BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021187w.html

[New search] [Help]

2002 Rhif 1187 (Cy.135)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 25 Ebrill 2002 
  Yn dod i rym ar 26 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir iddo gan adrannau 6(4) a (5), 7(1) a (9) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]: - 



RHAN I

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 26 Ebrill 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru yn unig.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynlluniau llawn 2002 - 05 a chynlluniau dilynol (p'un ai llawn neu atodol) yn unig.

Diddymu ac arbed
    
2.  - (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 1999[3].

    (2) Ni fydd diddymu'r rheoliadau yn (1) uchod yn rhagfarnu dilysrwydd parhaus y cynlluniau sydd eisoes wedi'u gwneud o dan y rheoliadau hynny.

Dehongli
     3.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall - 

    mae i "anghenion addysgol arbennig" yr ystyr a roddir i "special educational needs" gan adran 312(1) o Ddeddf Addysg 1996;

    ystyr "atodiadau" ("annexes") yw atodiadau i ddatganiad o gynigion sy'n ffurfio rhan o gynllun strategol addysg;

    ystyr "awdurdod" ("authority") yw awdurdod addysg lleol;

    ystyr "blwyddyn ysgol" ("school year") yw cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Medi;

    ystyr "cwrs byr TGAU" ("GCSE short course") yw cwrs TGAU a gynlluniwyd i gwmpasu cyfran yn unig (nid llai na hanner) o'r cwrs astudio TGAU llawn cyfatebol, ac y mae'r un safonau graddio yn berthnasol iddo, ac ystyr "arholiad cwrs byr TGAU" ("GCSE short course examination") yw arholiad y mae'r cwrs sy'n arwain ato yn gwrs byr TGAU;

    ystyr "cyflawni'r Dangosydd Pynciau Craidd" ("to achieve the Core Subject Indicator") yw - 

      (i) mewn perthynas â disgyblion cyfnod allweddol dau, fod y disgyblion hynny i gael eu hasesu fel pe baent wedi cyrraedd lefel 4 neu'n uwch ym mhrofion y CC ar gyfer y cyfnod allweddol hwnnw mewn Cymraeg (heblaw am Gymraeg fel ail iaith) neu Saesneg ac mewn mathemateg a gwyddoniaeth,

      (ii) mewn perthynas â disgyblion cyfnod allweddol tri, fod y disgyblion hynny i gael eu hasesu fel pe baent wedi cyrraedd lefel 5 neu'n uwch ym mhrofion y CC ar gyfer y cyfnod allweddol hwnnw mewn Cymraeg (heblaw am Gymraeg fel ail iaith) neu Saesneg ac mewn mathemateg a gwyddoniaeth, a

      (iii) mewn perthynas â disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol o dan sylw, fod y disgyblion hynny wedi ennill unrhyw radd o A* i C mewn arholiad TGAU mewn Cymraeg (heblaw am Gymraeg fel ail iaith) neu Saesneg ac mewn arholiad TGAU mathemateg ac arholiad TGAU gwyddoniaeth;

    ystyr "cyfnod allweddol dau" ("second key stage") a "cyfnod allweddol tri" ("third key stage") yw'r cyfnodau a bennir ym mharagraffau (b) ac (c) yn y drefn honno o adran 355(1) o Ddeddf 1996;

    ystyr "cyfnod y cynllun" ("period of the plan") yw'r cyfnod a bennir yn rheoliad 4;

    ystyr "cymhwyster galwedigaethol" ("vocational qualification") yw - 

    (a) GNVQ Rhan Un,

    (b) GNVQ Canolradd,

    (c) GNVQ Sylfaen,

    (ch) Uned Iaith GNVQ, neu

    (d) NVQ,

a gymeradwywyd o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000;

    ystyr "cynllun atodol" ("supplementary plan") yw cynllun strategol addysg sy'n ymdrin â'r materion ac sy'n cynnwys y deunydd a bennir yn Rhan IV o'r Rheoliadau hyn, ac ystyr "cynllun atodol cyntaf" ("first supplementary plan") ac "ail gynllun atodol" ("second supplementary plan") mewn perthynas â chynllun llawn yw'r cynlluniau atodol a baratoir mewn perthynas â'r cyfnodau a bennir yn rheoliadau 4(3) a 4(4) yn ôl eu trefn;

    ystyr "cynllun llawn" ("full plan") yw cynllun strategol addysg a baratoir gan awdurdod sy'n ymdrin â'r materion ac sy'n cynnwys y deunydd a bennir yn Rhannau II a III o'r rheoliadau hyn, ac ystyr "cynllun llawn 2002 - 05" ("2002 - 05 full plan") yw'r cynllun llawn y cyfeirir ato yn Rheoliad 4(1);

    ystyr "cynllun strategol addysg" ("education strategic plan") yw cynllun datblygu addysg a baratowyd gan awdurdod yn unol ag adran 6(1) o Ddeddf 1998;

    ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Addysg 1996[4];

    ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

    mae i "derbyn gofal gan awdurdod lleol" mewn perthynas â phlentyn yr ystyr a roddir i "looked after by a local authority" yn adran 22 o Ddeddf Plant 1989[5], a dehonglir "plant sy'n derbyn gofal" ("looked after children") yn unol â hynny;

    mae i "disgybl" yr ystyr a roddir i "pupil" yn adran 3 o Ddeddf 1996;

    ystyr "disgyblion cyfnod allweddol dau" ("second key stage pupils") a "disgyblion cyfnod allweddol tri" ("third key stage pupils") yw disgyblion sydd yng nghyfnodau allweddol dau a thri yn y drefn honno;

    ystyr "disgyblion sy'n destun datganiad" ("statemented pupils") yw disgyblion ag anghenion addysgol arbennig y gwnaed datganiad ar eu cyfer o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996 ac ystyr "disgyblion nad ydynt yn destun datganiad" ("non-statemented pupils") yw disgyblion ag anghenion addysgol arbennig na wnaed datganiad o'r fath ar eu cyfer;

    ystyr "diwrnod cyntaf y cynllun" ("the first day of the plan") mewn perthynas â chynllun strategol addysg yw diwrnod cyntaf y cyfnod y mae'r cynllun hwnnw yn ymwneud ag ef;

