BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021730w.html

[New search] [Help]

2002 Rhif 1730 (Cy.164)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 4 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 1 Medi 2002 


TREFNIANT Y RHEOLIADAU

1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Gwahardd defnyddio cetris sy'n cynnwys peledi plwm
4. Pwerau mynediad er mwyn penderfynu a dorrwyd unrhyw ddarpariaethau'r Rheoliadau
5. Tramgwyddau
6. Diddymu Rheoliadau 2001

ATODLENNI:

  Atodlen 1 -  Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

  Atodlen 2 -  Adar Gwyllt mewn perthynas â hwy y mae'r Gwaharddiadau ar Saethu â Phelenni Plwm yn Gymwys iddynt.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

      i) ar ôl ymgynghori â'r pwyllgor a sefydlwyd[1] o dan adran 140(5) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[2];

      ii) ar ôl cyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette yn unol ag adran 140(6)(b) o'r Ddeddf honno;

      iii) ar ôl ystyried y sylwadau a gyflwynwyd yn unol â'r hysbysiad hwnnw;

    o'r farn ei bod yn briodol gwneud y Rheoliadau hyn er mwyn atal y sylweddau neu'r eitemau a bennir ynddynt rhag llygru'r amgylchedd a niwedio iechyd anifeiliaid, ac felly, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 140 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[3], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: - 

    Enwi, cychwyn a chymhwyso
         1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 1 Medi 2002.

        (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

    Dehongli
        
    2. Yn y Rheoliadau hyn - 

      ystyr "aderyn gwyllt" ("wild bird") yw unrhyw aderyn o fath sy'n preswylio'n gyffredin yng Nghymru yn gyffedinol, neu syn ymweld öa Chymru, mewn cyflwr gwyllt;

      ystyr "Rheoliadau 2001" ("the 2001 Regulations") yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2001[4];

      ystyr "gwn cetris" ("shot gun") yw gwn â baril llyfn ond nid yw'n cynnwys unrhyw wn cetris â siambr ar gyfer cetris ymyl-danio naw milimetr neu lai;

      ystyr "peledi plwm" ("lead shot") yw unrhyw beledi sydd wedi'u gwneud - 

      (a) o blwm, neu

      (b) o unrhyw aloi neu gyfansoddyn plwm a phlwm yn ffurfio mwy nag 1% o'r aloi neu'r cyfansoddyn hwnnw;

      ystyr "person awdurdodedig" ("authorised person") yw person a awdurdodwyd o dan reoliad 4(1) isod;

      mae "safle" ("premises") yn cynnwys unrhyw dir, cerbyd neu gwch, ond nid yw'n cynnwys safle sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl;

      ystyr "safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig" ("site of special scientific interest") yw ardal sydd wedi ei hysbysu o dan adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981[5].

    Gwahardd defnyddio cetris sy'n cynnwys peledi plwm
         3. Ni chaiff neb ddefnyddio peledi plwm er mwyn saethu gyda gwn cetris - 

      (a) ar unrhyw fan islaw'r marc penllanw neu drosti;

      (b) ar y safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a gynhwysir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau neu drostynt; neu

      (c) unrhyw aderyn gwyllt a gynhwysir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau.

    Pwerau mynediad er mwyn penderfynu a dorrwyd unrhyw ddarpariaethau'r Rheoliadau
        
    4.  - (1) Gall person sy'n ymddangos yn addas i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei awdurdodi yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol i arfer, yn unol â thelerau'r awdurdod, unrhyw un o'r pwerau a bennir ym mharagraff (2) isod at ddiben penderfynu a dorrwyd unrhyw ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn.

        (2) Dyma'r pwerau y gall person awdurdodedig gael ei awdurdodi i'w harfer o dan baragraff (1) uchod - 

      (a) mynd i mewn ar unrhyw adeg resymol i unrhyw safle y mae gan y person awdurdodedig le i gredu ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn iddo;

      (b) wrth fynd i mewn i unrhyw safle yn rhinwedd is-baragraff (a) uchod bod gydag ef - 

        (i) unrhyw berson awdurdodedig arall;

        (ii) os bydd sail resymol dros ddisgwyl unrhyw rwystr difrifol a fyddai'n atal y person awdurdodedig rhag cyflawni ei ddyletswydd, gwnstabl; ac

        (iii) unrhyw gyfarpar (heblaw cyfarpar trwm) neu ddefnyddiau y mae eu hangen at unrhyw ddiben mae'r pwcircer mynediad ar ei gyfer;

      (c) wneud unrhyw archwiliad ac ymchwiliad sy'n angenrhediol o dan yr amgylchiadau;

