BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022302w.html

[New search] [Help]

2002 Rhif 2302 (Cy.227)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002

  Wedi'i wneud am 11:30a.m. ar 5Medi 2002 
  Yn dod i rym 6 Medi 2002 


TREFN YR ERTHYGLAU

Erthygl
1. Teitl, cymhwyso, cychwyn a darfod
2. Dehongli
3. Hysbysu ynglycircn â daliadau lle mae defaid neu eifr yn cael eu cadw
4. Cofnodion defaid
5. Cofnodion geifr
6. Marciau
7. Dodi Marc Tarddiad
8. Symudiad o'r daliad geni
9. Symudiadau yn gyffredinol
10. Uchafswm y marciau
11. Marcio anifeiliaid o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd
12. Dogfennau symud
13. Tynnu tagiau clust a dileu tatwcirc s ac amnewid y naill a'r llall
14. Dodi tagiau clust a thatwcirc s
15. Newid tagiau clust a thatwcirc s
16. Dangos cofnodion a dogfennau
17. Marchnadoedd
18. Gorfodi
19. Dirymu Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002

  Yr Atodlen

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, gan weithredu ar y cyd wrth ymarfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[
1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cymhwyso, cychwyn a darfod
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru.

    (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Medi 2002 a bydd ei effaith yn darfod ar 1 Chwefror 2003.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Gorchymyn hwn - 

    ystyr "canolfan gasglu" ("collecting centre") yw safle sy'n cael ei ddefnyddio fel canolfan hanner-ffordd ar gyfer derbyn anifeiliaid y bwriedir eu symud i rywle arall ac mae'n cynnwys unrhyw le a ddefnyddir, boed fel marchnad neu fel arall, ar gyfer gwerthu neu fasnachu anifeiliaid ond dim ond os bwriedir i'r anifeiliaid sy'n cael eu gwerthu neu eu masnachu gael eu cigydda ar unwaith wedi hynny;

    ystyr "canolfan gynnull" ("assembly centre") yw canolfan gynnull a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â rheoliad 12(2) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000[2];

    ystyr "ceidwad" ("keeper") yw unrhyw berson sydd â gofal a rheolaeth dros ddefaid neu eifr, hyd yn oed dros dro ond heb gynnwys unrhyw berson sy'n geidwad ond am ei fod yn cludo'r anifeiliaid;

    ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    ystyr "dafad" ("sheep") yw dafad fyw;

    ystyr "daliad" ("holding") yw unrhyw sefydliad, adeiladwaith neu, yn achos fferm awyr agored, unrhyw le y mae defaid neu eifr yn cael eu dal, eu cadw neu eu trafod ynddo;

    ystyr "dyddiad perthnasol" ("relevant date") yw'r dyddiad y mae'r Gorchymyn hwn yn dod i rym;

    ystyr "gafr" ("goat") yw gafr fyw;

    ystyr "Rheoliadau 2000" ("the 2000 Regulations") yw Rheoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Cymru) 2000[3];

    mae i "grwcircp meddiannaeth unigol" ("sole occupancy group") yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 2 o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002[4];

    mae i "lladd-dy" yr ystyr a roddir i "slaughterhouse" yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995[5];

    ystyr "marc diadell" ("flockmark") yw'r marc a ddyrennir ar gyfer diadell o ddefaid gan y Cynulliad Cenedlaethol;

    ystyr "marc dros dro" ("temporary mark") yw marc dros dro yn unol ag erthygl 6(11);

    ystyr "marc gyr" ("herdmark") yw'r marc a ddyrennir ar gyfer gyr o eifr gan y Cynulliad Cenedlaethol;

    ystyr "Marc X" ("X Mark") yw Marc X yn unol ag erthygl 6(1) a (8);

    ystyr "rhif daliad" ("CPH number") yw'r rhif daliad fferm a neilltuir o dro i dro i unrhyw safle neu ran o unrhyw safle gan y Cynulliad Cenedlaethol;

    ystyr "sioe" ("show") yw achlysur lle mae anifeiliaid yn cael eu harddangos ond nid yn unig er mwyn eu gwerthu;

    ystyr "tir pori dros dro" ("temporary grazing land") yw tir y mae defaid yn cael eu symud iddo dros dro er mwyn cael eu bwydo neu eu pori ond nad yw'n rhan o'r daliad lle mae'r defaid yn cael eu cadw fel arfer; ac

    ystyr "triniaeth filfeddygol" ("veterinary treatment") yw unrhyw driniaeth neu weithdrefn arall sy'n cael ei chyflawni gan filfeddyg neu o dan ei oruchwyliaeth.

    (2) Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn erthygl at baragraff neu is-baragraff â rhif neu lythyren yn gyfeiriad at y paragraff neu'r is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw neu'r llythyren honno yn yr erthygl honNo.

Hysbysu ynglycircn â daliadau lle mae defaid neu eifr yn cael eu cadw
     3.  - (1) Os, ar ôl y dyddiad perthnasol, y daw person yn geidwad unrhyw ddafad neu afr ar ddaliad, rhaid iddo, o fewn un mis ar ôl iddo ddechrau cadw'r anifail hwnnw, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig - 

    (a) o gyfeiriad y daliad;

    (b) o enw a chyfeiriad meddiannydd y daliad; ac

    (c) a oes defaid neu eifr neu'r ddau yn cael eu cadw fel arfer ar y daliad.

