BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 Rhif 1119 (Cy.150)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031119w.html

[New search] [Help]

OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1119 (Cy.150)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 16 Ebrill 2003 
  Yn dod i rym 17 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 17 Ebrill 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    mae i "awdurdod bwyd" yr un ystyr â "food authority" yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[3];

    ystyr "awdurdod iechyd porthladd" ("port health authority") yw  - 

    mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, awdurdod iechyd porthladd i'r ardal honno a sefydlwyd gan orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

         benodedig i'r Comisiwn.

    ystyr "cnau pistasio Iranaidd" ("Iranian pistachios") yw  - 

    (a) cnau pistasio sy'n dod o fewn cod CN 0802 50 00; a

    (b) cnau pistasio wedi eu rhostio sy'n dod o fewn cod CN 2008 19 13 neu god 2008 19 93,

ac unrhyw gynhyrchion sy'n deillio o gnau pistasio neu gnau pistasio wedi eu rhostio sy'n tarddu, neu a anfonwyd, o Iran;

    ystyr "Cyfarwyddeb 98/53/EC" ("Directive 98/53/EC") yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 98/53/EC sy'n pennu'r dulliau samplo a dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol ar lefelau halogion penodol mewn bwydydd[4] fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2002/27/EC[5];

    mae i "cylchrediad rhydd" yr un ystyr â "free circulation" yn Erthygl 23.2, fel y'i darllenir ynghyd ag Erthygl 24, o'r Cytuniad a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd;

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

    ystyr "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") yw Penderfyniad y Comisiwn 97/830/EC sy'n diddymu Penderfyniad y Comisiwn 97/613/EC ac yn gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio o gnau pistasio ac sy'n tarddu neu wedi cael eu hanfon o Iran[6] fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 1998/400/EC[7]), 2000/238/EC[8] a 2002/1041/EC; ac

    ystyr "Rhif y cod CN" ("CN code number") yw Rhif cod y gyfundrefn enwi a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2658/87 ar y tariff a'r gyfundrefn enwi ystadegol ac ar dariff Cyffredin y Dollau.[9])

    (2) Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y diffiniad o "cnau pistasio Iranaidd" ym mharagraff (1) yr un ystyr â'r ymadroddion cyfatebol ym Mhenderfyniad y Comisiwn.

Gwaharddiad ar fewnforio
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb fewnforio i Gymru unrhyw gnau pistasio Iranaidd oni bai bod yr amodau a bennir yn Erthygl 2.4 a 2.5 o Benderfyniad y Comisiwn wedi eu bodloni mewn perthynas â'r cnau pistasio hynny.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb fewnforio i Gymru unrhyw gnau pistasio, heblaw drwy bwynt mynediad a restrir yn Atodiad II i Benderfyniad y Comisiwn.

    (3) Rhaid peidio â deall na pharagraff (1) na pharagraff (2) fel petaent yn gwahardd mewnforio i Gymru o Aelod-wladwriaeth unrhyw gnau pistasio Iranaidd sydd sydd mewn cylchrediad rhydd yn yr Aelod-wladwriaeth honno.

    (4) Euog o dramgwydd yw unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (1) neu (2), gan wybod hynny, ac mae'n agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am dymor nad yw'n hwy na thri mis.

Gorfodi
    
4.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dyletswydd pob awdurdod iechyd porthladd yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

    (2) Mewn perthynas ag unrhyw le nad yw o fewn ardal awdurdod iechyd porthladd, rhaid i'r awdurdod bwyd ar gyfer yr ardal y mae'r lle hwnnw ynddi weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.

    (3) At ddibenion arfer y dyletswydd y cyfeirir ato ym mharagraff (1) neu, yn ôl y digwydd, (2), rhaid i swyddog awdurdodedig yr awdurdod dan sylw - 

    (a) sicrhau y glynir wrth y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (4); a

    (b) bod â'r un pwerau mynediad ag a roddir i swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi gan adran 32 o'r Ddeddf at ddibenion cysylltiedig â'r Ddeddf neu Reoliadau neu Orchmynion a wnaed o dan y Ddeddf.