    "dosbarth prif-ffrwd" ("mainstream class") yw dosbarth mewn ysgol brif-ffrwd, nas dynodwyd gan yr awdurdod yn ddosbarth arbennig;

    ystyr "dyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion" ("Schools' Census enumeration date") yw'r dyddiad y cyfeirir ato yn flynyddol gan y Cynulliad Cenedlaethol fel y dyddiad y mae'n gofyn i wybodaeth gael ei darparu ar ei gyfer mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn unol ag adran 29(1) o Ddeddf 1996;

    ystyr "ELQ" ("ELQ") yw cymhwyster a ddisgrifir ac sydd wedi'i gymeradwyo fel Cymhwyster Lefel Mynediad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[6];

    ystyr "ffurflen Gyfrifiad Ysgolion" ("Schools' Census return") yw'r ffurflen y mae'n ofynnol i awdurdod ei llenwi bob blwyddyn gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag adran 29(1) o Ddeddf 1996;

    ystyr "GNVQ" ("GNVQ") yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol;

    ystyr "lefel 4" ("level 4") a "lefel 5" ("level 5") yw lefelau 4 a 5 yn y drefn honno o raddfa lefelau'r Cwricwlwm Cenedlaethol fel y'u pennir drwy ganlyniadau profion y CC;

    ystyr "NVQ" ("NVQ") yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol;

    ystyr "plant i deithwyr" ("travellers' children"), mewn perthynas â chynllun, yw plant - 

    (a) sydd oherwydd dull o fyw eu rhieni, naill ai heb gartref sefydlog neu sy'n gadael eu prif breswylfan i fyw yn rhywle arall am gyfnodau arwyddocaol ym mhob blwyddyn; neu

    (b) sy'n dod o fewn paragraff (a) uchod o fewn cyfnod o ddwy flynedd yn union cyn diwrnod cyntaf y cynllun;

    ystyr "profion y CC" ("NC tests") yw profion y Cwricwlwm Cenedlaethol a weinyddir i ddisgyblion er mwyn asesu eu lefel cyrhaeddiad mewn Cymraeg, Saesneg, gwyddoniaeth neu fathemateg, sef profion a bennir mewn darpariaethau a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y gorchymyn priodol a wnaed o dan adran 356(2) o Ddeddf 1996 sydd mewn grym pan weinyddir y profion hynny[7];

    mae i "y pynciau craidd" yr ystyr a roddir i "the core subjects" yn adran 354(1) o Deddf 1996;

    ystyr "Rheoliadau 1999" ("the 1999 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Diawdurdod) (Cymru) 1999[8];

    ystyr "y Rheoliadau Cyllido" ("the Financing Regulations") yw Rheoliadau Cyllido Ysgolion a Gynhelir 1999[9];

    ystyr "TGAU" ("GCSE") yw Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd, ac ystyr "arholiad TGAU" ("GCSE examination") yw arholiad y mae'r cwrs sy'n arwain ato yn gwrs astudio TGAU llawn;

    ystyr "ysgol a gynhelir" ("maintained school") yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig;

    "ysgol brif-ffrwd" ("mainstream school") yw ysgol nad yw'n ysgol arbennig;

    nid yw "ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod" ("schools maintained by the authority") yn cynnwys ysgolion nad ydynt yn ysgolion a gynhelir fel y diffinnir y rheiny yma.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad - 

    (a) at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw;

    (b) at baragraff â rhif mewn rheoliad neu Atodlen yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno;

onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall.

    (3) Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ddisgybl sy'n ennill - 

    (a) gradd mewn arholiad TGAU,

    (b) cymhwyster galwedigaethol, neu

    (c) gradd mewn arholiad cwrs byr TGAU,

erbyn diwedd blwyddyn ysgol, fel cyfeiriad at y disgybl hwnnw yn ennill y radd honno neu'r cymhwyster hwnnw yn ystod y flwyddyn ysgol y mae - 

      (i) yn sefyll yr arholiad hwnnw, neu

      (ii) (yn ôl fel y digwydd) yn cwblhau'r cwrs sy'n arwain at ddyfarnu'r cymhwyster hwnnw,

    hyd yn oed os yw'r penderfyniad i ddyfarnu'r radd neu'r cymhwyster yn cael ei wneud mewn blwyddyn ysgol ddiweddarach.

Y cyfnod y mae'n rhaid i'r datganiad o gynigion ymwneud ag ef
     4.  - (1) Rhaid i'r datganiad o gynigion yn y cynllun llawn cyntaf a baratoir o dan y Rheoliadau hyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "cynllun llawn 2002 - 05") ymwneud â chyfnod o dair blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2002.

    (2) Raid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn dilynol ymwneud â chyfnod o dair blwyddyn ysgol, sy'n dechrau pan ddaw cyfnod y cynllun llawn blaenorol mwyaf diweddar i ben.

    (3) Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun atodol cyntaf ymwneud â chyfnod o ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau pan ddaw'r flwyddyn ysgol gyntaf yng nghyfnod y cynllun llawn mwyaf diweddar i ben.

    (4) Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn ail gynllun atodol ymwneud â chyfnod - 

    (a) mewn perthynas yn unig â gosod targedau a bennir yn rheoliad 30, o ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau pan ddaw'r ail flwyddyn ysgol yng nghyfnod y cynllun llawn mwyaf diweddar i ben;

    (b) ym mhob cyswllt arall, un flwyddyn ysgol sy'n dechrau pan ddaw'r ail flwyddyn ysgol yng nghyfnod y cynllun llawn mwyaf diweddar i ben.

Y cyfnodau y mae'n rhaid paratoi cynlluniau strategol addysg rhyngddynt a chyflwyno'r cynlluniau i'r Cynulliad Cenedlaethol
    
5.  - (1) Rhaid paratoi cynlluniau strategol addysg bob blwyddyn.

    (2) Rhaid i bob awdurdod gyflwyno ei gynllun llawn 2002 - 05 i'r Cynulliad Cenedlaethol ar neu cyn y 31 Mai 2002.