    (2) Rhaid i'r ceidwad hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o unrhyw newid yn y manylion a bennir ym mharagraff (1) o fewn un mis i'r newid hwnnw ddigwydd.

    (3) Ar ôl cael hysbysiad o dan y rheoliad hwn rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i baragraff (4), ddyrannu mewn perthynas â'r daliad farc diadell yn achos defaid neu farc gyr yn achos geifr.

    (4) Os lladd-dy neu farchnad yw'r daliad, dim ond pan fydd yn barnu ei bod yn briodol gwneud hynny y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddyrannu marc diadell neu farc gyr.

Cofnodion defaid
    
4.  - (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cadw defaid ar ddaliad (heblaw canolfan gynnull, marchnad, sioe, lladd-dy neu ganolfan gasglu) gofnodi, ar 31 Ionawr ym mhob blwyddyn neu cyn hynny, y nifer o ddefaid ar y daliad hwnnw ar 1 Ionawr yn y flwyddyn honNo.

    (2) O fewn 36 awr o symud dafad i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r ceidwad gofnodi - 

    (a) dyddiad y symudiad;

    (b) cyfanswm y defaid a symudwyd;

    (c) un o'r marciau canlynol - 

      (i) y Marc S diweddaraf a ddodwyd ar y ddafad;

      (ii) pan nad oes unrhyw Farc S, y Marc Tarddiad neu'r marc a wnaed o dan reoliad 7(5) o Reoliadau 2000;

      (iii) pan nad oes unrhyw farc fel a grybwyllwyd yn is-baragraffau (c)(i) neu (ii), y Marc F neu'r Marc R; neu

      (iv) y rhif adnabod unigol ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod unigol;

    (ch) yn achos dafad a symudwyd i'r daliad, cyfeiriad y daliad y daeth ohono; yn achos dafad sy'n cael ei symud oddi ar y daliad, cyfeiriad y daliad y mae'n mynd iddo;

    (d) yn achos dafad a symudwyd o farchnad, y rhif lot a ddyranwyd yn y farchnad;

    (dd) yn achos dafad a symudwyd i sioe neu ohoni, y rhif adnabod unigol ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod unigol;

    (e) yn achos dafad sy'n cael ei symud i ganolfan gynnull, y rhif adnabod unigol (os oes mwy nag un, y rhif adnabod unigol diweddaraf a ddodwyd arni);

    (f) yn achos dafad sy'n cael ei symud i gyrchfan y tu allan i Brydain Fawr, un o'r canlynol - 

      (i) Marc Tarddiad sy'n cynnwys y llythrennau "UK", a'r rhif adnabod unigol,

      (ii) Marc F sy'n cynnwys y llythrennau "UK", a'r rhif andabod unigol, neu

      (iii) Marc X a'r rhif adnabod unigol; ac

    (ff) yn achos hwrdd sydd wedi'i nodi, wedi'i farcio neu wedi'i dagio â rhif adnabod unigol at ddibenion erthygl 3(2)(b)(xviii), 3(3)(ch), 3(3)(e) neu 3(3)(f) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002, y rhif adnabod unigol hwnnw ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif hwnnw.

    (3) Ni fydd paragraff (2)(c) yn gymwys yn achos dafad - 

    (a) a symudwyd yn uniongyrchol i ladd-dy;

    (b) a symudwyd yn uniongyrchol i farchnad er mwyn ei gwerthu i'w chigydda;

    (c) a symudwyd i ganolfan gasglu cyn cael ei symud i ladd-dy; neu

    (ch) a ddychwelwyd yn uniongyrchol i ddaliad o farchnad yr oedd wedi'i hanfon iddi er mwyn ei gwerthu i'w chigydda;

ar yr amod bod y ceidwad yn cofnodi'r marc dros dro a ddodwyd ar y ddafad.

    (4) Yn achos dafad sy'n cael ei gwerthu heb gael ei symud i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r gwerthwr gofnodi, o fewn 36 awr o'r gwerthiant - 

    (a) dyddiad y gwerthiant;

    (b) y nifer o ddefaid a werthwyd; ac

    (c) enw a chyfeiriad y prynwr.

    (5) Yn achos dafad sydd wedi'i marcio yn unol ag erthygl 11 neu sydd wedi'i hailfarcio yn unol ag erthygl 13(2)(b) neu (c), rhaid i'r ceidwad, o fewn 36 awr o farcio neu ailfarcio'r ddafad (yn ôl fel y digwydd), gofnodi'r marc diadell defaid newydd a'r un blaenorol, os yw'n hysbys.

