BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021806w.html

[New search] [Help]

2002 Rhif 1806 (Cy176)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2002

  Wedi'u gwneud 9 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 10 Gorffennaf 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddiaeth cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2), a grybwyllir uchod drwy hyn yn gwneud y rheoliadau canlynol:

Enw a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 10 Gorffennaf 2002.

Diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001
    
2. Diwygir Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001[3] yn unol â rheoliadau 3 i 18 o'r Rheoliadau hyn.

     3. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (Diffiniadau) - 

    (a) mewnosodwch y diffiniadau canlynol ar ôl y diffiniad o "amaethyddiaeth" - 

      " mae i "arwynebedd porthiant" ("forage area") yr un ystyr ag yn Erthygl 12(2)(b) o Reoliad Cyngor 1254/1999;

      ystyr "arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano" ("claimed forage area") mewn perthynas â chais am lwfans iawndal, yw tir a nodwyd fel tir porthiant mewn cais am gymorth ardal ar gyfer y flwyddyn gynllun berthnasol;

      ystyr "awdurdod cymwys arall" ("other competent authority") yw'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Gweinidogion yr Alban neu, yng Ngogledd Iwerddon, yr Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig;";

    (b) yn y diffiniad o "ceisydd" ("claimant") dilëwch y geiriau "a enwir yn daliad Tir Mynydd";

    (c) mewnosodwch y diffiniad canlynol ar ôl y diffiniad o "ceisydd" ("claimant")

      " ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;";

    (ch) mewnosodwch y diffiniadau canlynol ar ôl y diffiniad o "IACS"

      " ystyr "lwfans iawndal" ("compensatory allowance") yw lwfans iawndal sy'n daladwy yn unol â Phennod V o Deitl II o Reoliad y Cyngor 1257/1999;

      ystyr "lwfans tir llai ffafriol sy'n perthyn" ("related less favoured area allowance") yw - 

           mewn perthynas â Lloegr, Lwfans Fferm Tir Uchel;

           mewn perthynas â'r Alban, Cynllun Cymorth Tir Llai Ffafriol; a

           mewn perthynas â Gogoledd Iwerddon, Lwfans Iawndal Tir Llai Ffafriol;";

    (d) mewnosodwch y diffiniadau canlynol ar ôl y diffiniad o "person awdurdodedig"

      " ystyr "premiwm blynyddol defaid" ("sheep annual premium") yw'r premiwm sy'n daladwy o dan Reoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992[4].

      ystyr "premiwm buchod sugno" ("Suckler Cow Premium") yw'r premiwm sy'n daladwy o dan Reoliadau Premiwm Buchnod Sugno 2001[5];";

    (dd) mewnosodwch y diffiniadau canlynol cyn y diffinad o "Rheoliad y Comisiwn 1750/1999"

      " ystyr "Rheoliadau 1994" ("the 1994 Regulations") yw Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1994[6];

      ystyr "Rheoliadau 1996" ("the 1996 Regulations") yw Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1996[7];

      ystyr "Rheoliadau 1999" ("the 1999 Regulations") yw Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1999[8];";

    (e) yn y diffiniad o "Reoliad y Cyngor 3508/92" ("Council Regulation 3508/92") mewnosodwch ar ôl y geiriau "ar gyfer" "cynlluniau penodol o blith";

    (f) mewnosodwch y diffiniad canlynol ar ôl y diffiniad o "Rheoliad y Cyngor 3508/92"

      " ystyr "Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal)" ("Hill Livestock (Compensatory Allowances) Regulations") yw Rheoliadau 1994, 1996 neu Reoliadau 1999 fel y bo'r achos;";

    (ff) mewnosodwch y diffiniadau canlynol ar ôl y diffiniad o "coetir"