      (ch) cymryd unrhyw aderyn gwyllt sy'n farw neu wedi'i anafu neu beri bod samplau yn cael eu cymryd o unrhyw eitemau neu sylweddau sy'n cael eu darganfod mewn neu ar unrhyw safle y mae gan y person awdurdodedig bwcirc er i fynd i mewn iddo ac i beri bod unrhyw aderyn neu sampl felly yn cael ei ddadansoddi neu'i brofi;

      (d) yn achos unrhyw aderyn neu sampl a grybwyllir yn is-baragraff (ch) uchod, cymryd meddiant ohono a'i gadw gyhyd ag y mae ei angen at y cyfan neu unrhyw rai o'r dibenion canlynol, sef - 

        (i) ei archwilio, neu beri iddo gael ei archwilio, ac i wneud unrhyw beth iddo y mae gan y person awdurdodedig bwcirc er i'w wneud o dan yr is-baragraff hwnnw neu beri i hynny gael ei wneud;

        (ii) sicrhau na fydd neb yn ymyrryd ag ef cyn bod yr archwiliad ohono wedi'i gwblhau;

        (iii) sicrhau ei fod ar gael i'w ddefnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos llys ar gyfer tramgwydd.

        (3) Pan fydd person awdurdodedig yn bwriadu mynd i mewn i unrhyw safle a - 

      (a) bod mynediad wedi cael ei wrthod a bod y person awdurdodedig yn disgwyl ar seiliau rhesymol y gall fod yn angenrheidiol defnyddio grym i lwyddo i fynd mewn; neu

      (b) bod y person awdurdodedig yn disgwyl, ar seiliau rhesymol, y bydd mynediad yn debyg o gael ei wrthod ac y gall fod yn angenrheidiol i ddefnyddio grym i lwyddo i fynd i mewn,

    rhaid mynd i mewn i'r safle hwnnw yn rhinwedd y rheoliadau hyn o dan awdurdod gwarant yn rhinwedd paragraff (4) isod yn unig.

        (4) Os dangosir i ynad heddwch drwy dystiolaeth ysgrifenedig ar lw - 

      (a) bod yna seiliau rhesymol dros arfer, mewn perthynas ag unrhyw safle, bwcircer sy'n arferadwy yn unol â gwarant o dan y paragraff hwn), a

      (b) bod un neu fwy o'r amodau a bennir ym mharagraff (5) isod wedi ei gyflawni,

    gall yr ynad awdurdodi'r Cynulliad Cenedlaethol trwy warant i ddynodi person a awdurdodir i arfer y pwcircer mewn perthynas â'r safle, yn unol â'r warant a thrwy rym os bydd angen.

        (5) Yr amodau a grybwyllir yn is-baragraff 4(b) uchod yw - 

      (a) bod arfer y pwcircer mewn perthynas â'r safle wedi'i wrthod;

      (b) y disgwylir yn rhesymol y bydd yn cael ei wrthod;

      (c) bod y safle heb ei feddiannu;

      (ch) bod y meddiannydd yn absennol dros dro o'r safle a bod yr achos yn un brys; neu

      (d) y byddai cais am fynediad i'r safle yn trechu diben y mynediad arfaethedig.

        (6) Bydd pob gwarant a roddwyd o dan baragraff (4) uchod yn parhau mewn grym nes bod y dibenion y rhoddwyd y gwarant ar eu cyfer wedi eu cyflawni.

        (7) Rhaid i berson awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, ddangos tystiolaeth am yr awdurdod neu'r dynodiad (os gofynnir iddo wneud hynny).

        (8) Rhaid i berson awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, sydd, trwy arfer unrhyw bwcirc er a roddir gan y rheoliad hwn, yn mynd i mewn i unrhyw safle nad yw wedi'i feddiannu neu y mae ei feddiannydd yn absennol dros dro, adael y safle wedi ei sicrhau yn erbyn tresmaswyr yr un mor effeithiol â chyn i'r person hwnnw fynd i mewn iddo.

        (9) Ni fydd person awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, yn atebol mewn unrhyw achos sifil na throseddol am unrhyw beth a wnaed trwy honni arfer unrhyw bwcirc er a roddir gan y rheoliad hwn os bydd y llys wedi'i fodloni bod y weithred wedi ei chyflawni'n ddidwyll a bod seiliau rhesymol dros ei chyflawni.