    (3) Rhaid i bob awdurdod gyflwyno cynllun dilynol (p'un ai llawn neu atodol) i'r Cynulliad Cenedlaethol ar neu cyn 30 Ebrill cyn diwrnod cyntaf y cynllun hwnnw.

Cyhoeddi'r cynllun strategol addysg
    
6.  - (1) Rhaid i bob awdurdod gyhoeddi copi llawn o'i gynllun a gymeradwywyd - 

    (a) drwy sicrhau fod copi electronig neu ysgrifenedig ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd yr awdurdod, a

    (b) drwy ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol,

ar neu cyn diwrnod cyntaf y cynllun, neu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi i'r cynllun gael ei gymeradwyo, os yw hynny'n ddiweddarach.

    (2) Rhaid i bob awdurdod ddarparu copi o'i gynllun a gymeradwywyd, neu fersiwn cryno ohono - 

    (a) i bennaeth a chadeirydd corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod; a

    (b) i unrhyw berson arall os bydd y person hwnnw yn gwneud cais yn ysgrifenedig.

    (3) Yn y rheoliad hwn ystyr "cynllun a gymeradwywyd" yw cynllun strategol addysg sy'n gynllun llawn, yn gynllun atodol, neu'n gynllun wedi'i addasu, lle mae'r datganiad o gynigion wedi cael ei gymeradwyo o dan adran 7(2) neu 7(8) o Ddeddf 1998, a rhaid dehongli "a gymeradwywyd" mewn perthynas â chynllun o'r fath yn unol â hynny.

    (4) Bernir y bydd y gofyniad ym mharagraff (2)(a) wedi'i fodloni os bydd yr awdurdod wedi hysbysu'r personau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw fod cynllun yr awdurdod a gafodd ei gymeradwyo neu fersiwn gryno ohono ar gael ar wefan y mae'r awdurdod yn ei chynnal neu ar y Rhyngrwyd.



RHAN II

CYNLLUNIAU LLAWN  -  DATGANIAD O GYNIGION

Blaenoriaethau ar gyfer gwella ysgolion
    
7. Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn - 

    (a) nodi'r blaenoriaethau a nodwyd gan yr awdurdod ar gyfer codi safonau'r addysg a ddarperir ar gyfer plant yn ardal yr awdurdod yn ystod cyfnod y cynllun ac ar gyfer gwella perfformiad yr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn ystod y cyfnod hwnnw, ac unedau cyfeirio disgyblion ac ysgolion meithrin a gynhelir yn ei ardal;

    (b) pennu, mewn perthynas â phob un o'r blaenoriaethau a nodir yn unol â pharagraff (a), ar ba sail y cafodd ei nodi a sut y bydd yn cyfrannu at gyflawni'r targedau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11;

    (c) rhestru, mewn perthynas â phob un o'r blaenoriaethau a nodir yn unol â pharagraff (a), y gweithgareddau y mae'r awdurdod yn bwriadu ymgymryd â hwy yn ystod cyfnod y cynllun er mwyn mynd i'r afael â'r flaenoriaeth honno;

    (ch) cynnwys datganiad yn nodi sut y mae'r awdurdod yn bwriadu monitro'r perfformiad yn ystod cyfnod y cynllun mewn ysgolion a gynhelir, ysgolion meithrin a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion ac yn ei ardal;

    (d) cynnwys datganiad yn nodi sut y mae'r awdurdod yn bwriadu nodi a chefnogi ysgolion sy'n achosi pryder;

    (dd) gosod targedau cynnydd wedi'u hamseru, yn benodol a mesuradwy o ran pob un o flaenoriaethau'r awdurdod fel y nodir hwy yn unol â pharagraff (a); ac

    (e) cynnwys datganiad yn nodi'r camau y mae'r awdurdod yn bwriadu eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw ddiffygion gwirioneddol neu ddiffygion a ddisgwylir wrth gyflawni ei dargedau yn y cynllun blaenorol, p'un ai cynllun llawn neu gynllun atodol.

Disgyblion ag anghenion addysgol arbennig
    
8. Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn - 

    (a) nodi polisi'r awdurdod ar ddarparu addysg i ddisgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig;

    (b) nodi polisi'r awdurdod ar gyfer darparu addysg i ddisgyblion o'r fath mewn ysgolion prif-ffrwd;

    (c) pennu cynigion yr awdurdod ar gyfer darparu a gwella cefnogaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn ystod cyfnod y cynllun;

    (ch) pennu cynigion yr awdurdod ar gyfer hybu ei bolisi ar gynnwys disgyblion ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion prif-ffrwd yn ystod cyfnod y cynllun; a

    (d) gosod targedau cynnydd wedi'u hamseru, yn benodol a mesuradwy o ran pob un o flaenoriaethau'r awdurdod fel y nodir hwy yn unol â pharagraffau (c) ac (ch).

Hybu ymwybyddiaeth hil
    
9. Rhaid i'r datganiad o gynigion yn y cynllun llawn sy'n ymwneud â'r tair blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2005 ac mewn cynlluniau llawn dilynol - 

    (a) nodi polisi'r awdurdod ar hybu ymwybyddiaeth hil mewn ysgolion; a

    (b) nodi strategaeth yr awdurdod ar gyfer atal a mynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion.

Plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol
    
10. Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn - 

    (a) nodi polisi'r awdurdod ar y ddarpariaeth addysg i ddisgyblion sy'n blant sy'n derbyn gofal; a

    (b) pennu safonau addysgol y dylai disgyblion sy'n blant sy'n derbyn gofal yn ardal yr awdurdod fod yn eu cyrraedd yn yr ysgolion a gynhelir ganddo, ac wrth osod safonau o'r fath, rhaid i'r awdurdod roi sylw i dargedau cenedlaethol a osodir gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y safonau addysgol y mae disgyblion o'r fath i'w cyrraedd.

Targedau
    
11.  - (1) Yn y datganiad o gynigion mewn cynllun llawn rhaid i'r awdurdod osod targedau ar gyfer y flwyddyn gyntaf a'r ail yng nghyfnod y cynllun mewn perthynas â'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).