      " ystyr "taliad iawndal cyntaf" ("first compensatory payment") yw'r taliad Tir Mynydd cyntaf sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn neu pan fo lwfans iawndal wedi cael ei dalu o dan y Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal), y taliad cyntaf o'r lwfans hwnnw;

      ystyr "Taliad Tir Mynydd" ("Tir Mynydd payment") yw'r taliad iawndal sy'n daladwy yn unol â'r Rheoliadau hyn;

      ystyr "tir cymhwysol" ("qualifying land") yw'r tir perthnasol, neu mewn perthynas â cheisydd y mae rheoliad 3A yn gymwys iddo, y rhan honno o'r tir perthnasol sy'n weddill o'r didyniadau sy'n cael eu gwneud i'r tir perthnasol yn unol â'r rheoliad hwnnw;";

    (g) rhowch y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniad o "tir cymwys" - 

      " ystyr "tir cymwys" ("eligible land") yw'r rhan honno o'r tir cymhwysol, sy'n gorwedd o fewn tir llai ffafriol;";

    (ng) mewnosodwch y diffiniadau canlynol cyn y diffiniad o "tir tan anfantais" - 

      " ystyr "tir llai ffafriol sy'n perthyn" ("related less favoured area") yw, mewn perthynas â cheisydd, yr holl arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano, ac eithrio tir llai ffafriol, y cynghorodd awdurdod cymwys arall y Cynulliad Cenedlaethol fod y ceisydd yn gymwys i gael lwfans tir llai ffafriol sy'n perthyn amdano;

      ystyr "tir perthnasol" ("relevant land") yw unrhyw arwynebedd porthiant y gwenir cais amdano sydd wedi'i leoli yng Nghymru;";

    (h) yn y diffiniad o "uned da byw" ("livestock unit) yn lle paragraffau (a), (b) ac (c) rhowch y paragraffau canlynol - 

      " (a) un fuwch sugno neu heffer sy'n 24 mis oed neu'n hycircn;

      (b) 1.67 heffer o dan 24 mis oed;

      (c) 6.67 mamog;";

     4. Mewnosodwch y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 2 - 

    " Pwcircer i wneud taliadau
        
    2A. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas â blwyddyn gynllun, yn gwneud taliad Tir Mynydd sydd wedi'i gyfrifo yn unol â'r Atodlen â'r i geiswyr cymwys ynglyn â'u tir cymwys.".

     5. Rhowch y rheoliad canlynol yn lle rheoliad 3 (Ceiswyr cymwys) - 

    " Ceiswyr cymwys
        
    3.  - (1) Bydd ceiswyr yn gymwys i gael taliad Tir Mynydd mewn perthynas â blwyddyn gynllun ar yr amod bod - 

      (a) cais am daliad wedi'i wneud mewn perthynas â'r flwyddyn gynllun honno drwy gais am gymorth arwynebedd dilys a bod yr arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano, os o gwbl, yn cydymffurfio ag un o'r amodau a bennir ym mharagraff (2); a

      (b) y ceisydd wedi cyflwyno cais am gymorth da byw mewn perthynas â defaid neu fuchod sugno neu'r ddau ohonynt mewn perthynas â'r flwyddyn y cyflwynwyd cais yn ei chylch am daliad Tir Mynydd; ac

      (c) y ceisydd wedi defnyddio arferion ffermio da arferol sy'n cyd-fynd â'r angen i ddiogelu'r amgylchedd a chynnal cefn gwlad, yn benodol drwy ffermio cynaliadwy; a

      (ch) y ceisydd wedi rhoi ymrwymiad ysgrifenedig y bydd yn ffermio o leiaf 3 hectar o dir sydd naill ai'n dir cymwys neu'n dir llai ffafriol sy'n perthyn a pharhau i wneud hynny am gyfnod o 5 mlynedd o ddyddiad y taliad iawndal cyntaf ac nad yw'r ceisydd hwnnw'n torri'r ymrwymiad hwnnw ar ddyddiad y taliad.

        (2) Y canlynol yw'r amodau - 

      (a) bod nid llai na 6 hectar o'r arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano o fewn y tir llai ffafriol; neu

      (b) os nad yw'r arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano sy'n gorwedd o fewn y tir llai ffafriol yn llai na 1 hectar ond yn llai na 6 hectar, mae cyfanswm yr arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano yn cynnwys tir sydd wedi'i leoli o fewn tir llai ffafriol sy'n perthyn ac sy'n gymwys i gael lwfans tir llai ffafriol sy'n perthyn.".