    (6) Pan fydd ceidwad yn marcio dafad â Marc X, rhaid iddo wneud y canlynol o fewn 36 awr - 

    (a) os yw'r Marc X yn cael ei ddodi mewn canolfan gynnull, cofnodi'r Marc X a'r rhif adnabod unigol sy'n cael ei ddodi yr un pryd â'r Marc X, a'i groesgyfeirio â'r marc sydd wedi'i gofnodi o dan baragraff (2)(c) ac â'r rhif adnabod unigol sydd wedi'i gofnodi o dan baragraff (2)(e); a

    (b) os yw'r Marc X yn cael ei ddodi ar ddaliad heblaw canolfan gynnull, cofnodi'r Marc X a'r rhif adnabod unigol sy'n cael ei ddodi yr un pryd â'r Marc X, a'i groesgyfeirio â'r marc sydd wedi'i gofnodi o dan baragraff (2)(c);

    (7) Rhaid i'r person sy'n gwneud cofnod o dan yr erthygl hon gadw'r cofnod am gyfnod o chwe mlynedd.

Cofnodion geifr
    
5.  - (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cadw gafr ar ddaliad (heblaw canolfan gynnull, marchnad, sioe, lladd-dy neu ganolfan gasglu) gofnodi, ar 31 Ionawr ym mhob blwyddyn neu cyn hynny, y nifer o eifr ar y daliad hwnnw ar 1 Ionawr yn y flwyddyn honNo.

    (2) O fewn 36 awr o symud gafr i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r ceidwad gofnodi - 

    (a) dyddiad y symudiad;

    (b) cyfanswm y geifr a symudwyd;

    (c) un o'r marciau canlynol - 

      (i) y Marc S diweddaraf a ddodwyd ar yr afr;

      (ii) pan nad oes unrhyw Farc S, y Marc Tarddiad neu'r marc a wnaed o dan reoliad 7(5) o Reoliadau 2000;

      (iii) pan nad oes unrhyw farc a grybwyllir yn is-baragraffau (c)(i) neu (ii), y Marc F neu'r Marc R; neu

      (iv) y rhif adnabod unigol ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod unigol;

    (ch) yn achos gafr a symudwyd i'r daliad, cyfeiriad y daliad y daeth ohono; yn achos gafr sy'n cael ei symud oddi ar y daliad, cyfeiriad y daliad y mae'n mynd iddo;

    (d) yn achos gafr a symudwyd o farchnad, y rhif lot a ddyranwyd yn y farchnad;

    (dd) yn achos gafr a symudwyd i sioe neu ohoni, rhif adnabod unigol yr afr ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod unigol;

    (e) yn achos gafr sy'n cael ei symud i ganolfan gynnull, y rhif adnabod unigol (os oes mwy nag un, y rhif adnabod unigol diweddaraf a ddodwyd);

    (f) yn achos gafr sy'n cael ei symud i gyrchfan y tu allan i Brydain Fawr, un o'r canlynol - 

      (i) Marc Tarddiad sy'n cynnwys y llythrennau "UK", a'r rhif adnabod unigol,

      (ii) Marc F sy'n cynnwys y llythrennau "UK", a'r rhif adnabod unigol, neu

      (iii) Marc X a'r rhif adnabod unigol; ac

    (ff) yn achos gafr sy'n cael ei symud at ddibenion erthygl 3(2)(b)(xix) neu 3(3)(d) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002, y rhif adnabod unigol hwnnw ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif hwnnw.

    (3) Ni fydd paragraff 2(c) yn gymwys yn achos gafr - 

    (a) a symudwyd yn uniongyrchol i ladd-dy;

    (b) a symudwyd yn uniongyrchol i farchnad er mwyn ei gwerthu i'w chigydda;

    (c) a symudwyd i ganolfan gasglu cyn cael ei symud i ladd-dy; neu

    (ch) a ddychwelwyd yn uniongyrchol i ddaliad o farchnad yr oedd wedi'i hanfon iddi er mwyn ei gwerthu i'w chigydda;

ar yr amod bod y ceidwad yn cofnodi'r marc dros dro a ddodwyd ar yr afr.

    (4) Yn achos gafr sy'n cael ei gwerthu heb gael ei symud i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r gwerthwr gofnodi, o fewn 36 awr o'r gwerthiant - 

    (a) dyddiad y gwerthiant;

    (b) y nifer o eifr a werthwyd; ac

    (c) enw a chyfeiriad y prynwr.

    (5) Yn achos gafr sydd wedi'i marcio yn unol ag erthygl 11 neu wedi'i hailfarcio yn unol ag erthygl 13(2)(b) neu (c), rhaid i'r ceidwad, o fewn 36 awr o farcio neu ailfarcio'r afr (yn ôl fel y digwydd), gofnodi'r marc gyr a'r un blaenorol, os yw'n hysbys.

    (6) Pan fydd ceidwad yn marcio gafr â Marc X, rhaid iddo wneud y canlynol o fewn 36 awr - 

    (a) os yw'r Marc X yn cael ei ddodi mewn canolfan gasglu, cofnodi'r Marc X a'r rhif adnabod unigol sy'n cael ei ddodi yr un pryd â'r Marc X, a'i groesgyfeirio â'r marc sydd wedi'i gofnodi o dan baragraff (2)(c) ac â'r rhif adnabod unigol sydd wedi'i gofnodi o dan baragraff (2)(e); a

    (b) os yw'r Marc X yn cael ei ddodi ar ddaliad heblaw canolfan gynnull, cofnodi'r Marc X a'r rhif adnabod unigol sy'n cael ei ddodi yr un pryd â'r Marc X, a'i groesgyfeirio â'r marc sydd wedi'i gofnodi o dan baragraff (2)(c);

    (7) Rhaid i'r person sy'n gwneud cofnod o dan yr erthygl hon gadw'r cofnod am gyfnod o chwe blynedd.