    Tramgwyddau
        
    5.  - (1) Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 3 uchod neu sy'n peri neu'n caniatáu i unrhyw berson arall dorri'r rheoliad hwnnw yn euog o dramgwydd a bydd yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

        (2) Bydd unrhyw berson sy'n fwriadol yn rhwystro person sy'n gweithredu trwy arfer unrhyw bwcirc er o dan reoliad 4 uchod yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

    Diddymu Rheoliadau 2001
        
    6. Diddymir Rheoliadau 2001.



    Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
    6]


    D. Elis-Thomas
    Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

    4 Gorffennaf 2002



    ATODLEN 1
    Rheoliad 3(b)


    SAFLEOEDD O DDIDDORDEB GWYDDONOL ARBENNIG




    Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Dyddiad Dynodi o dan adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 Lleoliad (Cyfeirnod Grid OS) (gweler y nodyn isod)
    Angle Bay 04/03/1993 SM883025
    Beddmanarch-Cymyran 25/09/1998 SH275790
    Broadwater 13/01/1993 SH582027
    Burry Inlet and Loughor Estuary 25/09/1989 SS135985
    Carew and Cresswell Rivers 04/03/1993 SN025055
    Cosheston Pill 04/03/1993 SM990036
    Daugleddau 04/03/1993 SN003116
    Dee Estuary 23/09/1998 SJ220800
    Dyfi 14/03/1995 SN635950
    Flatholm 10/03/1993 ST220649
    Gronant Dunes / Talacre Warren 29/01/1998 SJ100847
    Inner Marsh Farm 11/02/1995 SJ307735
    Laugharne and Pendine Burrows 18/02/1990 SN290070
    Llyn Alaw 29/03/1985 SH390865
    Llyn Syfaddan / Llangorse Lake 09/02/1983 SO133265
    Llyn Traffwll 18/02/1986 SH325770
    Llynnoedd y Fali / Valley Lakes 22/05/1986 SH310770
    Morfa Harlech 25/05/2001 SH570660
    Ynys Llanddwyn / Newborough Warren 09/03/1995 SH400640
    Pembrey Coast 10/11/1983 SN316054
    Pembroke River and Pwll Crochan Flats 04/03/1993 SM940025
    Severn Estuary 02/02/1989 ST226758
    Shotton Lagoon and Reedbeds 19/10/1999 SJ298709
    Sully Island 16/12/1986 ST167670
    Teifi Estuary 08/12/1997 SN158502

    SN785675

    Traeth Lafan 24/09/1984 SH630750
    Whiteford Burrows and Landimore Marsh 04/04/1984 SS450955

    Nodyn: Mae cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans yn rhoi pwynt o fewn y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.



    ATODLEN 2
    Regulation 3(c)


    ADAR GWYLLT MEWN PERTHYNAS Â HWY Y MAE'R GWAHARDDIAD AR SAETHU Â PHELENNI PLWM YN GYMWYS IDDYNT




    Enw Cyffredin Enw Gwyddonol
    Cwtiar Fulica Atra
    Hwyaid a Gwyddau (holl rywogaethau pob un ohonynt) Anatidae
    Iâr Ddwcirc r Gallinula chloropus

    Nodyn: Mae'r enw neu'r enwau cyffredin yn cael eu cynnwys fel canllaw yn unig; os bydd unrhyw anghydfod neu achos, rhaid peidio â chymryd yr enw neu'r enwau cyffredin i ystyriaeth.



    EXPLANATORY NOTE

    (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gwahardd defnyddio peledi plwm ar gyfer saethu â gwn cetris - 

      (a) ar unrhyw fan islaw'r marc penllanw neu drosti;

      (b) ar y safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a gynhwysir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau neu drostynt; neu

      (c) unrhyw aderyn gwyllt a gynhwysir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau sef hwyaid a gwyddau (pob rhywogaeth o bob un ohonynt), cwtiar ac iâr ddwr (rheoliad 3).

      Ystyr "peledi plwm" yw unrhyw beledi o blwm neu o unrhyw aloi neu gyfansoddyn plwm a phlwm yn ffurfio mwy nag 1% o'r aloi neu'r cyfansoddyn (rheoliad 2).

    Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer pwerau mynediad ac archwilio, pwcircer i gymryd unrhyw adar meirw neu rai sydd wedi'u hanafu, er mwyn penderfynu a dorrwyd unrhyw ddarpariaethau'r Rheoliadau.

    Mae Rheoliad 5 yn darparu bod torri rheoliad 3, neu rwystro person sy'n arfer unrhyw bwcirc er o dan reoliad 4, yn dramgwydd troseddol y gellir ei gosbi drwy ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

    Cofrestrir hysbysiadau o safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig o dan adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 fel pridiannau tir lleol (adran 28(9) o'r Ddeddf honno).

    Gellir cael manylion o'r ardaloedd sy'n cael eu cynnwys yn y safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a restrir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau oddi wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Plas Penrhos, Ffordd Penrhos, Bangor, Gwynedd, LL57 2LQ.

    Diddymir Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/4003 (Cy.331)) (rheoliad 6).


    Notes:

    [1] O.S. 1991/1487.back

    [2] 1990 p.43back

    [3] Trosglwyddwyd y pwerau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999 / 672).back

    [4] O.S. 2001 / 4003 (Cy.331).back

    [5] 1981 p. 69.back

    [6] 1998 p. 38.back



    English version



    ISBN 0 11090550 4


      Prepared 16 August 2002

About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010