     6. Mewnosodwch y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 3 - 

    " Gostyngiad yn y Tir Perthnasol"
        
    3A.  - (1) Pan fo gan geisydd swmp cyfeiriol unigol o laeth ar gael, bydd gostyngiad sy'n cael ei gyfrifo yn unol â darpariaethau paragraff (2) yn cael ei gymhwyso i dir perthnasol y ceisydd.

        (2) Bydd y gostyngiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn cael ei gyfrifo yn unol ag is-baragraffau (i) i (iii) - 

        (i) yn gyntaf, cyfrifir nifer yr unedau da byw yn y fuches laeth dybiannol drwy rannu'r swmp cyfeiriol unigol o laeth sydd ar gael i'r ceisydd gan 5730, sef nifer y litrau o laeth y tybir ei fod yn gyfwerth â chynnyrch blynyddol un fuwch odro;

        (ii) am bob hectar o ddaliad y ceisydd nad yw o fewn tir llai ffafriol, gostyngir nifer yr unedau da byw a gyfrifir yn unol â pharagraff (i) o 2 uned;

        (iii) defnyddir nifer yr unedau da byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso is-baragraff (ii) er mwyn cyfrifo'r gostyngiad yn y tir perthnasol drwy ostwng arwynebedd y tir hwnnw o 1 hectar ar gyfer pob 2 uned da byw sy'n weddill, ac mae'r gostyngiad i'w gymhwyso'n llawn mewn perthynas â thir dan anfantais cyn ei gymhwyso i dir dan anfantais difrifol.

        (3) Yn y rheoliad hwn, ystyr "y fuches laeth dybiannol" ("notional dairy herd") yw cyfanswm yr anifeiliad y bernir eu bod yn fuches laeth ar dir sy'n cael ei ffermio gan y ceisydd yng Nghymru fel y'i cyfrifwyd uchod ac mae i "swmp cyfeiriol unigol o laeth" yr un ystyr ag i "individual reference quantity of milk" yn Erthygl 31 o Reoliad y Comisiwn (EC) 2342/1999[9].".

     7. Mewnosodwch y paragraffau canlynol yn rheoliad 4 (Y dwysedd stocio isaf), ar ôl paragraff (2) - 

        " (3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu bod dwysedd stocio o lai na 0.1 yn ddigonol at ddibenion paragraff (1) os yw wedi'i fodloni'n rhesymol ei bod yn addas gwneud hynny o ystyried holl amgylchiadau'r achos, ac o ddwyn i ystyriaeth, yn benodol, nifer y mamogiaid a/neu fuchod sugno nad ydynt yn destun cais am bremiwm o dan Gynllun Premiwm Blynyddol Defaid a/neu Gynllun Premiwm Buchod Sugno, ac unrhyw rwymedigaeth ar ran y ceisydd yngylch y nifer o famogiaid a/neu fuchod sugno y ceir eu cadw ar y tir sy'n cynnwys y tir cymwys, mewn perthynas â'r flwyddyn y mae'r cais am daliad Tir Mynydd yn cael ei gyflwyno ynddi.

        (4) Er mwyn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i ystyried a ddylai arfer ei ddisgresiwn o dan baragraff (3), rhaid i'r ceisydd ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol y fath wybodaeth y gall yn rhesymol ei fynnu.".

     8. Mewnosodwch y paragraff canlynol yn rheoliad 6 (Cyfrifo taliadau arwynebedd  -  elfen 1), ar ôl paragraff (3) - 

        " (4) Wedi ymgymryd â'r cyfrifiad sylfaenol yn unol â Rhan A o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gall y Cynulliad Cenedlaethol, os gwêl yn dda, gynyddu'r swm a gyfrifwyd o ganran y gall benderfynu arni ar yr amod bod yr un cynnydd yn y ganran yn cael ei gymhwyso i bob ceisydd.".

