BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021884w.html

[New search] [Help]

2002 Rhif 1884 (Cy.193)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 18 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 1 Medi 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 66(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Medi 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) 1990
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) 1990[3] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 1(2) (dehongli) - 

    (a) ar ôl y diffiniad o "bill of exchange", rhoddir - 

      " "competent authority" means an authority which is responsible for maintaining the official list in an EEA State;";

    (b) ar ôl y diffiniad o "deposit-taker", rhoddir - 

      " "EEA State" has the meaning given by Schedule 4 to the Financial Services and Markets Act 2000;[4]"; ac

    (c) ar ôl y diffiniad o "money market fund", rhoddir - 

      " "official list" in relation to the United Kingdom has the meaning given by section 103(1) of The Financial Services and Markets Act 2000 and in relation to any other EEA State means the equivalent list maintained by the competent authority of that State".

    (3) Yn rheoliad 2(1) - 

    (a) ym mharagraff (g), yn lle "Official List of The Stock Exchange" rhoddir "official list maintained by a competent authority"; a

    (b) ym mharagraff (h), yn lle "Official List of the Stock Exchange" rhoddir "official list maintained by the competent authority in the United Kingdom".

    (4) Yn rheoliad 3, ym mharagraff (3) - 

    (a) yn is-baragraff (b), yn lle "made; and" rhoddir "made."; a

    (b) hepgorir is-baragraff (c).



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Gorffennaf 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau Wedi'u Cymeradwyo) 1990 yn cynnwys rhestr o'r buddsoddiadau a gymeradwyir at ddibenion Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1990 drwy ymestyn y rhestr o fuddsoddiadau a gymeradwywyd fel ei bod yn cynnwys gwarantau a roddir gan gorff y cyfeirir ato yn Rhan I o'r Atodlen i Reoliadau 1990 sydd wedi cael eu derbyn i'r rhestr swyddogol a gedwir gan yr awdurdodau cymwys yn Aelod-wladwriaethau eraill yr Ardal Economaidd Ewrop.

Yn ogystal, mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r gwahaniaeth mewn perthynas â buddsoddiadau tymor-byr rhwng yr awdurdodau hynny y mae ganddynt dyledion tymor-hwy a'r rhai nad oes ganddynt ddyledion felly.


Notes:

[1] 1989 p. 42.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1990/426; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1991/501, 2001/3649 a 2002/ 885 (Cy. 100).back

[4] 2000 p. 8.back

[5] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11090541 5


  Prepared 12 August 2002

About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010