BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021385w.html

[New search] [Help]

2002 Rhif 1385 (Cy.135)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2002

  Wedi'u gwneud 16 Mai 2002 
  Yn dod i rym 17 Mai 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22(6), (7), (8), (9), (10), (11) a (12), 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1]:

Enwi, cychwyn, a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 17 Mai 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygiad i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru)
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 [2] fel a ganlyn.

    (2) Yn lle paragraff (4) o Reoliad 5 rhowch:

        " (4) Ni chaiff eitem fusnes ei hystyried mewn cyfarfod oni bai bod - 

      (a) copi o'r agenda gan gynnwys yr eitem (neu gopi o'r eitem) yn agored i aelodau o'r cyhoedd ei archwilio yn unol â pharagraff (1):

        (i) am o leiaf dri diwrnod clir cyn y cyfarfod; neu

        (ii) pan fydd y cyfarfod yn cael ei gynnull ar rybudd byrrach, o'r amser y bydd y cyfarfod yn cael ei gynnull; neu

      (b) cadeirydd y cyfarfod o'r farn, oherwydd amgylchiadau arbennig, a fydd yn cael eu nodi yn y cofnodion, y dylai'r item gael ei thrafod yn y cyfarfod fel mater o frys.".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66 (1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].


J.E. Randerson
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg

16 Mai 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Gwnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 o dan adrannau 22(6), (7), (8), (9), (10), (11) a (12), 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 er mwyn rheoleiddio gwahanol faterion mewn perthynas â'r busnes a weithredir gan awdurdodau lleol sydd yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth. Gwneir y Rheoliadau yma drwy ddefnyddio'r un pwerau i wneud ychwanegiad i'r Rheoliadau blaenorol hynny.

Mae Rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth i gadeirydd cyfarfod o'r weithrediaeth, neu bwyllgor o'r weithrediaeth, o awdurdod lleol wneud ychwanegiadau at agenda'r cyfarfod os yw'r person hynny o'r farn y dylid ystyried y mater ychwanegol, yn rhinwedd amgylchiadau arbennig, fel mater o frys.


Notes:

[1] 2000 p.22back

[2] O.S.2001/2290 (Cy. 178)back

[3] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11090493 1


  Prepared 24 May 2002

About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010