     9. Yn rheoliad 7 (Taliad chwyddo amgylcheddol o dan elfen 2 o'r cynllun) - 

    (a) ym mharagraff (2) cyn y geiriau "10 y cant", mewnosodwch y geiriau "hyd at";

    (b) ym mharagraff (3) cyn y geiriau "20 y cant", mewnosodwch y geiriau "hyd at".

     10. Mewnosodwch ym mharagraff (b) o reoliad 8 (Categorïau sy'n gymwys ar gyfer y taliad chwyddo amgylcheddol) ar ôl y gair "thir" y geiriau "sydd wedi cwblhau'i drosi ac".

    
11. Yn rheoliad 9 (Taliadau), dilewch baragraffau (2) a (3).

    
12. Yn rheoliad 10 (Ceisiadau), rhowch y paragraff canlynol yn lle paragraff (3) - 

        " (3) Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais am daliad Tir Mynydd mewn perthynas â blwyddyn gynllun yw 15 Mai. Gall cyflwyno cais yn hwyr arwain at gosbau a fydd yn cael eu cyfrifo yn unol â darpariaethau Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2419/2001 dyddiedig 11 Rhagfyr 2001 sy'n cyflwyno rheolau manwl er mwyn cymhwyso'r system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer rhai cynlluniau o blith Cynlluniau cymorth y Gymuned a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor 3508/1992[10].".

     13. Dilëwch Reoliad 11 (Ceisiadau hwyr).

    
14. Yn rheoliad 12 (Rhyddhau o ymrwymiadau)

    (a) yn lle'r geiriau "rheoliad 9(2)" rhowch y geiriau "rheoliad 3(1)(ch)", a

    (b) ym mharagraff (c) yn lle'r gair "chwe" rhowch y gair "dri" ac ar ôl y gair "cymwys" rhowch y geiriau "neu unrhyw dir llai ffafriol sy'n perthyn".

     15. Yn rheoliad 13 (Cadw'n ôl neu adennill taliadau) ym mharagraff (a), yn lle'r geiriau "reoliad 9(2)" rhowch y geiriau "reoliad 3(1)(ch)".

    
16. Yn rheoliad 14 (Cyfradd Llog) - 

    yn lle'r geiriau "adeg talu i'r ceisydd" rhowch y geiriau "ddyddiad yr hysbysiad i'r ceisydd o fwriad y Cynulliad Cenedlaethol i adennill yn y fath fodd".

     17. Dilëwch reoliad 15 (Daliadau Trawsffiniol).

    
18. Yn yr Atodlen - 

    (a) rhowch y canlynol yn lle Rhan A - 



    " Rhan A

        
    1. Cyfrifir y taliad sylfaenol o dan elfen un y cynllun Tir Mynydd drwy luosi tir cymwys ceisydd wrth y gyfradd neu'r cyfraddau priodol a nodir ym mharagraff 2.

        
    2. Y cyfraddau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 yw - 

      (a) £23.00 yr hectar ar gyfer tir tan anfantais; a

      (b) £35.00 yr hectar ar gyfer tir tan anfantais ddifrifol.".

    (b) yn lle paragraff 4 o Ran C, rhowch y paragraff canlynol - 

         " 4. Ym mlwyddyn 2003, bydd gan y ceisydd yr hawl i swm ychwanegol a fyddai, pan fydd wedi'i ychwanegu at y taliad Tir Mynydd yn creu cyfanswm o 50% o'r swm a dalwyd i'r ceisydd ar gyfer HLCA ym mlwyddyn 2000.".

Diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Daliadau Trawsffiniol) (Cymru) 2001
    
19. Diwygir Rheoliadau Tir Mynydd (Daliadau Trawsffiniol) (Cymru) 2001 [11] yn unol â rheoliadau 20 a 21 o'r rheoliadau hyn.