Marciau
    
6.  - (1) Rhaid dodi marc sy'n cael ei ddodi o dan y Gorchymyn hwn (ac eithrio marc dros dro) ar glust yr anifail ar ffurf tag clust neu datwcirc .

    (2) Rhaid i dag clust fod - 

    (a) wedi'i wneud naill ai o fetel neu o blastig neu o gyfuniad o fetel a phlastig;

    (b) yn un na ellir ymyrryd ag ef;

    (c) wedi'i brintio neu wedi'i stampio â'r llythrennau a'r rhifau sy'n ofynnol fel eu bod yn hawdd i'w darllen drwy gydol oes yr anifail;

    (ch) o fath nad yw'n ymyrryd â llesiant yr anifail; a

    (d) yn goch ei liw os yw'n dwyn Marc R ond nid mewn unrhyw achos arall.

    (3) Ystyr tatwcirc sy'n ddarllenadwy drwy gydol oes yr anifail.

    (4) Marc F - 

    (a) pan fydd wedi'i farcio ar dag clust, yw'r llythrennau "UK" wedi'u dilyn gan farc diadell neu farc gyr y daliad y mewnforiwyd yr anifail iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn gan y llythyren "F";

    (b) pan fydd wedi'i farcio ar datwcirc , yw marc diadell neu farc gyr y daliad hwnnw wedi'i ddilyn gan y llythyren "F".

    (5) Marc Tarddiad - 

    (a) pan fydd wedi'i farcio ar dag clust, yw'r llythrennau "UK" wedi'u dilyn gan farc diadell neu farc gyr daliad geni yr anifail;

    (b) pan fydd wedi'i farcio ar datwcirc, marc diadell neu farc gyr daliad geni yr anifail.

    (6) Marc R - 

    (a) pan fydd wedi'i farcio ar dag clust, yw'r llythrennau "UK" wedi'u dilyn gan farc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly, a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn gan y llythyren "R";

    (b) pan fydd wedi'i farcio ar datwcirc , yw marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly, a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn gan y llythyren "R";

    (7) Marc S yw'r llythyren "S" wedi'i dilyn gan farc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly;

    (8) Marc X yw'r llythrennau "UK" wedi'u dilyn gan farc diadell neu farc gyr y daliad y mae'r anifail i'w symud oddi yno i gyrchfan y tu allan i Brydain Fawr, a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn gan y llythyren "X".

    (9) Rhif yw "rhif adnabod unigol" - 

    (a) nad yw'n gymwys i unrhyw ddefaid eraill â'r un marc diadell nac i unrhyw afr arall â'r un marc gyr;

    (b) sy'n cael ei ddodi ar dag clust yr un pryd ag y mae Marc Tarddiad, Marc S, Marc F, Marc R neu Farc X yn cael ei ddodi, neu sy'n cael ei datwcirc io ar un o'i glustiau; ac

    (c) yn achos tag clust ac yn ddarostyngedig i baragraff (10), sy'n dilyn yn union ar ôl Marc Tarddiad, Marc S, Marc F, Marc R neu Farc X neu sy'n cael ei ddodi ar un ochr o'r tag clust y mae Marc Tarddiad, Marc S, Marc F, Marc R neu Farc X ar yr ochr arall iddo.

    (10) Ni fydd rhif yn methu â bod yn "rhif adnabod unigol" os yr unig reswm am hynny yw na chafodd ei ddodi ar yr un tag clust â'r Marc Tarddiad, y Marc S, y Marc F, y Marc R neu'r Marc X - 

    (a) os cafodd y rhif hwnnw ei ddodi mewn rhan o Ynysoedd Prydain y tu allan i Gymru o dan y ddeddfwriaeth mewn grym yn y rhan honno; neu

    (b) os cafodd y rhif ei ddodi yng Nghymru cyn 11 Chwefror 2002.

    (11) Rhaid i farc dros dro fod yn ddigon neilltuol i'w ddisgrifio yn y ddogfen sy'n ofynnol o dan erthygl 12 a rhaid iddo barhau i fod yn weladwy i'r llygad noeth nes i'r anifail gael ei gigydda neu nes iddo ddychwelyd i'r daliad yr oedd wedi'i anfon iddo er mwyn ei werthu i'w gigydda neu ddychwelyd i'r daliad o dir pori dros dro.

Dodi Marc Tarddiad
    
7.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i geidwad dafad neu afr a anwyd yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol neu ar ôl hynny, neu sy'n dal ar ei daliad geni ar y dyddiad hwnnw, ddodi Marc Tarddiad ar yr anifail hwnnw cyn gynted â phosibl.

    (2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag anifail a oedd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi'i farcio yn unol â rheoliad 7 neu 14 o Reoliadau 2000 neu erthygl 7(1) o Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 [
6], fel y bo'n briodol.

Symudiad o'r daliad geni
     8.  - (1) Rhaid i berson beidio a symud dafad neu afr o'i ddaliad geni os na ddodir Marc Tarddiad arni.