    (2) Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw - 

    (a) cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol dau fel y'u nodir yn rheoliad 12;

    (b) cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol tri fel y'u nodir yn rheoliad 13;

    (c) cyraeddiadau disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed fel y'u nodir yn rheoliad 14;

    (ch) canran y disgyblion na chyflwynwyd eu henwau i sefyll arholiadau fel y'i nodir yn rheoliad 15;

    (d) nifer y gwaharddiadau parhaol fel y'i nodir yn rheoliad 16;

    (dd) nifer y gwaharddiadau cyfnod penodedig fel y'i nodir yn rheoliad 17; ac

    (e) cyfradd yr absenoldebau diawdurdod fel y'i nodir yn rheoliad 18.

Disgyblion yng nghyfnod allweddol dau
    
12.  - (1) Cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol dau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw'r cyraeddiadau a nodir ym mharagraff (2) mewn cysylltiad â pherfformiad y grwcircp hwnnw ar neu yn agos i ddiwedd pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r targed i gael ei osod mewn perthynas â hwy.

    (2) Dyma'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) - 

    (a) ar gyfer pob un o'r pynciau craidd, canran y disgyblion sydd i gyrraedd lefel 4 neu'n uwch mewn profion o'r fath yn y pwnc hwnnw;

    (b) canran y disgyblion a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath;

    (c) canran y merched a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath; ac

    (ch) canran y bechgyn a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath.

    (3) Yn y rheoliad hwn, ystyr "y grwcircp perthnasol o ddisgyblion o'r fath", mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r holl bersonau y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y byddant, yn y flwyddyn ysgol honno - 

    (a) yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, a

    (b) ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol dau.

Disgyblion yng nghyfnod allweddol tri
    
13.  - (1) Cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol tri y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw'r cyraeddiadau a nodir ym mharagraff (2) mewn cysylltiad â pherfformiad y grwcircp hwnnw ar neu yn agos i ddiwedd pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r targed i gael ei osod mewn perthynas â hwy.

    (2) Dyma'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) - 

    (a) ar gyfer pob un o'r pynciau craidd, canran y disgyblion sydd i gyrraedd lefel 5 neu'n uwch mewn profion o'r fath yn y pwnc hwnnw;

    (b) canran y disgyblion a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath;

    (c) canran y merched a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath; ac

    (ch) canran y bechgyn a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath.

    (3) Yn y rheoliad hwn ystyr "y grwcircp perthnasol o ddisgyblion o'r fath", mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r holl bersonau y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y byddant, yn y flwyddyn ysgol honno - 

    (a) yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, a

    (b) ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol tri.

Disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed
    
14.  - (1) Cyraeddiadau'r disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) mewn perthynas â pherfformiad y grwcircp perthnasol o ddisgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed mewn arholiadau erbyn diwedd pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae targedau yn cael eu gosod mewn perthynas â hwy.

    (2) Dyma'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) - 

    (a) canran y disgyblion sydd i gyflawni'r dangosydd pynciau craidd;

    (b) canran y merched a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd;

    (c) canran y bechgyn a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd;

    (ch) canran y disgyblion a fydd yn ennill unrhyw radd o A* i C mewn pump neu fwy o bynciau mewn arholiadau TGAU;

    (d) canran y disgyblion a fydd yn cyflawni unrhyw radd o A* i G mewn pump neu fwy o bynciau mewn arholiadau TGAU; ac

    (dd) canran y disgyblion a fydd yn ymadael â'r ysgol heb naill ai ennill unrhyw radd o A* i G mewn arholiadau TGAU neu basio unrhyw arholiadau ELQ.

    (3) O ran y cyfeiriadau at ddisgyblion - 

    (a) sy'n ennill graddau penodol mewn arholiadau TGAU ym mharagraff (2) (ch), (d) ac (dd), rhaid eu dehongli at ddibenion y darpariaethau hyn fel eu bod yn cynnwys cyfeiriadau at ddisgyblion sy'n ennill dyfarniadau cyfatebol mewn nifer cyfatebol o gymwysterau galwedigaethol neu arholiadau cwrs byr TGAU; a

    (b) sy'n ymadael â'r ysgol ym mharagraff 2(dd) nid ydynt yn cynnwys disgyblion sy'n trosglwyddo i sefydliad addysgol arall ar sail llawnamser.

    (4) Bydd gan yr Atodlen effaith ar gyfer penderfynu, at ddibenion y rheoliad hwn, ar gwestiynau ynghylch - 

    (a) pa ddyfarniad cymhwyster galwedigaethol sy'n cyfateb i ba radd arholiad TGAU;

    (b) y cyfwerthedd rhwng canlyniadau arholiadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol; ac

    (c) y cyfwerthedd rhwng canlyniadau arholiadau TGAU a chanlyniadau arholiadau cwrs byr TGAU.

    (5) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 15, ystyr "y grwcircp perthnasol o ddisgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed" mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r holl bersonau y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y byddant - 

    (a) ar ddyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion yn y flwyddyn ysgol honno yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, a

    (b) yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol honNo.

     15. Canran y disgyblion na chyflwynwyd eu henwau i sefyll arholiadau y cyfeirir ati yn rheoliad 11 yw'r ganran o'r grwcircp perthnasol o ddisgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed, fel y'i diffinnir yn rheoliad 14, yn ardal yr awdurdod na fydd eu henwau yn cael eu cyflwyno i sefyll unrhyw arholiad TGAU, arholiad cwrs byr TGAU, dyfarniad cymhwyster galwedigaethol neu ELQ.

Targedau ar gyfer gwaharddiadau parhaol
    
16.  - (1) Nifer y gwaharddiadau parhaol y cyfeirir ato yn rheoliad 11 yw uchafswm nifer yr achlysuron y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y caiff disgyblion eu gwahardd yn barhaol o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, heblaw am unrhyw ysgol a leolir mewn ysbyty.

    (2) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 17, dylid dehongli "gwahardd" yn unol ag "excluded" yn adran 64(4) o Ddeddf 1998.

Targedau ar gyfer gwaharddiadau cyfnod penodedig
    
17. Y gwaharddiadau cyfnod penodedig y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw - 

    (a) uchafswm nifer y diwrnodau, a

    (b) uchafswm nifer yr achlysuron,

pryd y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y caiff disgyblion eu gwahardd am gyfnod penodedig o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod heblaw am unrhyw ysgol a leolir mewn ysbyty.

