which he is authorised to enter by virtue of regulation 4(3)(b) of the Food (Brazil Nuts) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2003";

    (c) bod y pwcircer i gymryd samplau o dan is-adrannau (b) a (d) yn cael ei gyfyngu i gymryd samplau yn unol â'r dulliau cymryd samplau a ddisgrifir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 98/53/EC neu yn unol â'r dulliau y cyfeirir atynt ynddo;

    (ch) bod is-adran (c) yn cael ei hepgor; ac

    (d) bod y geiriau "the Food (Brazil Nuts) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2003" yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau "any of the provisions of this Act or of regulations or orders made under it" yn is-adran (d);

    (3) Pan fydd swyddog awdurdodedig wedi cymryd sampl o unrhyw gnau Brasil yn unol ag adran 29(b) o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir at ddibenion y Rheoliadau hyn gan baragraff (2), rhaid iddo sicrhau - 

    (a) bod y sampl yn cael ei pharatoi yn unol â - 

      (i) paragraffau 1.1, 2 a 3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 98/53/EC, a

      (ii) yn achos cnau cyfain, yn unol â pharagraff 1.2 o'r Atodiad hwnnw;

    (b) bod dadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud mewn labordy sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddeb y Cyngor 93/99/EEC ar bwnc mesurau ychwanegol ynghylch rheolaeth swyddogol ar fwydydd[9];

    (c) bod dadansoddiad yn cael ei wneud cyn gynted ag sy'n bosibl gan ddadansoddwr sydd wedi'i gymhwyso'n briodol yn unol â dulliau dadansoddi sydd - 

      (i) cyn belled ag y bo'n ymarferol, yn cydymffurfio â pharagraffau 1 a 2 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 85/591/EEC sy'n ymwneud â chyflwyno dulliau'r Gymuned o samplu a dadansoddi ar gyfer monitro bwydydd a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl[10], a

      (ii) yn bodloni'r meini prawf a bennir ym mharagraff 4.3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 98/53/EC fel y'i darllenir ynghyd â'r nodiadau sydd iddo; a

    (ch) bod adrodd ar ganlyniad y dadansoddi hwnnw  - 

      (i) yn defnyddio'r diffiniadau ym mharagraff 4.1 o Atodiad II o Gyfarwyddeb 98/53/EC, a

      (ii) yn unol â pharagraff 4.4 o'r Atodiad hwnnw.

    (4) Cyn i ddadansoddwr gytuno i ddadansoddi sampl yn unol â pharagraff (3)(c) caiff fynnu cael ei dalu ymlaen llaw unrhyw ffi resymol y mae'n gofyn amdano.

    (5) Rhaid i ddadansoddwr sydd wedi dadansoddi sampl yn unol â pharagraff (3)(c) roi i'r person a'i rhoddodd iddo dystysgrif a fydd yn pennu canlyniad y dadansoddi ac a fydd wedi'i llofnodi gan y dadansoddwr.

    (6) Mewn unrhyw achos o dan y Rheoliadau hyn, o gael eu cyflwyno gan y naill barti neu'r llall, bydd y canlynol  - 

    (a) dogfen sy'n honni bod yn dystysgrif a roddwyd gan ddadansoddwr o dan baragraff (5); neu

    (b) dogfen a roddwyd iddo gan y parti arall fel copi o'r dystysgrif honno,

yn dystiolaeth ddigonol o'r ffeithiau sy'n cael eu datgan ynddi oni bai, mewn achos sy'n dod o fewn is-baragraff (a), i'r parti arall ofyn i'r dadansoddwr gael ei alw fel tyst.

    (7) Pan fydd sampl a gafwyd o dan adran 29 o'r Ddeddf fel y'i cymhwyswyd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan baragraff (2) wedi'i ddadansoddi yn unol â pharagraff 3(b) ac (c), bydd gan y perchennog hawl ar gais i gael copi o'r dystysgrif ddadansoddi drwy ei awdurdod sydd, yn rhinwedd rheoliad 4(1) neu (2), a dyletswydd arno i'w gorfodi.

    (8) Nid yw dim ym mharagraff (3)(c) i'w gymryd fel petai'n atal i rywun sy'n gweithio o dan gyfarwyddyd dadansoddwr rhag gwneud dadansoddiad.

Ailanfon neu ddistrywio mewnforion anghyfreithlon
     6.  - (1) Wedi arolygu neu archwilio unrhyw gnau Brasil, os yw'n ymddangos i swyddog awdurdodedig awdurdod iechyd porthladd neu yn ôl y digwydd awdurdod bwyd eu bod wedi'u mewnforio i Gymru yn groes i reoliad 3(1) neu wedi'u cludo i Gymru yn groes i reoliad 2(2), wedi iddo ymgynghori'n briodol â pherson y mae'n ymddangos iddo mai ef yw'r mewnforiwr, caiff gyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw ac sy'n gorchymyn  - 

    (a) ailanfon y cnau Brasil i'r wlad y maent yn tarddu ohoni o fewn y cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad, ond dim ond os bodlonir gofynion Erthygl 6 o Benderfyniad y Comisiwn; neu

    (b) (pan na fodlonir y gofynion hynny) distrywio'r cnau Brasil o fewn y cyfnod rhesymol a bennir.

