BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022023w.html

[New search] [Help]

2002 Rhif 2023 (Cy.207)

TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS I DEITHWYR, CYMRU

Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 31 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 14 Awst 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 94(4) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985[1] ac adran 146 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) (Cymru) 2002 ac mae'n dod i rym ar 14 Awst 2002.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn mae gan y termau "person oedrannus" a "person anabl" yr un ystyr ag sydd gan "elderly person" a "disabled person" yn adran 146 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000.

Gwasanaethau cymwys
    
3.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) o'r erthygl hon, mae gwasanaeth yn wasanaeth cymwys o dan adran 94 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 ac o dan adran 146 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 os yw'n perthyn i un o'r dosbarthau canlynol - 

    (a) gwasanaeth lleol sy'n cael ei ddarparu neu'i sicrhau - 

      (i) gan awdurdod addysg lleol yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 509 o Ddeddf Addysg 1996[3], neu

      (ii) ar gyfer personau oedrannus neu bersonau anabl,

    ac y mae'r amodau a restrir ym mharagraff (2) wedi'u bodloni mewn perthynas â hwy;

    (b) gwasanaeth lleol, nad yw'n wasanaeth a ddisgrifir ym mharagraff (1)(a), ac sy'n defnyddio cerbyd a addaswyd i gario mwy nag wyth o deithwyr (neu gerbyd llai, ond dim ond os yw'r gwasanaethau yn cael eu gweithredu yn unol ag amserlen) ac y mae'r amodau a restrir ym mharagraff (3) wedi'u bodloni mewn perthynas ag ef;

    (2) Yr amodau y mae paragraff (1)(a) yn cyfeirio atynt yw - 

    (a) bod seddau ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth ar gael, fel arfer, i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol a bod yr aelodau hynny'n defnyddio'r gwasanaeth yn rheolaidd;

    (b) bod y mannau aros (ac eithrio'r mannau y mae'r gwasanaeth yn cael ei ddaparu'n bennaf iddynt neu ohonynt) wedi'u lleoli mewn mannau lle byddant yn debygol o gael eu defnyddio yn rhesymol aml gan aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol;

    (c) bod yr aelodau hynny o'r cyhoedd yn gallu gwneud taith unigol rhwng unrhyw ddau fan aros trwy dalu pris tocyn nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth;

    (ch) bod yr aelodau hynny yn gallu talu'r pris tocyn mewn man ac mewn ffordd nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth; a

    (d) bod trefniadau wedi'u gwneud sy'n rhoi cyfle rhesymol i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol gael gwybod am fodolaeth y gwasanaeth, yr amserau y mae ar waith, a'r mannau y mae'n eu gwasanaethu.

    (3) Yr amodau y mae paragraff (1)(b) yn cyfeirio atynt yw - 

    (a) bod o leiaf hanner y lle ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth ar gael, fel arfer, i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol a bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan yr aelodau hynny;

    (b) bod y mannau aros wedi'u lleoli mewn mannau lle byddant yn debygol o gael eu defnyddio yn rhesymol aml gan aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol;

    (c) bod yr aelodau hynny yn gallu gwneud taith unigol rhwng unrhyw ddau fan aros trwy dalu pris tocyn nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth;

    (ch) bod yr aelodau hynny yn gallu talu'r pris tocyn mewn man ac mewn ffordd nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro'n fwriadol rhag defnyddio'r gwasanaeth;

    (d) nad oes ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth unrhyw arwydd na disgrifiad sydd wedi'i fwriadu neu sy'n debygol o roi'r argraff bod y gwasanaeth ond ar gael ar gyfer categori penodol o berson; ac

    (dd) bod trefniadau wedi'u gwneud sy'n rhoi cyfle rhesymol i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol gael gwybod am fodolaeth y gwasanaeth, yr amserau y mae ar waith, a'r mannau y mae'n eu gwasanaethu.

    (4) Dim ond ar ôl i effaith adran 92 o Ddeddf Cyllid 1965[4] ddod i ben oherwydd dyfodiad i rym adran 154(6) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, mewn perthynas â Chymru, y bydd y rheoliad hwn yn cael effaith.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Gorffennaf 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi, mewn perthynas â Chymru, wasanaethau bysiau a fydd, pan ddaw effaith adran 92 o Ddeddf Cyllid 1992 i ben oherwydd dyfodiad i rym 154(6) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, yn gymwys at ddibenion:

      (i) y consesiynau teithio gorfodol o dan adran 145 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000; a

      (ii) darpariaethau Rhan IV o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (gwasanaethau lleol i deithwyr) sy'n ymwneud â chyfranogiad mewn cynlluniau consesiynau teithio, a threfniadau ad-dalu.


Notes:

[1] 1985 p. 67; diwygiwyd adran 94(4) gan Ddeddf Trafnidiaeth 2000, Atodlen 11, paragraff 16. Mae adran 135(2)(b) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 yn darparu bod unrhyw bwcirc er ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud gorchymyn o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Ddeddf honno yn arferadwy trwy offeryn statudol. Yn rhinwedd adran 43(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (1998 p.38) mae'r cyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 135 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 i'w ddehongli, at ddibenion arfer ei swyddogaethau o dan adran 94(4) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, fel petai'n cynnwys cyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[2] 2000 p. 38.back

[3] 1996 p. 56.back

[4] 1965 p. 25.back

[5] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11 090554 7


  Prepared 19 August 2002

About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010