BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003 Rhif 390 (Cy.52)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030390w.html

[New search] [Help]

OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 390 (Cy.52)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 25 Chwefror 2003 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 323 a 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1] ac adrannau 89(1), 91(1) a 93(2) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990[2] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3] a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003 a byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2003

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn:

    ystyr "apêl" ("appeal") yw, mewn perthynas ag - 

    (a) adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 12 neu 19 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, penderfyniad ar gais a atgyfeiriwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol, ond nid yw'n cynnwys cais y bernir iddo gael ei atgyfeirio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd rheoliad 13(3) o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990[4]; a

    (b) adran 78 neu 208 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, apêl wedi'i gwneud o dan yr adran honno;

    ystyr "apelydd" ("appellant") yw, yn achos:

    (a) cais a atgyfeiriwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 12 neu 19 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y person a wnaeth y cais hwnnw i'r awdurdod cynllunio lleol;

    (b) apêl o dan adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y person y gwrthodwyd ei gais, neu y rhoddwyd caniatad, cytundeb neu gymeradwyaeth i'w gais yn ddarostyngedig i amodau neu nas penderfynwyd ar ei gais, gan yr awdurdod cynllunio lleol; ac

    (c) apêl o dan adran 208 o'r Ddeddf Gynllunio, y person y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan adran 207(1) o'r Ddeddf honno;

    ystyr "awdurdod cynllunio lleol" ("local planning authority") yw, mewn perthynas ag:

    (a) cais o dan adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 12 neu 19 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y corff a ymdriniasai â'r cais pe nas atygyfeirid i'r Cynulliad Cenedlaethol;

    (b) apêl o dan adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y corff a oedd yn gyfrifol am benderfynu'r cais a achosodd yr apêl; ac

    (c) apêl o dan adran 208 o'r Ddeddf Gynllunio, y corff a gyflwynodd yr hysbysiad o dan adran 207(1) o'r Deddf honno;

    ystyr "cais" ("application") yw, mewn perthynas ag:

    (a) adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 12 neu 19 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y cais a atgyfeiriwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol;

    (b) adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y cais sy'n destun yr apêl; ac

    (c) adran 208 o'r Ddeddf Gynllunio, yr hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan adran 207(1) o'r Ddeddf honno;

    mae i "cyfathrebu electronig" yr ystyr a roddwyd i'r term "electronic communication" gan adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000[5];

    ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    ystyr "y Ddeddf Adeiladau Rhestredig" ("the Listed Buildings Act") yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;

    mae cyfeiriadau at adran 12, 19 neu 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig yn cynnwys cyfeiriad at yr adrannau hynny fel y'u cymhwysir gan adran 74(3) o'r Ddeddf honno;

    ystyr "y Ddeddf Gynllunio" ("the Planning Act") yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

    mae cyfeiriadau at adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio yn cynnwys cyfeiriad at yr adran honno fel y'i cymhwysir i geisiadau am orchymynion cadw coed a wneir o dan y Ddeddf honno;

    mae "dogfen" ("document") yn cynnwys ffotograff, map neu blan;

    ystyr "dyddiad dechrau" ("starting date") yw dyddiad:

    (a) hysbysiad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol ei fod wedi cael yr holl ddogfennau sy'n ofynnol i'w alluogi i roi ystyriaeth i'r apêl; neu

    (b) hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 4 isod, p'un bynnag yw'r diweddaraf;

    ystyr "holiadur" ("questionnaire") yw dogfen ar ffurf a ddarperir gan y Cynulliad Cenedlaethol i awdurdod cynllunio lleol at ddibenion achos o dan y Rheoliadau hyn;

    ystyr "hysbysiad perthnasol" ("relevant notice") yw, mewn perthynas ag:

    (a) cais a atgyfeiriwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 12 neu 19 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, cais ysgrifenedig gan yr apelydd i'r mater gael ei benderfynu drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig; ac

    (b) apêl a ddugwyd o dan adran 78 neu 208 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynwyd gan yr apelydd, sy'n hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'i ddymuniad i'r apêl gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig; ac

    mae "sylwadau ysgrifenedig" ("written representations") yn cynnwys dogfennau ategol.

Cymhwyso'r Rheoliadau
     3.  - (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys os, wedi iddynt ddod i rym, bydd apelydd yn rhoi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol yn yr hysbysiad perthnasol o ddymuniad i'r apêl gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.