     20. Yn rheoliad 2 (Diffiniadau), dilewch baragraff (2).

    
21. Yn rheoliad 4 (Diffiniad o awdurdod cymwys) ym mharagraff 2(c) yn lle'r geiriau "y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd" rhowch y geiriau "yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
12]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Gorffennaf 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn dod i rym ar 10 Gorffennaf 2002, yn diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 ("y prif Reoliadau") drwy:

    (a) ailddatgan a diwygio'r meini prawf i geiswyr fod yn gymwys i dderbyn taliad o dan y cynllun er mwyn i geisiwyr fod yn gymwys i dderbyn taliadau os oes ganddynt dir porthiant yn naill ai Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon ("tiriogaeth trawsffiniol") sef tir sy'n caniatáu i'r ceisydd hwnnw yr hawl i lwfans ar gyfer ardal llai ffafriol yn y diriogaeth drawsffiniol honno, er bod gan y ceiswyr hynny lai na'r lleiafswm gofynnol o 6 hectar o dir porthiant cymwys yng Nghymru (rheoliad 5).

    (b) ailfformiwleiddio ac ailddatgan y darpariaethau sy'n ymwneud â gostyngiad yn y tir porthiant pan fydd gan geiswyr swmp cyfeiriol unigol o laeth ar gael (rheoliad 6).

    (c) rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol y pwcircer i amrywio'r lleiafswm o ofynion dwysedd stocio o dan y cynllun o dan amgylchiadau penodol (Rheoliad 7).

    (ch) darparu ar gyfer cynyddu taliadau sylfaenol o dan y cynllun ac sy'n daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 8).

    (d) darparu bod y taliadau chwyddo amgylcheddol y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) a (3) o Reoliad 7 o'r prif Reoliadau yn daladwy yn y drefn honno mewn symiau sy'n gyfystyr â hyd at 10% a i 20% o daliadau elfen 1 (rheoliad 9).

    (dd) darparu bod y cosbau IACS mewn perthynas â chyflwyno yn hwyr yn cael eu gweithredu mewn perthynas â cheisiadau am daliadau sy'n cael eu gwneud yn hwyr o dan y cynllun (rheoliad 12).

    (e) darparu bod llog ar daliadau nad ydynt yn daladwy ac y gellir eu hadennill gan y Cynulliad Cenedlaethol i'w gyfrifo o'r dyddiad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn hysbysu'r ceisydd nad oedd y swm a dalwyd yn daladwy (rheoliad 16).

    (f) darparu fformwla "rhwyd achub" newydd mewn perthynas â chyfrifio taliadau Tir Mynydd ym mlwyddyn 2003 (rheoliad 18(b)).

    (ff) darparu ar gyfer gwneud mân newidiadau a newidiadau i'r diffiniadau sy'n dilyn yn sgil y diwygiadau uchod.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Tir Mynydd (Daliadau Trawsffiniol) (Cymru) 2001 yn rhinwedd, yn gyntaf, cynnwys diffiniad o "arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano" yn y prif reoliadau ac, yn ail, trosglwyddo swyddogaethau o'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi ei baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S. 1999/2788) ("y Gorchymyn"). Mae pwcircer y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir o fewn y Deyrnas Gyfunol ond y tu allan i Gymru, wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 2001/496 (Cy.23).back

[4] O.S. 1992 / 2677, a ddiwygiwyd gan O.S. 1994 / 2741, O.S. 1995 / 2779, O.S. 1996 / 49, O.S. 1997 / 2500 ac O.S. 2001 / 281.back

[5] O.S. 2001 / 1370.back

[6] O.S. 1994/2740, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/100, 1481, 2778 ac O.S. 1996/27 ac a ddiddymwyd gan O.S. 1996/1500.back

[7] O.S 1996/1500, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/33, 1998/206, 1999/375; yn rhinwedd O.S. 1999/3316, nid yw O.S. 1996/1500 bellach yn gymwys.back

[8] O.S. 1999/3316back

[9] O.J. Rhif L281, 04.11.99, t.30.back

[10] O.J. Rhif L327, 12.12.2001, t.11.back

[11] O.S. 2001/1154 (Cy.61)back

[12] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090531 8


  Prepared 2 August 2002

About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010