    (2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys yn achos - 

    (a) gafr a symudwyd er mwyn ei datwcirc io ac yna ei dychwelyd ar unwaith i'w daliad geni; neu

    (b) dafad neu afr a symudwyd er mwyn iddi gael triniaeth filfeddygol ac wedyn cael ei dychwelyd i'w daliad geni; neu

    (c) dafad neu afr a farciwyd cyn y dyddiad perthnasol yn unol â rheoliad 7(5) o Reoliadau 2000 neu erthygl 8(1) o Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002, fel y bo'n briodol.

Symudiadau yn gyffredinol
    
9.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4) ac erthyglau 8 a 10, rhaid i berson beidio â symud dafad neu afr os nad yw wedi'i farcio ag un neu ragor o'r canlynol - 

    (a) Marc Tarddiad a rhif adnabod unigol;

    (b) Marc S sy'n dangos marc diadell neu farc gyr y daliad y mae'r anifail yn cael ei symud ohono;

    (c) Marc S a rhif adnabod unigol;

    (ch) Marc F a rhif adnabod unigol;

    (d) Marc R yn dangos marc diadell neu farc gyr y daliad y mae'r anifail yn cael ei symud ohono; neu

    (dd) Marc R a rhif adnabod unigol.

    (2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys - 

    (a) os yw'r anifail yn cael ei farcio yn unol ag erthygl 13(2)(b) ac os yw'n cael ei symud o'r daliad y mae'r marc diadell neu'r marc gyr yn cyfeirio ato;

    (b) os yw'r anifail yn cael ei fewnforio o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd i ddaliad yng Nghymru;

    (c) os yw'r anifail yn cael ei symud o'r daliad y cafodd ei fewnforio iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd ac yn cael ei farcio â Marc F;

    (ch) os yw'r anifail yn cael ei symud o Aelod-wladwriaeth arall i ddaliad yng Nghymru ac yn cael ei farcio yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC[
    7] ar adnabod a chofrestru anifeiliaid;

    (d) os yw'r anifail yn cael ei symud o ran o Ynysoedd Prydain y tu allan i Gymru ac yn cael ei farcio yn unol â'r ddeddfwriaeth mewn grym yn y rhan honno o Ynysoedd Prydain;

    (dd) os oedd yr anifail cyn y dyddiad perthnasol wedi'i farcio yn unol naill ai - 

      (i) â rheoliad 7(5) o Reoliadau 2000 ac wedi'i farcio â rhif adnabod unigol;

      (ii) ag erthygl 9(1) o Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) 2002, fel y bo'n briodol;

    (e) os yw'r anifail wedi'i farcio â marc dros dro ac - 

      (i) yn cael ei symud yn uniongyrchol i ladd-dy;

      (ii) yn cael ei symud yn uniongyrchol i farchnad er mwyn ei werthu i'w gigydda;

      (iii) yn cael ei symud i ganolfan gasglu cyn cael ei symud i ladd-dy; neu

      (iv) yn dychwelyd yn uniongyrchol i ddaliad o farchnad (heblaw marchnad gigydda un-pwrpas) yr oedd wedi'i anfon iddi er mwyn ei werthu i'w gigydda;

    (f) os yw'r anifail yn cael ei symud at ddibenion triniaeth filfeddygol, dipio neu gneifio;

    (ff) os yw'r anifail yn cael ei symud rhwng safleoedd mewn grwcirc p meddiannaeth unigol;

    (g) os yw'r anifail yn dychwelyd i'r daliad y mae'n cael ei gadw arno o dir y mae gan y person hawl i bori drosto ar y cyd â pherchenogion eraill;

    (ng) os yw dafad wedi'i marcio â marc dros dro ac yn dychwelyd o dir pori dros dro i'r daliad yr oedd yn cael ei chadw arno yn union cyn cael ei symud i'r tir pori dros dro; neu

    (h) os yw'r anifail yn cael ei symud o farchnad, ar yr amod bod yr anifail wedi'i farcio yn unol â gofynion y Gorchymyn hwn pan gafodd ei symud i'r farchnad honNo.

    (3) Rhaid peidio â symud anifail i sioe nac ohoni oni bai ei fod wedi'i farcio â rhif adnabod unigol ynghyd â'r marc a ddodwyd arno yr un pryd â'r rhif adnabod unigol.

    (4) Rhaid i berson beidio â symud anifail i ganolfan gynnull oni bai bod yr anifail wedi'i farcio yn unol ag un neu ragor o'r is-baragraffau canlynol:

      (i) â Marc Tarddiad ac â rhif adnabod unigol;

      (ii) â Marc S ac â rhif adnabod unigol;

      (iii) â Marc F ac â rhif adnabod unigol;

      (iv) â marc a ddodwyd o dan Reoliadau 2000;

    (b) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag anifail sy'n cael ei symud yn unol ag is-baragraff (a).