Targedau ar gyfer absenoldebau diawdurdod
    
18.  - (1) Y gyfradd absenoldeb diawdurdod y cyfeirir ati yn rheoliad 11 yw'r gyfradd absenoldeb diawdurdod ar gyfer pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r targed yn cael ei osod mewn perthynas â hi, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n darparu addysg uwchradd, heblaw am ysgolion arbennig ac unrhyw ysgol a leolir mewn ysbyty.

    (2) Yn y rheoliad hwn - 

    (a) ystyr "y gyfradd absenoldeb diawdurdod", mewn perthynas ag awdurdod ac unrhyw flwyddyn ysgol, yw cyfanswm yr absenoldebau diawdurdod o'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn ystod y cyfnod perthnasol yn y flwyddyn honno, wedi'i fynegi fel canran o gyfanswm y presenoldebau posibl yn y cyfnod hwnnw;

    (b) ystyr "absenoldeb diawdurdod" yw achlysur pan fo disgybl dydd perthnasol wedi'i gofrestru yn absennol o'r ysgol heb awdurdod yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995[
    10];

    (c) ystyr "cyfanswm y presenoldebau posibl", mewn perthynas ag awdurdod ac unrhyw flwyddyn ysgol, yw'r nifer a geir yn sgil lluosi nifer y disgyblion dydd perthnasol yn yr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gyda nifer y sesiynau ysgol yn y cyfnod perthnasol yn y flwyddyn honno;

    (ch) ystyr "disgybl dydd perthnasol", mewn perthynas ag ysgol a blwyddyn ysgol, yw disgybl a gofrestrwyd yn yr ysgol honno heblaw am - 

      (i) byrddiwr, neu

      (ii) disgybl sydd, cyn dechrau'r flwyddyn ysgol honno, naill ai heb gyrraedd deg oed a chwe mis, neu sydd wedi cyrraedd un ar bymtheg oed;

    (d) ystyr "y cyfnod perthnasol", mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r cyfnod sy'n dechrau ar ddechrau'r flwyddyn honno ac sy'n gorffen gyda diwedd y diwrnod ysgol sy'n disgyn ar y dydd Gwener cyn y dydd Llun olaf ym Mai yn y flwyddyn honno; ac

    (dd) mae i "addysg uwchradd" yr ystyr a roddir i "secondary education" yn adran 2(2) o Ddeddf 1996.

Gwybodaeth a ddefnyddir gan awdurdod wrth osod targedau
     19. Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn - 

    (a) disgrifio sut y bydd pob un o'r targedau ar gyfer unrhyw flwyddyn a osodir gan yr awdurdod yn rhinwedd rheoliad 11 yn ymwneud ag unrhyw dargedau cyfatebol ar gyfer y flwyddyn honno a osodir gan gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw yn rhinwedd Rheoliadau 1999;

    (b) disgrifio sut y bydd yr awdurdod yn mynd ati gyda ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod i gynorthwyo cyrff llywodraethu ysgolion o'r fath i osod y targedau y mae gofyn iddynt eu gosod yn rhinwedd Rheoliadau 1999, gan gynnwys disgrifiad o'r wybodaeth a roddir gan yr awdurdod i gyrff llywodraethu o'r fath er mwyn eu cynorthwyo i osod y targedau hynny;

    (c) disgrifio sut y bydd pob un o'r targedau ar gyfer unrhyw flwyddyn a osodir gan yr awdurdod yn rhinwedd rheoliad 11 yn ymwneud ag unrhyw dargedau cenedlaethol a osodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru; ac

    (ch) crynhoi'r wybodaeth a ddefnyddir gan yr awdurdod wrth osod y targedau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11.



RHAN III

ATODIADAU CYNLLUNIAU LLAWN

Cyd-destun yr awdurdod addysg lleol
    
20. Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys datganiad gan yr awdurdod yn rhoi disgrifiad o nodweddion allweddol yr awdurdod sydd ym marn yr awdurdod yn berthnasol i wella ac i godi safonau ysgolion yn ei ardal.

Adnoddau
    
21. Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys tabl yn dangos gwariant cynlluniedig awdurdod a gaiff ei ddidynnu o'i gyllideb ysgolion lleol, ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae diwrnod cyntaf y cynllun yn disgyn ynddi, mewn perthynas â'r blaenoriaethau a nodir yn y datganiad o gynigion yn unol â rheoliad 7(a), wedi'i ddadansoddi, drwy gyfeirio at wariant, yn y categorïau canlynol - 

    (a) y gwariant y cyfeirir ato ym mharagraffau 1 a 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Cyllido (gwariant a gefnogir gan grantiau penodol),

    (b) y gwariant y cyfeirir ato ym mharagraffau 3 i 15 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Cyllido (darpariaeth o natur arbennig), ac

    (c) y gwariant y cyfeirir ato ym mharagraffau 20 i 23 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Cyllido (gwella ysgolion).

Gwybodaeth ar ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig
    
22.  - (1) Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys tabl yn dangos - 

    (a) nifer y disgyblion sy'n destun datganiad yr oedd yr awdurdod yn darparu addysg ar eu cyfer ym mhob un o'r tair blwyddyn ysgol yn union cyn cyfnod y cynllun;

    (b) nifer y disgyblion nad ydynt yn destun datganiad yr oedd yr awdurdod yn darparu addysg ar eu cyfer yn y flwyddyn ysgol yn union cyn cyfnod y cynllun;

    (c) nifer y disgyblion sy'n destun datganiad a gofrestrwyd mewn dosbarthiadau prif-ffrwd mewn ysgolion prif-ffrwd a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun;

    (ch) nifer y disgyblion sy'n destun datganiad a gofrestrwyd mewn ysgolion prif-ffrwd a gynhelir gan yr awdurdod, naill ai mewn dosbarth arbennig neu gyda darpariaeth adnoddau arbennig, yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun;

    (d) nifer y disgyblion a gofrestrwyd mewn ysgolion arbennig a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun;

    (dd) cyfanswm y disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun a oedd wedi'u cofrestru fel disgyblion - 

      (i) mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau eraill, a

      (ii) mewn ysgolion annibynnol.

