BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021663w.html

[New search] [Help]

2002 Rhif 1663 (Cy.158)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 25 Mehefin 2002 
  Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2002 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 218(1)(b) a (10)(aa) a 232(5) a (6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn - 

    ystyr "athro neu athrawes berthnasol" ("relevant teacher") yw person a gyflogir yn athro neu'n athrawes (pa un a ddisgrifir y swydd y cyflogir y person ynddi yn swydd addysgu ai peidio) mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach ac eithrio - 

    (a) person a gyflogir i addysgu cyrsiau addysg uwch yn unig, a

    (b) person nad addysgu yw ei brif alwedigaeth neu broffesiwn ac a gyflogir gan y coleg ar sail dros dro neu achlysurol i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar arferion diwydiannol, masnachol neu broffesiynol cyfredol;

    ystyr "cymhwyster addysgu AB cam 3" ("stage 3 FE teaching qualification") yw cymhwyster y pennir ei safonau gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn;

    ystyr "cymhwyster addysgu AB cam 2" ("stage 2 FE teaching qualification") yw cam canol y cymhwyster addysgu AB cam 3 y pennir ei safonau gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn;

    ystyr "cymhwyster addysgu AB cam 1" ("stage 1 FE teaching qualification") yw cam rhagarweiniol y cymhwyster addysgu AB cam 3 y pennir ei safonau gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn;

    ystyr "cymhwyster Rheoliadau 1999" ("1999 Regulations qualification") yw cymhwyster sy'n rhoi i berson statws athro neu athrawes gymwysedig o fewn ystyr rheoliad 10 o Reoliadau 1999;

    ysytyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    ystyr "Rheoliadau 1999" ("the 1999 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999[3];

    ystyr "sefydliad o fewn y sector addysg bellach" ("institution within the further education sector") yw sefydliad o fewn ystyr "institutions within the further education sector" yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[4];

    ystyr "swydd cam 3" ("stage 3 post") yw swydd addysgu y mae cymhwyster addysgu AB cam 3, ym marn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach sy'n cyflogi'r athro neu'r athrawes, yn gymhwyster addas ar ei chyfer;

    ystyr "swydd cam 2" ("stage 2 post") yw swydd addysgu rhan-amser y mae cymhwyster addysgu AB cam 2, ym marn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach sy'n cyflogi'r athro neu'r athrawes, yn gymhwyster addas ar ei chyfer;

    ystyr "swydd cam 1" ("stage 1 post") yw swydd addysgu rhan-amser y mae cymhwyster addysgu AB cam 1, ym marn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach sy'n cyflogi'r athro neu'r athrawes, yn gymhwyster addas ar ei chyfer;

    ystyr "Tystysgrif Addysg" ("Certificate of Education") yw cymhwyster o'r enw hwnnw ac a ddyfarnwyd cyn 1 Awst 2002 gan sefydliad yn y sector addysg uwch.

Athrawon perthnasol i feddu ar gymwysterau
     3.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob person sy'n mynd yn athro neu athrawes berthnasol ar neu wedi 1 Gorffennaf 2002 mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru ac na fu ar unrhyw adeg cyn y dyddiad hwnnw yn - 

    (a) athro neu athrawes berthnasol (mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru neu Loegr);

    (b) athro neu athrawes - 

      (i) yng Nghymru neu Loegr, mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod addysg leol, coleg technoleg dinasol, coleg dinasol ar gyfer technoleg y celfyddydau neu academi ddinasol neu, cyn 1 Medi 1999, ysgol a gynhelid â grant neu ysgol arbennig a gynhelid â grant;

      (ii) yn yr Alban, ysgol a gynorthwyir â grant neu ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg;

      (iii) yng Ngogledd Iwerddon, ysgol a reolir o dan awdurdod bwrdd addysg a llyfrgelloedd lleol, ysgol a gynhelir, ysgol integredig a gynhelir â grant neu ysgol ramadeg wirfoddol;

    (c) athro neu athrawes mewn sefydliad (yng Nghymru neu Loegr) a oedd, cyn 1 Ebrill 2001 yn sefydliad allanol o fewn ystyr "external institution" yn adran 6(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[5];

    (ch) athro neu athrawes - 

      (i) yn yr Alban, mewn coleg addysg bellach,

      (ii) yng Ngogledd Iwerddon, mewn sefydliad addysg bellach o fewn ystyr "institution of further education" yng Ngorchymyn Addysg Bellach (Gogledd Iwerddon) 1997[6];

    (d) athro neu athrawes mewn sefydliad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw sy'n darparu addysg sy'n gyfwerth ag addysg uwchradd neu addysg bellach ac sy'n rhan o system gyhoeddus addysg y wladwriaeth neu'r diriogaeth dan sylw.