    (5)

    (a) Rhaid i berson beidio â symud anifail i safle y tu allan i Brydain Fawr oni bai ei fod wedi'i farcio yn unol ag un neu ragor o'r is-baragraffau canlynol - 

      (i) â Marc Tarddiad sy'n cynnwys y llythrennau "UK", ac â rhif adnabod unigol;

      (ii) â Marc F sy'n cynnwys y llythrennau "UK", ac â rhif adnabod unigol; neu

      (iii) â Marc X ac â rhif adnabod unigol a ddodwyd yr un pryd â'r Marc X; a

    (b) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag anifail sy'n cael ei symud yn unol ag is-baragraff (a).

Uchafswm y marciau
     10.  - (1) Rhaid i berson beidio â dodi Marc S ar ddafad neu afr sydd eisoes yn dwyn tri marc yn cynnwys un neu ragor o'r marciau a ddisgrifir ym mharagraff 2.

    (2) Y marciau a ddisgrifir yn y paragraff hwn yw - 

    (a) Marc Tarddiad, Marc S, Marc F neu Farc R;

    (b) marc a ddodwyd o dan Reoliadau 2000;

    (c) marc a ddodwyd o dan ddeddfwriaeth mewn grym mewn rhan o Ynysoedd Prydain y tu allan i Gymru;

    (ch) marc a ddodwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC; neu

    (d) marc a ddodwyd o dan drwydded a roddwyd o dan erthygl 8 neu 31 o Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau 1983[
    8].

Marcio anifeiliad o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd
     11.  - (1) Os yw dafad neu afr yn cael ei mewnforio i ddaliad yng Nghymru o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, o fewn deg diwrnod ar hugain ar ôl iddi gyrraedd y daliad hwnnw a beth bynnag cyn iddi gael ei symud o'r daliad hwnnw, rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw ei marcio â Marc F.

    (2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i anifail a fewnforiwyd yn uniongyrchol i ladd-dy, os yw'r anifail yn cael ei gigydda yno o fewn 5 diwrnod heb iddo fod wedi'i symud o'r lladd-dy.

Dogfennau symud
    
12.  - (1) Rhaid i berson beidio â symud dafad na gafr oni bai bod dogfen sydd wedi'i llofnodi gan berchennog yr anifail neu ei asiant yn cyd-fynd â'r ddafad neu'r afr honno a bod y ddogfen yn pennu - 

    (a) cyfeiriadau (gan gynnwys rhif daliad a chod post) y daliad y mae'r anifail yn cael ei symud ohono a'r daliad y mae'n cael ei symud iddo;

    (b) dyddiad y symudiad a chyfanswm yr anifeiliad sy'n cael eu symud;

    (c) y marc a ddisgrifir ym mharagraff (2);

    (ch) y rhif lot mewn perthynas ag anifail sy'n cael ei symud o farchnad; a

    (d) y rhif adnabod unigol mewn perthynas â'r anifail sy'n cael ei symud i ganolfan gynnull.

    (2) Rhaid i'r ddogfen nodi hefyd

    (a) un o'r canlynol - 

      (i) y Marc S a ddodwyd ar yr anifail;

      (ii) os nad oes unrhyw Farc S, y Marc Tarddiad, na'r marc a ddodwyd o dan reoliad 7(5) o Reoliadau 2000; neu

      (iii) os nad oes unrhyw farc fel a grybwyllwyd yn is-baragraffau (i) neu (ii), y Marc F neu'r Marc R;

      (iv) y rhif adnabod unigol ynghyd â'r marc a ddodwyd ar yr un pryd â'r rhif adnabod unigol;

    (b) unrhyw farc dros dro yn achos anifail - 

      (i) sy'n cael ei symud yn uniongyrchol i ladd-dy;

      (ii) sy'n cael ei symud yn uniongyrchol i farchnad er mwyn ei werthu i'w gigydda;

      (iii) sy'n cael ei symud i ganolfan gasglu cyn cael ei symud i ladd-dy;

      (iv) sy'n dychwelyd yn uniongyrchol i ddaliad o farchnad yr oedd wedi'i anfon iddi er mwyn ei werthu i'w gigydda; neu

      (v) sy'n dychwelyd o dir pori dros dro i'r daliad yr oedd yn cael ei gadw arno yn union cyn cael ei symud i'r tir pori dros dro;

    (c) os yw anifail yn cael ei symud i sioe neu ohoni, y rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod unigol; neu

    (ch) os yw hwrdd neu afr yn cael ei symud at ddibenion bridio yn unol ag erthygl 3(2)(b)(xviii), 3(2)(b)(xix), 3(3)(ch), 3(3)(d), 3(3)(e) neu 3(3)(f) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002, y rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod.

    (3) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys yn achos anifail sy'n cael ei symud - 

    (a) rhwng daliad ac unrhyw dir y mae hawl i bori ar y cyd â pherchenogion eraill yn arferadwy mewn perthynas ag ef;

    (b) at ddibenion triniaeth filfeddygol, dipio neu gneifio;

    (c) yn achos geifr, er mwyn eu tatwcirc io; neu

    (ch) o safle mewn grwcirc p;

    (4) Pan fydd yr anifail yn cyrraedd ei gyrchfan, rhaid i'r person sy'n symud yr anifail roi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) uchod i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan.

    (5) Rhaid i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan, o fewn tri diwrnod ar ôl i'r anifail gyrraedd yno, anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r daliad.