    (4) Y gofynion yw'r gofynion a bennir yn  - 

    (a) Erthygl 2.4 o Benderfyniad y Comisiwn (sy'n ymwneud â gwirio'r dogfennau perthnasol i lwythau o gnau pistasio Iranaidd); a

    (b) Erthyglau 2.5 a 2.6 o'r Penderfyniad hwnnw (y mae ei ddarpariaethau yn ymwneud â samplo a dadansoddi'r llwythau hynny), ac eithrio'r gofyniad o dan Erthygl 2.5 i roi gwybodaeth benodedig i'r Comisiwn.

    (5) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd ac awdurdod bwyd roi unrhyw gymorth a gwybodaeth i'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Asiantaeth Safonau Bwyd y maent yn gofyn yn rhesymol amdano neu amdani mewn cysylltiad â gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.

Cymhwyso amryw ddarpariaethau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a samplo a dadansoddi
    
5.  - (1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn  - 

    (a) adran 20 (tramgwyddau sy'n codi oherwydd bai person arall);

    (b) adran 33 (rhwystro swyddogion etc.);

    (c) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b);

    (ch) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b);

    (d) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (c);

    (dd) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); a

    (e) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

    (2) Mae adran 29 o'r Ddeddf (caffael samplau) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiadau canlynol  - 

    (a) bod y geiriau "a food authority or as the case may be a port health authority" yn cael eu rhoi yn lle "an enforcement authority";

    (b) bod y ddarpariaeth a ganlyn yn cael ei rhoi yn lle is-adran (b)(ii)  - 

        " (ii) is found by him at any premises which he is authorised to enter by virtue of regulation 4(3)(b) of the Food (Pistachios from Iran) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2003";

    (c) bod y pwcircer i gymryd samplau o dan is-adrannau (b) a (d) yn cael ei gyfyngu i gymryd samplau yn unol â'r dulliau cymryd samplau a ddisgrifir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 98/53/EC neu yn unol â'r dulliau y cyfeirir atynt ynddo;

    (ch) hepgorir is-adran (c): a

    (d) bod y geiriau "the Food (Pistachios from Iran) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2003" yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau "any of the provisions of this Act or of regulations or orders made under it" yn is-adran (d);

    (3) Pan fydd swyddog awdurdodedig wedi cymryd sampl o unrhyw gnau pistasio Iranaidd yn unol ag adran 29(b) o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir at ddibenion y Rheoliadau hyn gan baragraff (2), rhaid iddo sicrhau - 

    (a) bod y sampl yn cael ei pharatoi - 

      (i) yn unol â pharagraffau 1.1, 2 a 3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 98/53/EC, a

      (ii) yn achos cnau cyfain, yn unol â pharagraff 1.2 o'r Atodiad hwnnw;

    (b) bod dadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud mewn labordy sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddeb y Cyngor 93/99/EEC ar bwnc mesurau ychwanegol ynghylch rheolaeth swyddogol ar fwydydd[10];

    (c) bod dadansoddiad yn cael ei wneud cyn gynted ag sy'n bosibl gan ddadansoddwr sydd wedi'i gymhwyso'n briodol yn unol â dulliau dadansoddi sydd - 

      (i) cyn belled ag y bo'n ymarferol, yn cydymffurfio â pharagraffau 1 a 2 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 85/591/EEC sy'n ymwneud â chyflwyno dulliau'r Gymuned o samplo a dadansoddi ar gyfer monitro bwydydd sydd i'w bwyta gan bobl[11], a

      (ii) yn bodloni'r meini prawf a bennir ym mharagraff 4.3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 98/53/EC fel y'i darllenir ynghyd â'r nodiadau sydd iddo; ac

    (ch) bod yr adroddiad am ganlyniad y dadansoddi hwnnw  - 

      (i) defnyddio'r diffiniadau ym mharagraff 4.1 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 98/53/EC, a

      (ii) yn cyd-fynd â pharagraff 4.4 o'r Atodiad hwnnw.

    (4) Cyn i ddadansoddwr gytuno i ddadansoddi sampl yn unol â pharagraff (3)(c) caiff fynnu cael ei dalu unrhyw ffi resymol y mae'n gofyn amdano.

    (5) Rhaid i ddadansoddwr sydd wedi dadansoddi sampl yn unol â pharagraff (3)(c) roi i'r person a'i rhoddodd iddo dystysgrif a fydd yn pennu canlyniad y dadansoddi ac a fydd wedi'i llofnodi gan y dadansoddwr.