    (2) Os na fydd apêl yn cael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig a bydd yr apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol yn rhoi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod yn dymuno iddi gael ei phenderfynu ar y sail honno, bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r apêl i unrhyw raddau y caiff y Cynulliad Cenedlaethol eu pennu gan ystyried unrhyw gamau sydd eisoes wedi eu cymryd mewn perthynas â'r apêl.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn peidio â bod yn gymwys i apelau os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi gwybod i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol y bydd yn rhoi cyfle iddynt fod yn bresennol a chymryd rhan mewn gwrandawiad neu ymchwiliad lleol a gynhelir gan berson a benodwyd ganddo at y diben hwnnw.

Hysbysu cael cais
    
4. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi iddo gael yr hysbysiad perthnasol, roi gwybod yn ysgrifenedig i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol am:

    (a) y dyddiad dechrau;

    (b) y cyfeirnod a ddyrannwyd i'r apêl; ac

    (c) y cyfeiriad y mae unrhyw gyfathrebu ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol i gael ei anfon iddo.

Hysbysu personau sydd â buddiant
    
5.  - (1) Rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad ysgrifenedig o'r apêl, er mwyn i'r personau a ganlyn ei gael o fewn 2 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau, i:

    (a) unrhyw berson a hysbyswyd neu yr ymgynghorwyd ag ef yn unol â'r Ddeddf Gynllunio, y Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu orchymyn datblygu, yn ôl y digwydd, am yr apêl; a

    (b) unrhyw berson arall sydd wedi gwneud sylwadau i'r awdurdod cynllunio lleol am yr apêl.

    (2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1):

    (a) nodi enw'r apelydd a chyfeiriad y safle y mae'r apêl yn berthnasol iddo;

    (b) disgrifio'r apêl;

    (c) nodi'r materion a hysbyswyd i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol o dan reoliad 4;

    (ch) nodi yr anfonir copïau o unrhyw sylwadau a wnaethpwyd gan unrhyw berson a grybwyllir ym mharagraff (1) i'r Cynulliad Cenedlaethol ac at yr apelydd;

    (d) nodi y caiff unrhyw sylwadau o'r fath eu hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol wrth benderfynu'r apêl oni bai i unrhyw berson a grybwyllwyd ym mharagraff (1) eu tynnu yn ôl o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau; ac

    (dd) nodi y bydd yn bosibl i sylwadau ysgrifenedig pellach gael eu hanfon i'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn iddo eu cael o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau.

Holiadur
    
6.  - (1) Rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, a chopïo i'r apelydd, er mwyn iddynt eu cael o fewn 2 wythnos o'r dyddiad dechrau:

    (a) holiadur wedi'i gwblhau; a

    (b) copi o bob un o'r dogfennau y cyfeirir atynt ynddo.

    (2) Rhaid i'r holiadur nodi'r dyddiad yr anfonir ef i'r Cynulliad Cenedlaethol arno.

Sylwadau
    
7.  - (1) Bernir mai sylwadau'r apelydd, mewn perthynas â'r apêl, yw'r hysbysiad perthnasol a'r dogfennau sy'n mynd ag ef.

    (2) Caiff yr awdurdod cynllunio lleol ddewis trin yr holiadur, a'r dogfennau a anfonwyd gydag ef, fel ei sylwadau mewn perthynas â'r apêl ac, os yw'n gwneud hynny, rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol a'r apelydd yn unol â hynny pan fydd yn anfon yr holiadur i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac yn anfon copi ohono at yr apelydd, yn unol â rheoliad 6.

    (3) Os nad yw'r awdurdod cynllunio lleol yn dewis gwneud fel a ddisgrifir ym mharagraff (2), rhaid iddo sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael 2 gopi o'r sylwadau ysgrifenedig pellach hynny o fewn 6 wythnos o'r dyddiad dechrau.

    (4) Rhaid i apelydd sy'n dymuno gwneud unrhyw sylwadau pellach i'r rheini ym mharagraff (1) anfon 2 gopi o'r sylwadau pellach hynny i'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn iddo eu cael o fewn 6 wythnos o'r dyddiad dechrau.

    (5) Rhaid dyddio unrhyw sylwadau a wneir i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraffau (3) a (4) â'r dyddiad yr anfonir hwy i'r Cynulliad Cenedlaethol arno.