    (6) Rhaid i geidwad anifail sy'n cael ei symud y tu allan i Brydain Fawr anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at yr Awdurdod Lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r safle y mae'r anifail yn cael ei symud ohoNo.

Tynnu tagiau clust a dileu tatwcirc s ac amnewid y naill a'r llall
    
13.  - (1) Ac eithrio o dan awdurdod un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol, ni chaiff neb dynnu nac amnewid tag clust na dileu nac amnewid tatwcirc sydd wedi'i ddodi ar anifail yn unol â'r Gorchymyn hwn, Rheoliadau 2000, neu Reoliadau Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002, oni bai ei fod wedi mynd yn annarllenadwy neu yn achos tag clust, wedi'i dynnu at ddibenion lles neu wedi'i golli.

    (2) Pan fydd Marc Tarddiad, Marc F neu Farc R wedi mynd yn annarllenadwy, wedi'i dynnu at ddibenion lles neu wedi'i golli, rhaid i'r ceidwad - 

    (a) dodi Marc unfath;

    (b) dodi - 

      (i) os Marc Tarddiad oedd y marc gwreiddiol, tag â'r llythrennau "UK" wedi'u dilyn â marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw neu datwcirc â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw;

      (ii) os Marc F oedd y marc gwreiddiol, tag â'r llythrennau "UK" wedi'u dilyn â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn â'r llythyren F neu datwcirc â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn gan y llythyren F; neu

      (iii) os Marc R oedd y marc gwreiddiol, Marc R newydd, a chroesgyfeirio'r marc newydd â'r marc gwreiddiol yn y cofnod sy'n cael ei gadw o dan erthygl 4 neu 5; neu

    (c) pan na ellir cyflawni'r camau yn is-baragraff (a) nac is-baragraff (b), dodi Marc R.

    (3) Pan fydd Marc S wedi mynd yn annarllenadwy neu wedi'i golli, rhaid i'r ceidwad, os yw'n gwybod y manylion (a bennir yn erthygl 6(7)) a oedd ar y marc hwnnw, roi marc unfath yn ei le.

    (4) Ni fydd paragraff (2) a (3) yn gymwys yn achos anifail mewn marchnad neu ladd-dy.

    (5) Ni chaiff neb anfon unrhyw ddafad neu afr y tu allan i Brydain Fawr os yw wedi'i farcio â thag clust neu datwcirc yn diweddu gyda'r llythyren "R" sy'n dangos mai tag clust neu datw yn lle un arall ydyw.

Dodi tagiau clust a thatwcirc s
    
14. Ac eithrio at ddibenion cydymffurfio â gofynion y Gorchymyn hwn, ni chaiff neb ddodi tag clust neu datwcirc sy'n dwyn marc diadell neu farc gyr ar ddafad neu afr, oni bai ei fod wedi'i awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Newid tagiau clust a thatwcirc s
    
15. Ni chaiff neb newid, dileu na difwyno'r wybodaeth ar dag clust neu datw sydd wedi'i ddodi ar ddafad neu afr o dan y Gorchymyn hwn.

Dangos cofnodion a dogfennau
    
16. Rhaid i unrhyw berson sydd â gofal dros unrhyw gofnod neu ddogfen y mae'n ofynnol eu cadw o dan y Gorchymyn hwn eu dangos i arolygydd os bydd yn gofyn amdanynt (neu, os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf electronig, dangos allbrint ohonynt) a chaniatáu i gopïau gael eu gwneud ohonynt.

Marchnadoedd
    
17.  - (1) Rhaid i weithredwr y farchnad sicrhau bod yr holl ddefaid a geifr sy'n bresennol yn y farchnad yn cael eu rhannu mewn grwpiau o un neu ragor o anifeiliaid yn union ar ôl iddynt gyrraedd yno, a bod rhif lot yn cael ei ddyrannu i bob grwcirc p.

    (2) Ni chaiff neb brynu na gwerthu dafad na gafr mewn marchnad oni fydd yn prynu hefyd yr holl anifeiliaid eraill yn y lot y mae'r ddafad neu'r afr honno yn perthyn iddi.

    (3) Rhaid i weithredwr marchnad sicrhau, cyn gynted ag y bydd dafad neu afr wedi'i gwerthu yn y farchnad, fod y ddogfen symud a ddisgrifir yn erthygl 12 yn cael ei llenwi.

    (4) Ni chaiff neb symud dafad na gafr o farchnad ac eithrio i'r safle sydd wedi'i nodi yn y cofnod symud a gafodd ei lenwi yn unol â pharagraff (3) uchod.

    (5) Rhaid i weithredwr y farchnad sicrhau mai ar y diwrnod y mae dafad neu afr yn cael ei symud o'r farchnad, ei fod yn anfon dogfen sydd o ran ei sylwedd ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a'r ddogfen honno yn pennu'r wybodaeth a ddisgrifir yn erthygl 12(1) a (2), i'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y lleolir y farchnad.

Gorfodi
    
18. Ac eithrio lle darperir yn bendant fel arall, mae darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'w gweithredu a'u gorfodi gan yr awdurdod lleol.