    (2) Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys - 

    (a) disgrifiad o'r trefniadau y mae'r awdurdod wedi eu sefydlu er mwyn sicrhau bod gwasanaethau partneriaeth rieni ar gael;

    (b) disgrifiad o'r trefniadau mae'r awdurdod wedi eu sefydlu er mwyn monitro a yw'r ddarpariaeth addysgol ac arall a nodir ym mhob datganiad a wneir o dan adran 324 o Ddeddf 1996 yn cael ei chyflwyno;

    (c) datganiad yn disgrifio trefniadau'r awdurdod i fonitro'r safonau addysgol y mae'r disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn eu cyrraedd; ac

    (ch) datganiad yn nodi mecanwaith ariannu'r awdurdod ar gyfer darpariaeth anghenion addysgol arbennig.

    (3) Yn y rheoliad hwn - 

    (a) ystyr "cyfanswm y disgyblion" yw cyfanswm y disgyblion y mae'r awdurdod yn darparu addysg ar eu cyfer;

    (b) mae pob cyfeiriad at nifer o ddisgyblion mewn perthynas â blwyddyn ysgol yn gyfeiriad at nifer y disgyblion hynny ar ddyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion yn y flwyddyn honno; ac

    (c) ystyr "gwasanaethau partneriaeth rieni", mewn perthynas â phob cynllun llawn heblaw cynllun llawn 2002 - 05, yw'r trefniadau a wneir gan yr awdurdod o dan adran 332A o Ddeddf 1996[
    11] i ddarparu cyngor a gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig i rieni plant ag anghenion addysgol arbennig, ond ei ystyr mewn perthynas â chynllun llawn 2002 - 05 yw unrhyw drefniadau o'r fath a all fod wedi cael eu gwneud neu eu cynllunio gan yr awdurdod.

Gwybodaeth ar ddisgyblion o leiafrifoedd ethnig
     23.  - (1) Rhaid i'r atodiadau i bob cynllun llawn ddisgrifio'r trefniadau ar gyfer darparu Saesneg fel iaith ychwanegol ar gyfer disgyblion nad yw Cymraeg na Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, yn y flwyddyn ysgol yn union cyn blwyddyn gyntaf y cynllun o dan sylw.

    (2) Rhaid i'r atodiadau i bob cynllun llawn, heblaw cynllun llawn 2002 - 05, gynnwys mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol yn union cyn blwyddyn gyntaf y cynllun o dan sylw - 

    (a) cyfanswm y disgyblion o leiafrifoedd ethnig yr oedd yr awdurdod yn darparu addysg ar eu cyfer,

    (b) dadansoddiad o darddiad ethnig y disgyblion hynny,

fel y dangosir hwy yn y ffurflen Gyfrifiad Ysgolion a gyflwynir i'r Cynulliad Cenedlaethol gan yr awdurdod.

Gwybodaeth ar blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol
    
24. Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys datganiad yn disgrifio trefniadau'r awdurdod ar gyfer monitro'r safonau addysgol y mae disgyblion sy'n blant sy'n derbyn gofal yn eu cyrraedd.

Gwybodaeth ar ddisgyblion sy'n blant i deithwyr
    
25.  - (1) Rhaid i'r atodiadau i bob cynllun llawn heblaw cynllun llawn 2002 - 05, mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol yn union cyn blwyddyn gyntaf y cynllun o dan sylw - 

    (a) pennu faint o ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a gofrestrir mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod,

    (b) pennu cyfartaledd cyfnod arhosiad y cyfryw ddisgyblion mewn ysgolion o'r fath, a

    (c) nodi'r trefniadau y mae'r awdurdod wedi eu sefydlu ar gyfer monitro faint o ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a gofrestrir mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod.

    (2) Rhaid i'r atodiadau ym mhob cynllun llawn mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol yn union cyn blwyddyn gyntaf y cynllun o dan sylw nodi'r trefniadau y mae'r awdurdod wedi eu sefydlu i gynorthwyo disgyblion sy'n blant i deithwyr.

Monitro a gwerthuso
    
26.  - (1) Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys - 

    (a) esboniad o sut y mae'r awdurdod yn bwriadu monitro a gwerthuso - 

      (i) ei gyraeddiadau mewn perthynas â phob un o'r blaenoriaethau a'r gweithgareddau y cyfeirir atynt yn rheoliad 7, gan gynnwys sut y mae'r awdurdod yn bwriadu monitro a gwerthuso cyraeddiadau'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion ac ysgolion meithrin a gynhelir yn ei ardal,

      (ii) ei weithgareddau a'i gyraeddiadau mewn perthynas â gweithredu ei bolisïau a'i gynigion y cyfeirir atynt yn rheoliadau 8 a 10,

      (iii) ei weithgareddau a'i gyraeddiadau mewn perthynas â chyrraedd y safonau addysgol y cyfeirir atynt yn rheoliad 10,

      (iv) ei weithgareddau a'i gyraeddiadau mewn perthynas â chyflawni'r targedau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11, a

      (v) defnydd yr awdurdod o adnoddau i gefnogi'r cynllun;

    (b) asesiad gan yr awdurdod - 

      (i) i ba raddau y mae'r canlyniadau ar gyfer y flwyddyn ysgol ddwy flynedd cyn blwyddyn lawn gyntaf y cynllun o dan sylw wedi cyflawni'r targedau terfynol a osodwyd ar gyfer y flwyddyn honno, a

      (ii) i ba raddau y mae'r targedau a osodwyd ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun o dan sylw yn wahanol i'r targedau ar gyfer yr un flwyddyn honno fel y cawsant eu gosod yng nghynllun atodol diweddaraf yr awdurdod;

    (c) gwerthusiad gan yr awdurdod o'i weithgareddau a'i gyraeddiadau yn ystod cyfnod y cynllun llawn blaenorol - 

      (i) mewn perthynas â'r blaenoriaethau a ganfyddir ar gyfer codi safonau addysg, a

      (ii) mewn perthynas â'r blaenoriaethau ar gyfer gwella ysgolion a gweithgareddau sy'n ymwneud â hynny,

    fel y cawsant eu gosod yn y cynllun llawn blaenorol; ac

    (ch) ym mhob cynllun llawn heblaw cynllun llawn 2002 - 05, i ba raddau y mae'r awdurdod wedi gweithredu'r polisi a'r strategaeth y cyfeirir atynt yn rheoliad 9.