    (2) Mewn unrhyw achos pan ganiateir dwyn apêl o'r fath a grybwyllir ym mharagraff (3) rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan  - 

    (a) hawl apelio i lys ynadon; a

    (b) y cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl.

    (3) Caiff unrhyw berson sy'n tybio iddo gael cam oherwydd penderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) apelio i lys ynadon a fydd yn penderfynu a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio.

    (4) Chwe diwrnod o'r dyddiad pryd cyflwynwyd yr hysbysiad ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Cyhoeddus yw'r cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl a grybwyllir ym mharagraff (3) ac at ddibenion y paragraff hwn bernir bod gwneud y gwcircyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl.

    (5) Drwy gyfrwng cwyn yn erbyn gorchymyn fydd y weithdrefn ar apêl i lys ynadon o dan baragraff (1980) a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980[
11] yn gymwys i'r achos.

    (6) Os yw'r llys yn caniatáu apêl o dan baragraff (3) rhaid i'r awdurdod dan sylw dalu iawndal i berchennog y cnau Brasil dan sylw am unrhyw ddibrisiant yn eu gwerth sy'n dod yn sgil y camau a gymerir gan y swyddog awdurdodedig.

    (7) Penderfynir unrhyw gwestiwn y mae dadl yn ei gylch ynghylch hawl i iawndal neu swm iawndal sy'n daladwy o dan baragraff (6) drwy gymrodeddu.

    (8) Bydd unrhyw berson sy'n torri telerau hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am dymor nad yw'n hwy na thri mis.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[12].


Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

2 Medi 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig, yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2003/493/EC sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau Brasil yn eu plisg ac sy'n deillio o Frasil neu'n cael eu traddodi oddi yno (OJ Rhif L168, 5.7.2003, t. 33).

Mae'r Rheoliadau hyn  - 

    (a) yn gwahardd (yn ddarostyngedig i'r rhanddirymiad a ddisgrifir isod) mewnforio "cnau Brasil" (a ddiffinnir yn rheoliad 2(1)), ac eithrio  - 

      (i) pan fydd tystysgrif iechyd Llywodraeth Brasil ac adroddiad sy'n cynnwys canlyniadau samplu a dadansoddi swyddogol yn mynd gyda hwy, bod y mewnforio yn digwydd drwy bwynt mynediad penodedig yn unig a bod pob llwyth yn cael ei nodi â chod sy'n cyfateb i'r hyn a bennir ar y dystysgrif iechyd a'r adroddiad sy'n cynnwys canlyniadau'r samplu a'r dadansoddi;

      (ii) pan fyddant yn ddarostyngedig i wiriadau dogfennol penodedig; a

      (iii) pan fydd pob llwyth yn cael ei ddadansoddi ar gyfer afflatocsin B1 a'r cyfanswm o lefelau afflatocsin cyn eu rhyddhau i'r farchnad (rheoliad 3);

    (b) yn darparu ar gyfer eu gorfodi (rheoliad 4);

    (c) yn cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau a darparu ar gyfer samplu a dadansoddi (rheoliad 5); a

    (ch) yn darparu ar gyfer ailanfon mewnforion anghyfreithlon o gnau Brasil i'r wlad y maent yn tarddu ohoni neu eu distrywio (rheoliad 6).

Y rhanddirymiad yw bod caniatâd i fewnforio cnau Brasil hyd yn oed os nad yw tystysgrif iechyd Llywodraeth Brasil ac adroddiad sy'n cynnwys canlyniadau samplu a dadansoddi swyddogol yn dod gyda hwy os  - 

    (a) ymadawsant â Brasil ar neu cyn 5 Gorffennaf 2003;

    (b) gall y gweithredydd ddangos drwy gyfrwng samplu a dadansoddi yn y dull rhagnodedig nad yw'r lefelau afflatocsin B1 a'r cyfanswm o afflatocsin yn y cynhyrchion yn uwch nag uchafbwynt y lefelau a ganiateir; ac

    (c) digwydd y mewnforio drwy bwynt mynediad penodedig (rheoliad 3).

Rhif cod yw'r cod CN y cyfeirir ato yn y diffiniad o "cnau Brasil" a hwnnw'n god y gyfundrefn enwi cyfun a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor 2658/87 ar y tariff a'r gyfundrefn enwi ystadegol ac ar dariff y tollau (OJ Rhif L256, 7.9.87, t. 1).

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] 1984 p.22.back

[4] Cod CN yw Rhif cod y "gyfundrefn enwi gyfun" a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor 1658/87 ar y tariff a chyfundrefn enwi ystadegol ar dariff y tollau (Rhif OJ L256, 7.9.87, t. 1).back

[5] OJ Rhif L201, 17.7.1998, t.93.back

[6] OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.44.back

[7] 1990 p. 16.back

[8] OJ Rhif L168, 5.7.2003, t.33.back

[9] OJ Rhif L290, 24.11.93, t.14.back

[10] OJ Rhif L372, 31.12.85, t.50.back

[11] 1980 p. 43.back

[12] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090779 5


 
© Crown copyright 2003
Prepared 15 September 2003

About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010