    (6) Mewn unrhyw achos o dan y Rheoliadau hyn, os bydd un parti yn cyflwyno  - 

    (a) dogfen sy'n honni bod yn dystysgrif a roddwyd gan ddadansoddwr o dan baragraff (5); neu

    (b) dogfen a roddwyd iddo gan y parti arall fel copi o dystysgrif o'r fath,

yn dystiolaeth ddigonol o'r ffeithiau sy'n cael eu datgan ynddi oni bai, mewn achos sy'n dod o fewn is-baragraff (a), bod y parti arall yn gofyn i'r dadansoddwr gael ei alw fel tyst.

    (7) Pan fydd sampl a gafwyd o dan adran 29 o'r Ddeddf fel y'i cymhwyswyd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan baragraff (2) wedi'i dadansoddi yn unol â pharagraff 3(b) ac (c), bydd gan y perchennog hawl ar gais i gael copi o'r dystysgrif ddadansoddi gan yr awdurdod sydd, yn rhinwedd rheoliad 4(1) neu (2), â'r dyletswydd o'u gorfodi.

    (8) Nid yw dim ym mharagraff (3)(c) i'w gymryd fel petai'n atal rhywun sy'n gweithio o dan gyfarwyddyd dadansoddwr rhag gwneud dadansoddiad.

Anfon yn ôl neu ddistrywio mewnforion anghyfreithlon
     6.  - (1) Wedi arolygu neu archwilio unrhyw gnau pistasio Iranaidd, os yw'n ymddangos i swyddog awdurdodedig awdurdod iechyd porthladd neu, yn ôl y digwydd, awdurdod bwyd, eu bod wedi'u mewnforio yn groes i reoliad 3(1) neu (2), wedi iddo ymgynghori'n briodol â pherson y mae'n ymddangos iddo mai ef yw'r mewnforiwr, caiff gyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw sy'n gorchymyn  - 

    (a) anfon y cnau pistasio Iranaidd y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd o fewn y cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad; neu

    (b) (petai'r anfon hwnnw yn ei farn ef yn creu peryglon difrifol i iechyd pobl), distrywio'r cnau pistasio Iranaidd o fewn y cyfnod rhesymol a bennir.

    (2) Mewn unrhyw achos pan ganiateir dwyn apêl o'r math a grybwyllir ym mharagraff (3) rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan  - 

    (a) bod hawl apelio i lys ynadon; ac

    (b) y cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl.

    (3) Caiff unrhyw berson sy'n tybio iddo gael cam oherwydd penderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) apelio i lys ynadon a fydd yn penderfynu a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio.

    (4) Chwe diwrnod o'r dyddiad pryd cyflwynwyd yr hysbysiad ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Cyhoeddus yw'r cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl a grybwyllir ym mharagraff (3) ac at ddibenion y paragraff hwn bernir bod gwneud y gwcircyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl.

    (5) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (3) y weithdrefn fydd ei wneud drwy gyfrwng cwyn ar gyfer gorchymyn a Deddf Llysoedd Ynadon 1980[
12] fydd yn gymwys i'r achos.

    (6) Os yw'r llys yn caniatáu apêl o dan baragraff (3) rhaid i'r awdurdod dan sylw dalu iawndal i berchennog y cnau pistasio Iranaidd dan sylw am unrhyw ddibrisiant yn eu gwerth sy'n dod yn sgil y camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.

    (7) Penderfynir unrhyw gwestiwn y mae dadl yn ei gylch ynghylch hawl i iawndal neu swm iawndal sy'n daladwy o dan baragraff (6) drwy gymrodeddu.

    (8) Bydd unrhyw berson sy'n torri telerau hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am dymor nad yw'n hwy na thri mis.

Diddymu Gorchymyn Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) 1997
     7. Mae Gorchymyn Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) 1997[13] yn cael ei ddirymu i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[14]


J.E. Randerson
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg

16 Ebrill 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau Orchymyn Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) 1997, fel y'i diwygiwyd sy'n gymwys i Brydain Fawr i gyd. Rheoliad 7 sy'n rhoi effaith i'r diddymu. Rhoddodd y Gorchymyn hwnnw Benderfyniad y Comisiwn 97/613/EC ar waith sy'n ymdrin ag atal dros dro fewnforio cnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio o gnau pistasio ac sy'n tarddu neu a anfonwyd o Iran (OJ Rhif L248, 11.9.97, t.33), a chafodd ei ddiddymu wedyn a rhoddwyd yn ei le Benderfyniad y Comisiwn 1997/830/EC (OJ Rhif 343, 13.12.97, t. 30).