    (2) Rhaid i bob athro neu athrawes berthnasol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo neu iddi ac sydd ar unrhyw adeg yn cael ei gyflogi neu ei chyflogi yn llawnamser, erbyn y dyddiad a benderfynir yn unol â rheoliad 4(1) (os digwydd), ddal - 

    (a) cymhwyster Rheoliadau 1999 neu awdurdodiad i addysgu yn unol â Rhan II neu Ran III o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;

    (b) Tystysgrif Addysg;

    (c) cymhwyster addysgu AB cam 3; neu

    (ch) cymhwyster cyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 3.

    (3) Rhaid i bob athro neu athrawes berthnasol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo neu iddi a gyflogir ar unrhyw adeg yn rhan-amser o dan gontract i weithio am gyfran benodol o'r cyfnod y cyflogir athro neu athrawes lawnmamser i weithio ynddo, erbyn y dyddiad a benderfynir yn unol â rheoliad 4(1) (os digwydd), ddal - 

    (a) cymhwyster Rheoliadau 1999 neu awdurdodiad i addysgu yn unol â Rhan II neu Ran III o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;

    (b) Tystysgrif Addysg;

    (c) cymhwyster addysgu AB cam 3; neu

    (ch) cymhwyster cyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 3.

    (4) Rhaid i bob athro neu athrawes berthnasol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo neu iddi ac a gyflogir ar unrhyw adeg yn rhan-amser ac nad yw'n dod o fewn paragraff (3), cyn y dyddiad a benderfynir yn unol â rheoliad 4(2) (os digwydd), ddal - 

    (a) cymhwyster Rheoliadau 1999 neu awdurdodiad i addysgu yn unol â Rhan II neu Ran III o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;

    (b) Tystysgrif Addysg;

    (c) cymhwyster addysgu AB cam 1, cam 2 neu gam 3 (gan ddibynnu pa un ai mewn swydd cam 1, swydd cam 2 neu swydd cam 3 y cyflogir yr athro neu'r athrawes); neu

    (ch) cymhwyster cyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 1, cam 2 neu gam 3 (gan ddibynnu pa un ai mewn swydd cam 1, cam 2 neu gam 3 y cyflogir yr athro neu'r athrawes).

    (5) At ddibenion y rheoliad hwn - 

    (a) mae cymhwyster yn gyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 1, cam 2 neu gam 3, os ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod o safon cywerth â, neu o safon uwch na, y cymhwysterau hynny ac os pennir ef gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn; a

    (b) caiff person sy'n dal cymhwyster addysgu AB cam 3 ei drin fel petai hefyd yn dal cymhwyster addysgu AB cam 2 a chaiff person sy'n dal, neu sy'n cael ei drin fel petai'n dal, cymhwyster addysgu AB cam 2 ei drin fel petai hefyd yn dal cymhwyster cam 1.

Dyddiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3
     4.  - (1) Y dyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(2) a (3) yw'r dyddiad y mae'r athro neu'r athrawes wedi ei gyflogi neu ei chyflogi yn llawnamser, neu'n rhan-amser arno o dan gontract fel a grybwyllir yn rheoliad 3(3), am gyfnod o, neu am gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn - 

    (a) ddwy flynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arno, os cyflogir yr athro neu'r athrawes yn llawnamser; a

    (b) pedair blynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arno, os cyflogir yr athro neu'r athrawes yn rhan-amser.

    (2) Y dyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(4) yw - 

    (a) os cyflogir yr athro neu'r athrawes mewn swydd cam 1, y dyddiad y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes arno am gyfnod o, neu gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn, ddwy flynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arno;

    (b) os cyflogir yr athro neu'r athrawes mewn swydd cam 2, y dyddiad y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes arno mewn swydd cam 2 neu swydd cam 3 am gyfnod o, neu gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn, bedair blynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arno;

    (c) os cyflogir yr athro neu'r athrawes mewn swydd cam 3, y dyddiad y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes arno mewn swydd cam 3 am gyfnod o, neu gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn, bedair blynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arNo.