Dirymu Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002
    
19. Dirymir Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Jane Davidson
Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes

am 2:31pm ar 4 Medi 2002


Whitty
Is-ysgrifennydd Seneddol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
am 11:30am ar 5 Medi 2002



YR ATODLEN
Erthygl 17


HYSBYSU SYMUDIAD O FARCHNAD


Enw'r gweithredwr marchnad sy'n anfon yr hybsysiad:




Man ymadael:

Rhif Daliad

Cyfeiriad

Cod post

(safle'r farchnad y mae'r defaid neu'r geifr i gael eu symud ohono).

Cyrchfan:

Rhif Daliad

Cyfeiriad

Cod post

(y gyrchfan y mae'r defaid neu'r geifr i'w symud iddi)

Dyddiad y symudiad Nifer y defaid neu'r geifr sydd i'w symud Marc adnabod yn unol ag erthygl 12(2) Y rhif lot y gwerthwyd yr anifeiliaid odani yn y farchnad
                             



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig ac mae'n dirymu ac yn ailddeddfu (gyda rhai diwygiadau) Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1357 (Cy.133)). Mae'n rhoi ar waith y darpariaethau sy'n ymwneud â defaid a geifr yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ar adnabod a chofrestru anifeiliaid (OJ Rhif L355, 5.12.92, t.32) ac yn darparu mesurau dros dro sy'n ymwneud â rheoli clefydau ar gyfer y cyfnod o 6 Medi 2002 hyd at 1 Chwefror 2003.

Mae'r Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n cadw defaid neu eifr hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol (erthygl 3) a chadw cofnodion o symudiadau defaid a geifr a manylion eraill amdanynt (erthyglau 4 a 5).

Mae erthygl 7 yn ei gwneud yn ofynnol i farcio defaid a geifr a anwyd yng Nghymru â Marc Tarddiad ac mae erthygl 8 yn gwahardd symud yr anifeiliaid o'u daliad geni heb Farc Tarddiad. Mae Erthygl 9 yn gwahardd amryw symudiadau cyffredinol defaid neu eifr oni bai eu bod wedi'u marcio â marciau adnabod penodedig.

Mae erthygl 10 yn darparu ar gyfer dodi uchafswm o 3 marc adnabod ar ddafad neu afr ran amlaf. Mae erthygl 11 yn ei gwneud yn ofynnol i ddafad neu afr sydd wedi'i mewnforio o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd gael ei marcio â Marc F o fewn 30 diwrnod.

Mae erthygl 12 yn darparu bod dogfen sy'n cynnwys gwybodaeth benodedig yn cyd-fynd â defaid neu eifr pan fyddant yn cael eu symud, ac eithrio o dan amgylchiadau penodol.

Mae erthyglau 13 i 15 yn darparu ar gyfer gwaredu, amnewid ac ychwanegu tagiau clust a thatwcirc s, ac yn gwahardd eu difwyNo. Mae erthygl 16 yn ei gwneud yn ofynnol i ddangos cofnodion i arolygydd ac mae erthygl 17 yn nodi darpariaethau mewn perthynas â marchnadoedd. Mae erthygl 18 yn darparu bod awdurdodau lleol yn gorfodi darpariaethau'r Gorchymyn hwn.

Mae torri unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn yn dramgwydd o dan Adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 ac ar ôl collfarn gellir cosbi â dirwy.

Y prif newidiadau ers y Gorchymyn blaenorol yw - 

    (a) diwygio'r dyddiad y mae effaith y Gorchymyn yn darfod (o 1 Rhagfyr 2002 i 1 Chwefror 2003) (erthygl 1);

    (b) diwygio'r diffiniad o "canolfan gasglu" ("collecting centre") er mwyn ei gysoni â darnau cysylltiedig eraill o ddeddfwriaeth (erthygl 2);

    (c) cynyddu uchafswm y tagiau y caniateir eu dodi ar anifail (erthygl 10);

    (ch) gosod gofyniad ar geidwaid sy'n derbyn anifeiliaid newydd i hysbysu hynny i'r awdurdod lleol (erthygl 12); a

    (d) gosod gofyniad ar geidwaid anifeiliaid i amnewid marciau S a gollwyd ar yr amod bod manylion rhai gwreiddiol yn hysbys i'r ceidwad (erthygl 13).

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.


Notes:

[1] 1981 p.22 Gweler adran 86(1) i gael y diffiniadau o "the Ministers". Mewn perthynas â Chymru, trosglwyddwyd pwerau "the Ministers" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac i'r graddau yr oedd y pwerau hynny yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, fe'u trosglwyddwyd i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd wedi hynny i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back

[2] O.S. 2000/1673; y diwygiad perthnasol yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/430 (Cy.52)).back

[3] O.S. 2000/2335 (Cy. 152) (a ddirymwyd bellach).back

[4] O.S. 2002/2304 (Cy.229).back

[5] O.S. 1995/539 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/3189, ac mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2000/656, O.S. 2000/2257, O.S. 2001/1508, O.S. 2001/1740, O.S. 2001/1802, O.S. 2001/2627 ac O.S. 2002/129.back

[6] O.S. 2002/1357 (Cy.133).back

[7] OJ L355 o 5.12.92, t.0032.back

[8] O.S. 1983/1950.back



English version



ISBN 0 11090572 5


  Prepared 27 September 2002

About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010