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith Benderfyniad y Comisiwn 1997/830/EC sy'n diddymu Penderfyniad y Comisiwn 97/613/EC ac yn gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio o gnau pistasio sy'n tarddu, neu a anfonwyd, o Iran (OJ Rhif L343, 13.12.1997, t.30) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 1998/400/EC (OJ Rhif L176, 20.6.98, t.37), 2000/238/EC (OJ Rhif L75, 24.3.2000, t.59) a 2002/1041/EC. Pennir y categorïau o gynhyrchion sy'n ddarostyngedig i'r amodau hynny yn Erthygl 2 o Benderfyniad y Comisiwn 1997/830/EC fel y'i diwygiwyd.

Mae'r Rheoliadau hyn  - 

    (a) yn gwahardd mewnforio "cnau pistasio Iranaidd" (fel y'u diffinnir yn rheoliad 2(1)), oni bai  - 

      (i) bod ganddynt dystysgrif iechyd Llywodraeth Iran, a chanlyniadau'r samplo a'r dadansoddi swyddogol, mai drwy bwynt mynediad penodedig yn unig mae'r mewnforio yn digwydd a bod pob llwyth wedi cael ei nodi â chod sy'n cyfateb i'r cod a nodwyd ar y dystysgrif iechyd a'r adroddiad sy'n dod gyda hwy sy'n cynnwys canlyniadau'r samplo a'r dadansoddi;

      (ii) bod dogfennau perthnasol penodedig wedi cael eu gwirio; a

      (iii) bod pob llwyth yn cael ei ddadansoddi am lefelau afflatocsin B1 a lefelau afflatocsin cyfan cyn ei ryddhau ar y farchnad (rheoliad 3);

    (b) yn darparu ar gyfer eu gorfodi (rheoliad 4);

    (c) yn cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau ac yn darparu ar gyfer samplo a dadansoddi (rheoliad 5); ac

    (ch) yn darparu ar gyfer anfon yn ôl neu ddistrywio mewnforion anghyfreithlon o gnau pistasio Iranaidd (rheoliad 6).

Dyma'r prif newidiadau sy'n cael eu hachosi gan y Rheoliadau hyn  - 

    (a) addaswyd y gofyniad blaenorol bod bob llwyth o gnau pistasio Iranaidd yn cael ei samplo a'i ddadansoddi er mwyn sicrhau cydymffurfio â Phenderfyniad y Comisiwn 1997/830/EC drwy ddarparu  - 

      (i) bod rhaid dadansoddi sampl o bob llwyth am afflatocsin B1 ac afflatocsin cyfan cyn ei ryddhau ar y farchnad o'r pwynt mynediad i'r Gymuned,

      (ii) na ddylai'r cyfnod cadw fod yn fwy na 10 diwrnod gwaith, a

      (iii) bod rhaid i swyddog awdurdodedig yr awdurdod gorfodi perthnasol gyhoeddi hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan bod samplo wedi digwydd a chyhoeddi canlyniadau dadansoddi'r sampl; a

    (b) rhoddir pwcircer i swyddog awdurdodedig yr awdurdod gorfodi perthnasol (yn ddarostyngedig i hawl apêl i lys ynadon) gyhoeddi hysbysiad yn gorchymyn anfon mewnforion anghyfreithlon o gnau pistasio Iranaidd yn ôl.

Ni pharatowyd arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] O.S. 1972/1811.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] 1990 p.16.back

[4] OJ Rhif L201, 17.7.1998, t.93.back

[5] OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.44.back

[6] OJ Rhif L176, 20.6.98, t.37.back

[7] OJ Rhif L343, 13.12.1997, t.30.back

[8] OJ Rhif L75, 24.3.2000, t.59.back

[9] OJ Rhif L256, 7.9.87, t.1.back

[10] OJ Rhif L290, 24.11.93, t.14.back

[11] OJ Rhif L372, 31.12.85, t.50.back

[12] 1980 p. 43.back

[13] O.S. 1997/2238, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/3046.back

[14] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090739 6


 
© Crown copyright 2003
Prepared 13 May 2003

About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010