    (6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl eu cael, anfon at yr apelydd gopi o unrhyw sylwadau a anfonwyd iddo gan yr awdurdod cynllunio lleol, a rhaid iddo anfon i'r awdurdod cynllunio lleol gopi o unrhyw sylwadau a anfonwyd iddo gan yr apelydd.

    (7) Rhaid i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol 2 gopi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig sydd gan y naill ar sylwadau'r llall er mwyn iddo eu cael o fewn 9 wythnos o'r dyddiad dechrau a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo eu cael, anfon copi o'r sylwadau pellach hynny i'r parti arall.

    (8) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru gwybodaeth bellach oddi wrth yr apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol nad yw wedi ei chael o fewn 9 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau oni bai iddo ofyn am yr wybodaeth bellach honno.

Sylwadau Trydydd Parti
    
8.  - (1) Caiff person a hysbyswyd o dan reoliad 5(1), ac sy'n dymuno anfon sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol, wneud hynny ar yr amod bod y Cynulliad Cenedlaethol yn eu cael o fewn 6 wythnos o'r dyddiad dechrau.

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol:

    (a) anfon at yr apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl eu cael, gopi o unrhyw sylwadau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi eu cael oddi wrth unrhyw berson arall mewn perthynas â'r apêl; a

    (b) pennu cyfnod o nid llai na 2 wythnos erbyn ei ddiwedd y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gael unrhyw sylwadau ysgrifenedig ar y sylwadau hynny.

    (3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaethpwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan baragraff (2)(b) os yw'r awdurdod wedi methu â rhoi'r hysbysiad sy'n ofynnol gan reoliad 5.

Caniatáu rhagor o amser
    
9. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol mewn achos penodol roi cyfarwyddiadau sy'n estyn y terfynau amser a ragnodwyd gan y Rheoliadau hyn.

Penderfynu ar gais
    
10.  - (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol fynd rhagddo i benderfynu ar apêl gan gymryd i ystyriaeth dim ond y sylwadau ysgrifenedig hynny y mae wedi'u cael o fewn y terfynau amser perthnasol.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, wedi iddo roi i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny, fynd rhagddo i benderfynu ar apêl er na wnaethpwyd unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y terfynau amser perthnasol os ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol fod ganddo ddigon o ddeunydd ger ei fron i'w alluogi i gyrraedd penderfyniad ar rinweddau'r achos.

    (3) Yn y rheoliad hwn, ystyr "terfynau amser perthnasol" ("relevant limits") yw'r terfynau amser a ragnodwyd gan y Rheoliadau hyn neu gan unrhyw gyfarwyddyd o dan reoliad 9.

Hysbysu am y penderfyniad
    
11. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu ei benderfyniad ar apêl, a'i resymau dros ddod i'r penderfyniad hwnnw, yn ysgrifenedig:

    (a) i'r apelydd;

    (b) i'r awdurdod cynllunio lleol;

    (c) i unrhyw berson sydd â buddiant; ac

    (ch) i unrhyw berson arall sydd wedi gofyn am gael ei hysbysu o'r penderfyniad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried y mae'n rhesymol ei hysbysu.

Trosglwyddo dogfennau
    
12.  - (1) Gellir anfon drwy'r post neu drwy gyfrwng cyfathrebu electronig unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei hanfon neu yr awdurdodir ei hanfon gan y naill berson at y llall o dan y Rheoliadau hyn a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn, sut bynnag y caiff ei fynegi, fel petai'n cynnwys cyfeiriad at ffurf y mae modd ei chadw ar gyfrifiadur, ei throsglwyddo i gyfrifiadur ac oddi wrth gyfrifiadur, a'i darllen drwy gyfrwng cyfrifiadur.

    (2) O dan y Rheoliadau pan hyn, fydd yn ofynnol i'r naill berson anfon copi o ddatganiad, hysbysiad sylwadau neu ddogfen arall oddi wrth at y llall, yna, os anfonir y copi hwnnw drwy gyfrwng cyfathrebu electronig, mae unrhyw ofyniad pellach y dylid anfon mwy nag un copi i'w ddiystyru.

Dirymu a darpariaethau trosiannol
    
13.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), dirymir Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) 1987[6] ("Rheoliadau 1987") i'r graddau eu bod yn gymwys i Gymru[7].

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), dirymir Rhan IV (rheoliadau 11 i 16) o'r Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999[8] ("Rheoliadau1999") i'r graddau ei bod yn gymwys i Gymru.

