BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) (Diwygio) 2003 Rhif 896 (Cy.116)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030896w.html

[New search] [Help]

OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 896 (Cy.116)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) (Diwygio) 2003

  Wedi'u gwneud 26 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(2), 22(1), (2)(a) i (c), (e) i (j), (6), (7)(a) i (h), (j), 25(1), 34(1), 35(1), 48(1), 118(5), (6) a (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] ac adrannau 23(2)(a) a (9), 59(2) a 62(3) o Ddeddf Plant 1989[2] a pharagraff 12 o Atodlen 2 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003 yn union ar ôl i Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003[3] ddod i rym.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003
     2.  - (1) Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 yn cael eu diwygio yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Yn lle rheoliad 52 (darpariaethau trosiannol) rhoddir y rheoliad canlynol

         " 52.  - (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a oedd, yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, naill ai'n rhedeg neu'n rheoli asiantaeth faethu ac sy'n parhau naill ai i'w rhedeg neu i'w rheoli.

        (2) Ni fydd adran 11(1), (5) a (6) o Ddeddf 2000 yn gymwys i berson y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ("person anghofrestredig")  - 

      (a) os gwneir cais yn briodol am gofrestru cyn 1 Gorffennaf 2003 o dan Ran II o Ddeddf 2000, tan yr amser y caniateir y cais am gofrestru, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y person hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu

      (b) os caniateir y cais a wnaed yn briodol yn unol ag is-baragraff (a) yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os yw'n cael ei wrthod - 

        (i) os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r person hwnnw wedi dod i ben; neu

        (ii) os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng; neu

      (c) tan 1 Gorffennaf 2003 yn achos person anghofrestredig nad yw'n gwneud cais yn unol ag is-baragraff (a).

        (3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os  - 

      (a) yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud cais i ynad heddwch am orchymyn bod adran 11(1), (5) a (6) o Ddeddf 2000 yn gymwys i berson anghofrestredig ac y dylai paragraff (2) o'r rheoliad hwn beidio â bod yn gymwys i'r person anghofrestredig hwnnw; a

      (b) yn nhyb yr ynad, os na wneir y gorchymyn y bydd perygl difrifol i fywyd, iechyd neu les rhywun.

        (4) Os yw paragraff (3) yn gymwys - 

      (a) caiff yr ynad wneud y gorchymyn y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw;

      (b) bydd adran 11 o Ddeddf 2000 yn gymwys i'r person anghofrestredig, a bydd paragraff (2) o'r rheoliad hwn yn peidio â bod yn gymwys i'r person anghofrestredig, o'r amser pan wneir y gorchymyn.

        (5) Bydd adran 20(2), (4) a (5) o Ddeddf 2000 yn gymwys i unrhyw gais a wneir i ynad o dan baragraff (3), ac i unrhyw orchymyn a wneir o dan baragraff (4), fel petai'r cais neu'r gorchymyn (yn ôl y digwydd) wedi ei wneud o dan adran 20(1) o Ddeddf 2000 ac yn gymwys i'r person anghofrestredig.

        (6) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i asiantaeth faethu sy'n dod o dan adran 4(4)(b) o Ddeddf 2000 (corff gwirfoddol sy'n lleoli plant gyda rhieni maeth o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989) sy'n bodoli yn union cyn i'r rheoliadau hyn ddod i rym.

        (7) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i asiantaeth faethu y mae paragraff (6) yn gymwys iddi, fel petai unrhyw gyfeiriad ynddynt at berson cofrestredig yn gyfeiriad at y person sy'n rhedeg yr asiantaeth[
    4]  - 

      (a) os gwneir cais yn briodol am gofrestru cyn 1 Gorffennaf 2003 o dan Ran II o Ddeddf 2000, tan yr amser y caniateir y cais am gofrestru, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y person hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu

      (b) os caniateir y cais a wnaed yn briodol yn unol ag is-baragraff (a) yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os yw'n cael ei wrthod - 

        (i) os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r person hwnnw wedi dod i ben; neu

        (ii) os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng; neu

      (c) tan 1 Gorffennaf 2003, os na wneir cais yn briodol yn unol ag is-baragraff (a).

