British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 1852 (Cy. 202)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031852w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 1852 (Cy. 202)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
DŴ R, CYMRU
Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Diwygio) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
16 Gorffennaf 2003 | |
|
Yn dod i rym |
31 Gorffennaf 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), sydd wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â diogelu d r rhag y llygredd sy'n cael ei achosi gan nitradau o ffynonellau amaethyddol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Diwygio) (Cymru) 2003; maent yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 31 Gorffennaf 2003.
Diwygio Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Lloegr a Chymru) 1998
2.
- (1) Mae Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Lloegr a Chymru) 1998[3] ("Rheoliadau 1998") yn cael eu diwygio fel y maent yn gymwys i Gymru yn unol â'r paragraffau canlynol -
(2) Yn rheoliad 2(dehongli) yn y diffiniad o "nitrate vulnerable zones" mewnosodir y geiriau "or 3B" yn union ar ôl "regulation 3".
(3) Yn rheoliad 8(1) (tramgwyddau) -
(i) yn lle "level 5 on the standard scale" rhoddir "the statutory maximum"; a
(ii) hepgorir y geiriau "not exceeding the statutory maximum" yn union ar ôl y gair "fine" lle mae'n ymddangos yr ail dro.
(4) Yn yr Atodlen
(i) ym mharagraff 9, ar ôl is-baragraff (2), mewnosodir y canlynol -
"
(3) Subparagraph (2)(b)(i) shall have effect in relation to all nitrate vulnerable zones in Wales except Dyserth and Trelech as if "2006" were substituted for "2002"";
(ii) yn lle paragraff 15 rhoddir -
"
15.
Any record of an event made for the purposes of paragraph 14 shall be retained for a period of 5 years after that event.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Lloegr a Chymru) 1998.
Yn benodol, mewn perthynas â'r ardaloedd pellach hynny a ddynodwyd yn barthau perygl nitradau yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu D r Rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002, maent yn darparu bod y dyddiad ar gyfer y lluosydd 210kg sydd wedi'i nodi ym mharagraff 9(2)(b)(i) o'r Atodlen yn cael ei estyn i 19 Rhagfyr 2006. Mewn perthynas â'r ardaloedd hynny a ddynodwyd yn barthau perygl nitradau cyn Rheoliadau 2002, 19 Rhagfyr 2002 yw'r dyddiad perthnasol o hyd.
Mae'r Rheoliadau hefyd
(a) yn diwygio'r diffiniad o "nitrate vulnerable zones";
(b) yn diwygio rheoliad 8 i ddarparu, o gollfarnu'n ddiannod, ar gyfer dirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol ac, o gollfarnu ar dditiad, ar gyfer dirwy ddigyfyngiad; ac
(c) yn rhoi paragraff 15 newydd yn lle paragraff 15 o'r Atodlen.
Notes:
[1]
Gweler Erthygl 3 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 2) 2001 (OS 2001/2555) ac Atodlen 2, paragraff 2 iddo.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
O.S. 1998/1202.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090767 1
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
23 July 2003
|