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid parhau ag unrhyw apêl y cymhwysir Rheoliadau 1987 neu, yn ôl y digwydd, Rheoliadau 1999 ati, nad yw wedi ei phenderfynu ar y dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn rym, o dan Reoliadau 1987 neu Reoliadau 1999 yn ôl y digwydd.

    (4) Os caiff penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol ar apêl y cymhwysir Rheoliadau 1987, neu, yn ôl y digwydd, Rheoliadau 1999, ati ei ddileu wedyn mewn achos o flaen unrhyw lys, rhaid ailbenderfynu'r penderfyniad yn unol â'r Rheoliadau hyn ac nid Rheoliadau 1987 neu, yn ôl y digwydd, Rheoliadau 1999.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Chwefror 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod y weithdrefn a'r terfynau amser mewn cysylltiad â phenderfynu - 

    (a) cais a atgyfeiriwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") o dan adran 77 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ("y Ddeddf Gynllunio");

    (b) apêl o dan adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio (gan gynnwys achosion pan gymhwyswyd yr adran honno i orchymynion cadw coed);

    (c) apêl o dan adran 208 o'r Ddeddf Gynllunio;

    (ch) cais am gydsyniad adeilad rhestredig a atgyfeiriwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 12 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 ("y Ddeddf Adeiladau Rhestredig") (heblaw yn rhinwedd rheoliad 13(3) o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 ("y Rheoliadau Adeiladau Rhestredig")), neu am amrywio neu ryddhau amodau a atgyfeiriwyd iddo o dan yr adran honno fel y'u cymhwyswyd gan adran 19 o'r Ddeddf honno;

    (d) apêl o dan adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;

    (dd) cais am gydsyniad ardal gadwraeth a atgyfeiriwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol, heblaw pan fernir i'r cais gael ei atgyfeirio yn rhinwedd rheoliad 13(3) o'r Rheoliadau Adeiladau Rhestredig, o dan adran 12 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (gan gynnwys cais y cymhwysir yr adran honno iddo gan adran 19 o'r Ddeddf honno), fel y cymhwysir yr adrannau hynny gan adran 74(3) o'r Ddeddf honno;

    (e) apêl o dan adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, fel y cymhwysir yr adran honno gan adran 74(3) o'r Ddeddf honno,

pan fydd y materion hynny i'w penderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.

Mae adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio yn rhoi pwcircer i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo awdurdod cynllunio lleol ("yr awdurdod") i atgyfeirio i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar gyfer penderfyniad, unrhyw gais am ganiatâd cynllunio, neu am gymeradwyaeth sy'n ofynnol o dan orchymyn datblygu, a wnaethpwyd i'r awdurdod.

Mae adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio yn rhoi hawl i apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn erbyn rhai o benderfyniadau cynllunio yr awdurdod ac os bydd yr awdurdod yn methu â hysbysu penderfyniad cynllunio o'r math hwnnw o fewn y cyfnodau a ragnodwyd. Mae'r adran yn gymwys i apelau yn erbyn penderfyniadau i wrthod cydsyniad, rhoi cydsyniad amodol, rhoi cyfarwyddyd o dan orchymyn cadw coed neu wrthod cais am gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth sy'n ofynnol o dan gyfarwyddyd o'r math hwnnw (neu fethu â phenderfynu unrhyw un o'r uchod o fewn y terfyn amser gofynnol) mewn perthynas â gorchymynion cadw coed.

Mae adran 208 o'r Ddeddf Gynllunio yn rhoi hawl i berson y cyflwynwyd iddo hysbysiad gorfodi cadw coed o dan adran 207(1) o'r Ddeddf honno apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae adran 12 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig yn rhoi'r pwcircer i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo awdurdod cynllunio lleol i atgyfeirio i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw gais am gydsyniad adeilad rhestredig a wnaethpwyd i'r awdurdod. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r atgyfeiriadau hyn, ac eithrio pan fernir i'r atgyfeiriad gael ei wneud gan awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â'i gais ei hun, o dan reoliad 13 o'r Rheoliadau Adeiladau Rhestredig.

Mae adran 19 o'r Ddeddf honno yn galluogi person i wneud cais i'r awdurdod am amrywio neu ryddhau amodau a gynhwysir mewn cydsyniad adeilad rhestredig y mae'r awdurdod hwnnw eisoes wedi ei roi ac mae adran 20 o'r Ddeddf honno yn rhoi hawl i berson sy'n tybio iddo gael cam gan benderfyniad gan yr awdurdod apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae adran 74 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig yn cymhwyso'r swyddogaethau hynny i gydsyniadau ardal gadwraeth.