        (8) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i asiantaeth faethu annibynnol sy'n cael ei rhedeg gan gorff gwirfoddol, sy'n bodoli yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

        (9) Os yw awdurdod lleol sy'n gofalu am blentyn wedi ei fodloni y dylai'r plentyn gael ei leoli gyda rhieni maeth, caiff wneud trefniadau, yn ddarostyngedig i baragraff (10), i'r dyletswyddau sy'n cael eu gosod arno gan reoliadau 34, 35, 36(1) a 37 gael eu cyflawni ar ei ran gan y corff gwirfoddol y mae paragraff (8) yn gymwys iddo ("darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig") - 

      (a) os gwneir cais yn briodol am gofrestru cyn 1 Gorffennaf 2003 o dan Ran II o Ddeddf 2000, tan yr amser y caniateir y cais am gofrestru, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y darparwr hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu

      (b) os caniateir cais a wnaed yn briodol yn unol ag is-baragraff (a) yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os yw'n cael ei wrthod - 

        (i) os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r darparydd hwnnw wedi dod i ben; neu

        (ii) os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng; neu

      (c) tan 1 Gorffennaf, os na wneir cais yn briodol yn unol ag is-baragraff (a).

        (10) Ni chaiff awdurdod lleol wneud trefniadau o dan baragraff (9) oni bai - 

      (a) ei fod wedi ei fodloni  - 

        (i) bod y darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig â'r gallu i gyflawni'r dyletswyddau ar ei ran; a

        (ii) mai'r trefniadau hynny yw'r ffordd fwyaf addas o gyflawni'r dyletswyddau hynny; a

      (b) ei fod wedi ymrwymo i gytundeb ysgrifenedig gyda'r darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig ynghylch y trefniadau, sy'n darparu ar gyfer ymgynghori a chyfnewid gwybodaeth ac adroddiadau rhwng yr awdurdod lleol a'r darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig.

        (11) Ni fydd rheoliad 20(5) yn gymwys i unrhyw berson y byddai'n gymwys iddo, ar wahân i'r rheoliad hwn, os yw'r person eisoes yn cael ei gyflogi ar 1 Ebrill 2003 gan ddarparydd gwasanaeth maethu mewn swydd y mae paragraff (6) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys iddi."



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 fel y caiff darpariaethau newydd eu rhoi i reoliad 52 sy'n gwneud darpariaethau trosiannol. O dan y darpariaethau newydd:

Mae rheoliad 52(1)  -  (5) yn gwneud darpariaeth ar gyfer personau sy'n parhau i redeg neu reoli asiantaeth faethu a oedd yn bodoli eisoes cyhyd â bod y ceisiadau am gofrestru'r asiantaeth honno wedi eu gwneud erbyn 1 Gorffennaf 2003.

Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i wasanaethau maethu awdurdodau lleol pan ddeuant i rym. Oherwydd rheoliad 52(6) a (7) byddant hefyd yn gymwys i gorff gwirfoddol a oedd yn bodoli eisoes sy'n parhau i leoli plant gyda rhieni maeth o dan adran 59 o Ddeddf Plant 1989 ac sy'n gwneud cais yn briodol am gael ei gofrestru erbyn 1 Gorffennaf 2003. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i asiantaeth faethu annibynnol tan iddi gael ei chofrestru, ond mae is-baragraffau (8) i (10) o'r rheoliad hwn yn galluogi awdurdod lleol i ddirprwyo dyletswyddau penodol i asiantaeth faethu annibynnol a oedd yn bodoli eisoes sy'n cael ei rhedeg gan gorff gwirfoddol ac sy'n gwneud cais yn briodol am gael ei chofrestru erbyn 1 Gorffennaf 2003. Mae rheoliad 52(11) yn datgymhwyso rheoliad 20(5) (sy'n cyfyngu'r amgylchiadau pan ganiateir person a gymeradwywyd fel rhiant maeth gan wasanaeth maethu hefyd i gael ei gyflogi i weithio dros y gwasanaeth) mewn rhai achosion.


Notes:

[1] 2000 p.14. Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol, sef yr "appropriate Minister". Diffinnir yr "appropriate Minister" yn adran 121(1). Mae'n golygu Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru, ac mae'n golygu'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.back

[2] 1989 p.41.back

[3] O.S. 2003/237 (Cy.35).back

[4] Gweler Adran 121(4) o Ddeddf Safonau Gofal 2000.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090702 7


 
© Crown copyright 2003
Prepared 7 April 2003

About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010