    (2) Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriadau at gynllun llawn yn cynnwys unrhyw addasiadau a wneir i'r cynllun hwnnw o dan adran 7 o Ddeddf 1998.

Ymgynghori gan yr awdurdod
    
27. Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys disgrifiad o'r ymgynghori a wnaed gan yr awdurdod wrth baratoi'r cynllun gan gynnwys, yn benodol - 

    (a) nifer y personau a'r math o bersonau yr ymgynghorwyd â hwy;

    (b) crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghori; ac

    (c) sut y cafodd yr atebion hynny eu hadlewyrchu, os o gwbl, yn y cynllun.

Strwythur yr awdurdod
    
28. Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys disgrifiad - 

    (a) o strwythur pwyllgorau yr awdurdod sy'n berthnasol ar gyfer darparu'r gwasanaeth addysg; a

    (b) o strwythur trefniadol yr awdurdod sy'n berthnasol ar gyfer darparu'r gwasanaeth addysg a chefnogaeth ar gyfer gwella ysgolion.



RHAN IV

CYNLLUNIAU ATODOL

Gwella Ysgolion
    
29. Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun atodol gynnwys crynodeb gan yr awdurdod o'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw ddiffygion gwirioneddol neu ddiffygion a ddisgwylir wrth gyflawni ei dargedau yn y cynllun blaenorol, p'un ai cynllun llawn neu gynllun atodol.

Targedau
    
30.  - (1) Yn y datganiad o gynigion a gynhwysir mewn cynllun atodol rhaid i'r awdurdod osod targedau mewn cysylltiad â'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), fel a ganlyn - 

    (a) yn y cynllun atodol cyntaf, targedau ar gyfer yr ail a'r drydedd flwyddyn yng nghyfnod y cynllun llawn;

    (b) yn yr ail gynllun atodol, targedau ar gyfer y drydedd flwyddyn yng nghyfnod y cynllun llawn ac ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun llawn dilynol.

    (2) Dyma'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) - 

    (a) cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol dau fel y'u nodir yn rheoliad 12,

    (b) cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol tri fel y'u nodir yn rheoliad 13,

    (c) cyraeddiadau disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed fel y'u nodir yn rheoliad 14,

    (ch) canran y disgyblion na chyflwynwyd eu henwau i sefyll arholiadau fel y'i nodir yn rheoliad 15,

    (d) nifer y gwaharddiadau parhaol fel y'i nodir yn rheoliad 16,

    (dd) y gwaharddiadau cyfnod penodedig fel y'u nodir yn rheoliad 17, ac

    (e) y gyfradd absenoldeb diawdurdod fel y'i nodir yn rheoliad 18,

heblaw bod y geiriau "rheoliad 11" yn cael eu hamnewid am y geiriau "rheoliad 30" ym mhob un o'r rheoliadau y cyfeirir atynt.

Hybu ymwybyddiaeth hiliol
    
31. Rhaid i'r datganiad o gynigion a gynhwysir yn y cynllun atodol sy'n ymwneud â'r ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 - 

    (a) nodi polisi'r awdurdod ar hybu ymwybyddiaeth hiliol mewn ysgolion; a

    (b) nodi strategaeth yr awdurdod i atal a mynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion.

Monitro a gwerthuso
    
32.  - (1) Rhaid i'r atodiadau i gynllun atodol gynnwys - 

    (a) asesiad gan yr awdurdod i ba raddau y mae'r canlyniadau ar gyfer y flwyddyn ysgol ddwy flynedd cyn blwyddyn gyntaf y cynllun atodol o dan sylw wedi cyflawni'r targedau terfynol a osodwyd ar gyfer y flwyddyn honno; a

    (b) asesiad gan yr awdurdod i ba raddau y mae'r targedau a osodwyd ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun atodol o dan sylw yn wahanol i'r targedau ar gyfer yr un flwyddyn honno fel y cawsant eu gosod yng nghynllun diweddaraf yr awdurdod (p'un ai cynllun llawn neu atodol).

    (2) Rhaid i'r atodiadau i'r cynllun atodol sy'n ymwneud â'r ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 gynnwys adroddiad ar weithgareddau'r awdurdod i hybu ymwybyddiaeth hiliol mewn ysgolion ac atal a mynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion.

    (3) Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriadau at gynllun yn cynnwys unrhyw addasiadau a wneir i'r cynllun hwnnw o dan adran 7 o Ddeddf 1998.

Disgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig
    
33. Rhaid i'r atodiadau i gynllun atodol ddangos - 

    (a) nifer y disgyblion sy'n destun datganiad a gofrestrwyd fel disgyblion mewn dosbarth prif-ffrwd mewn ysgolion prif-ffrwd a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun;

    (b) nifer y disgyblion sy'n destun datganiad naill ai a gofrestrwyd fel disgyblion mewn dosbarth arbennig neu sy'n cael darpariaeth adnoddau arbennig mewn ysgolion prif-ffrwd a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun; ac

    (c) nifer y disgyblion a gofrestrwyd mewn ysgolion arbennig a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun.

Disgyblion o leiafrifoedd ethnig
    
34. Rhaid i'r atodiadau i'r cynllun atodol sy'n ymwneud â'r ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 gynnwys, mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2002 - 

    (a) cyfanswm y disgyblion o leiafrifoedd ethnig yr oedd yr awdurdod yn darparu addysg ar eu cyfer yn y flwyddyn ysgol yn union cyn cyfnod y cynllun, a

    (b) dadansoddiad o darddiad ethnig y disgyblion hynny,

fel y dangosir hwy yn y ffurflen Gyfrifiad Ysgolion a gyflwynir i'r Cynulliad Cenedlaethol gan yr awdurdod.