Mae gan y ceisydd neu, fel y digwydd, yr apelydd, a'r awdurdod, yr hawl, mewn unrhyw achos apêl, ymddangos gerbron person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol, a chael ei wrando gan y person hwnnw, ond yn lle hynny cânt gytuno i'r apêl gael ei benderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig a dogfennau ategol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol yn rheoliad 13 o'r Rheoliadau hyn, Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) 1987 (O.S. 1987/701) ("Rheoliadau 1987"), a dirymu Rhan IV (rheoliadau 11 i 16) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999 (O.S. 1999/1892) ("Rheoliadau 1999"), mewn perthynas â Chymru.

Dirymwyd Rheoliadau 1987 a'u disodli mewn perthynas â Lloegr gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1628). Mae Rhan IV o Reoliadau 1999 yn parhau mewn grym yn Lloegr.

Mae'r prif newidiadau sy'n cael eu cyflwyno gan y rheoliadau hyn fel a ganlyn:

    (a) maent yn gymwys i achosion pan fydd gofyn i gais cynllunio gael ei atgyfeirio i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio (y weithdrefn "galw i mewn"), i hawl apelio o dan adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i gymryd y penderfyniadau hynny (ac i apelau y mae adran 78 wedi'i chymhwyso iddynt gan ddeddfwriaeth gorchymyn cadw coed), hawl apelio o dan adran 208 o'r Ddeddf Gynllunio yn erbyn cyflwyno hysbysiad gorfodi gorchymyn cadw coed gan awdurdod cynllunio lleol ac i geisiadau ac apelau sy'n perthyn i gydysyniad adeilad rhestredig neu amrywio neu ryddhau amodau a gynhwysir mewn cydsyniad adeilad rhestredig (ac i'r darpariaethau hynny sy'n gymwys i ardaloedd cadwraeth) o dan y Ddeddf Adeiladau Rhestredig;

    (b) rhaid i'r awdurdod hysbysu ymgynghoreion statudol a phersonau sydd â buddiant am yr apêl o fewn 2 wythnos o'r dyddiad dechrau ac mae'r pwcircer i wneud sylwadau cyfrinachol wedi'i dynnu (rheoliad 5);

    (c) gosodwyd terfynau amser caeth ar gyfer cyflwyno sylwadau a sylwadau pellach ar y sylwadau rheiny. Mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon ymlaen gopïau o sylwadau a sylwadau ar y rheiny i'r partion eraill cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl eu cael (rheoliad 7);

    (ch) mae terfynau amser wedi eu hestyn er mwyn i bartïon sydd â buddiant ac sydd wedi'u hysbysu anfon sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol ac mae gan y Cynulliad Cenedlaethol y pwcircer i ddiystyru sylwadau wedi'u gwneud gan yr awdurdod cynllunio lleol am sylwadau personau sydd â buddiant pan na fydd yr awdurdod cynllunio lleol wedi hysbysu personau sydd â buddiant yn gywir (rheoliad 8);

    (d) rhoddwyd pwcircer i'r Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau ysgrifenedig nad yw wedi eu cael o fewn y terfynau amser perthnasol (rheoliad 10); ac

    (dd) awdurdodwyd anfon dogfennau drwy gyfrwng cyfathrebu electronig (rheoliad 12).


Notes:

[1] 1990 p.8; diwygiwyd adran 323 gan adran 18(1) o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 (p.52) a pharagraff 26 o Atodlen 3 iddi.back

[2] 1990 p.9; mae adran 89(1) yn cymhwyso'r darpariaethau gwneud rheoliadau a gynhwysir yn adran 323 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i'r Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.back

[3] Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, ac erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253 (Cy.5)) ac Atodlen 3 iddo.back

[4] O.S. 1990/1519.back

[5] 2000 p.7.back

[6] O.S. 1987/701.back

[7] Dirymwyd Rheoliadau 1987 a'u disodli i'r graddau eu bod yn gymwys i Loegr gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Apelau) (Sylwadau Ysgrifenedig) (Lloegr) 2000 (O.S. (2000/1628), rheoliad 12.back

[8] O.S. 1999/1892.back

[9] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090686 1


 
© Crown copyright 2003
Prepared 27 March 2003

About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010