    (3) Y "cwrs perthnasol" y cyfeirir ato ym mharagraff (1) a (2) yw - 

    (a) at ddibenion paragraff (1), y cwrs cyntaf sy'n arwain at gymhwyster addysgu AB cam 3 y gallai fod yn rhesymol i'r athro neu'r athrawes ei fynychu, gan ddechrau ar ôl i'r athro neu'r athrawes fynd yn athro neu'n athrawes berthnasol gyntaf a chael ei gyflogi neu ei chyflogi yn llawnamser, neu'n rhan-amser o dan gontract fel a grybwyllir yn rheoliad 3(3);

    (b) at ddibenion paragraff (2)(a), y cwrs cyntaf sy'n arwain at gymhwyster addysgu AB cam 1 y gallai fod yn rhesymol i athro neu athrawes ei fynychu, gan ddechrau ar ôl i'r athro neu'r athrawes fynd yn athro neu athrawes berthnasol;

    (c) at ddibenion paragraff (2)(b), y cwrs cyntaf sy'n arwain at gymhwyster addysgu AB cam 2 y gallai fod yn rhesymol i'r athro neu i'r athrawes ei fynychu, gan ddechrau ar ôl i'r athro neu'r athrawes ddechrau ar swydd cam 2 neu swydd cam 3 am y tro cyntaf; a

    (ch) at ddibenion paragraff (2)(c), y cwrs cyntaf sy'n arwain at gymhwyster addysgu AB cam 3 y gall fod yn rheysmol i athro neu athrawes ei fynychu, gan ddechrau ar ôl i'r athro neu'r athrawes ddechrau ar swydd cam 3 am y tro cyntaf.

    (4) Wrth gyfrif y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) i (3) ni chyfrifir y cyfnodau canlynol - 

    (a) unrhyw gyfnodau pryd mae'r athro neu'r athrawes yn absennol oherwydd salwch, seibiant mamolaeth neu seibiant rhieiniol ; a

    (b) unrhyw gyfnodau eraill y mae o dan yr holl amgylchiadau yn rhesymol i'w gadael allan o'r cyfrif.

Diwygio Rheoliadau 1999
    
5. Diwygir Rheoliad 4 o Reoliadau 1999 fel a ganlyn - 

    (a) ym mharagraff (2)(b) ar ôl "sefydliad addysg bellach" mewnosodir "a gynhelir gan awdurdod addysg lleol"; a

    (b) am baragraff (3) amnewidir - 

        " (3) Mae'r gofynaid ym mharagraff (1) yn ychwanegol at y gofynion sy'n ymwneud â chymwysterau ar gyfer cyflogaeth mewn ysgolion a sefydliadau o fewn y sector addysg bellach a gynhwysir yn Rhan IV o'r Rheoliadau hyn a Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002 yn y drefn honNo. ".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Mehefin 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar bersonau penodol a gyflogir yn athrawon mewn sefydliadau yn y sector addysg bellach i feddu ar gymwysterau. Bydd y gofynion yn gymwys i athrawon sy'n bodloni'r diffiniad o "athro neu athrawes berthnasol" yn rheoliad 2 ac a gyflogir mewn sefydliadau yn y sector addysg bellach ar ôl 1 Gorffennaf 2002 os nad ydynt wedi addysgu mewn ysgolion a gynhelir neu sefydliadau addysg bellach a ariennir yn gyhoeddus o'r blaen (rheoliad 3(1)). Yn rhinwedd adran 218(13) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 bydd y Rheoliadau yn gymwys i bersonau a gymerir ymlaen i ddarparu gwasanaethau fel athrawon ond sydd heb gontract cyflogaeth, yn ogystal â'r personau hynny a gyflogir o dan gontract cyflogaeth.

Mae rheoliadau 3(2), (3) a (4) a 4 yn darparu ar gyfer lefelau o gymwsyterau ac ar gyfer y cyfnodau y mae rhaid cael y cymwysterau ynddynt.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999.

Pennir y safonau ar gyfer rhai o'r cymhwysterau y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau o'r safonau hynny oddi wrth Sefydliad Hyfforddiant Cenedlaethol Addysg Bellach (Cymru), Canolfan Quadrant, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5WF.


Notes:

[1] 1988 p.40; mewnosodwyd adran 218(10)(aa) gan adran 93 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13) a pharagraff 49(c) o Atodlen 8 iddi.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/2817 (Cy. 18).back

[4] 1992 p.13.back

[5] 1992 p.13; diddymwyd adran 6(5) gan adrannau 149 a 153 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) a pharagraffau 1 a 20 o Atodlen 9 ac Atodlen 11 iddi.back

[6] O.S. 1997/1772 (G.I. 15).back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090514 8


  Prepared 3 July 2002

About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010