Disgyblion sy'n blant i deithwyr
    
35. Rhaid i'r atodiadau i'r cynllun atodol sy'n ymwneud â'r ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2003, mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2002 - 

    (a) pennu faint o ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a gofrestrir mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod,

    (b) pennu cyfartaledd cyfnod arhosiad disgyblion sy'n blant i deithwyr mewn ysgolion o'r fath, a

    (c) nodi'r trefniadau y mae'r awdurdod wedi eu sefydlu ar gyfer monitro faint o ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a gofrestrir mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
12].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Ebrill 2002



YR ATODLEN
(Rheoliad 14)


(Darpariaethau atodol ynghylch targedau perfformiad a chanlyniadau cyrhaeddiad disgyblion)


     1.  - (1) At ddibenion rheoliad 14, bydd cwestiynau ynghylch - 

    (a) pa ddyfarniad cymhwyster galwedigaethol sy'n cyfateb i ba radd arholiad TGAU,

    (b) y cyfwerthedd rhwng canlyniadau arholiadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol, ac

    (c) y cyfwerthedd rhwng canlyniadau arholiadau TGAU a chanlyniadau arholiadau cwrs byr TGAU,

yn cael eu penderfynu yn unol ag is-baragraffau (2) i (8).

    (2) Caiff GNVQ Canolradd llawn, neu NVQ ar lefel 2, eu trin fel pe baent yn cyfateb i radd A* i C mewn pedwar pwnc TGAU.

    (3) Caiff GNVQ Sylfaen llawn, neu NVQ ar lefel 1, eu trin fel pe baent yn cyfateb i radd D i G mewn pedwar pwnc TGAU.

    (4) Caiff GNVQ Rhan Un (lefel Canolradd) ei drin fel pe bai'n cyfateb i radd A* i C mewn dau bwnc TGAU.

    (5) Caiff GNVQ Rhan Un (lefel Sylfaen) ei drin fel pe bai'n cyfateb i radd D i G mewn dau bwnc TGAU.

    (6) Caiff Uned Iaith GNVQ (lefel Ganolradd) ei drin fel pe bai'n cyfateb i radd A* mewn hanner pwnc TGAU.

    (7) Caiff Uned Iaith GNVQ (lefel Sylfaen) ei drin fel pe bai'n cyfateb i radd D mewn hanner pwnc TGAU.

    (8) Caiff gradd mewn arholiad sy'n gysylltiedig â chwrs byr TGAU ei drin fel pe bai'n cyfateb i'r radd honno mewn hanner pwnc TGAU.

     2. At ddibenion gosod y targedau a bennir yn rheoliad 11, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at ennill neu ddyfarnu - 

    (a) gradd mewn arholiad TGAU,

    (b) cymhwyster galwedigaethol, neu

    (c) gradd mewn arholiad cwrs byr TGAU,

fel pe bai'n gyfeiriad at ddyfarnu neu ennill gradd neu gymhwyster erbyn diwedd y flwyddyn ysgol y mae gofyn gosod targedau o'r fath yn rhinwedd y rheoliad hwnnw mewn perthynas â hi.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 1999 heblaw am yr eithriad sy'n ymwneud â dilysrwydd y cynlluniau sydd eisoes yn bodoli, ac maent yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.

Mae adran 6 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod addysg lleol baratoi cynllun datblygu addysg (a elwir yng Nghymru yn gynllun strategol addysg) ar gyfer eu hardal.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chynlluniau llawn sy'n cwmpasu cyfnod o 3 blynedd a chynlluniau atodol ar gyfer ail a thrydedd flwyddyn y cynllun llawn, gan gynnwys y cyfnod y mae'n rhaid i'r datganiad o gynigion a gynhwysir yn y cynlluniau ymwneud ag ef (rheoliad 4), y cyfnodau y mae'n rhaid paratoi'r cynlluniau rhyngddynt a'r dyddiad y mae'n ofynnol cyflwyno'r cynlluniau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (rheoliad 5) a darpariaethau ynghylch cyhoeddi'r cynlluniau a chyflenwi copïau (rheoliad 6).

Mae Rhan II o'r Rheoliadau yn nodi materion y mae'n rhaid i'r datganiad o'r cynigion mewn cynllun llawn ymdrin â hwy. Mae'r rhain yn cynnwys blaenoriaethau'r awdurdod ar gyfer codi safonau a'r gweithgareddau y bydd yn ymgymryd â hwy er mwyn mynd i'r afael â'r blaenoriaethau hynny a gosod targedau cynnydd ar gyfer y blaenoriaethau hynny (rheoliad 7); polisi'r awdurdod ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig a gweithgareddau i hybu'r polisïau hynny a gosod targedau cynnydd ar gyfer y blaenoriaethau hynny (rheoliad 8); polisi'r awdurdod ar hybu ymwybyddiaeth hiliol a'i strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion (yn y cynlluniau llawn o 2005 ymlaen) (rheoliad 9); polisi'r awdurdod ar addysg i blant sy'n derbyn gofal (rheoliad 10); pennu targedau ar gyfer blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn y cynllun (rheoliad 11); cyraeddiadau y mae'n rhaid pennu targedau mewn perthynas â hwy ar gyfer disgyblion yng nghyfnodau allweddol dau a thri ac ar gyfer disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed (rheoliadau 12, 13 ac 14); targedau ar gyfer cyflwyno enwau disgyblion fydd yn 16 oed ar gyfer sefyll arholiadau (rheoliad 15); targedau ar gyfer gwahardd yn barhaol ac am gyfnod penodedig ac absenoldebau diawdurdod (rheoliadau 16, 17 a 18); a chrynodeb o'r wybodaeth a defnyddir gan yr awdurdod wrth bennu ei dargedau (rheoliad 19).

Mae Rhan III o'r Rheoliadau yn nodi'r deunydd y mae'n rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn eu cynnwys. Mae'r rhain yn cynnwys disgrifiad o nodweddion allweddol yr awdurdod (rheoliad 20); tabl sy'n dangos defnydd yr awdurdod o adnoddau i gefnogi cynllun llawn (rheoliad 21); tabl sy'n dangos gwybodaeth atodol ar blant ag anghenion addysgol arbennig a disgrifiad o drefniadau'r awdurdod ar gyfer monitro safonau addysgol plant o'r fath (rheoliad 22); gwybodaeth ar ddisgyblion o leiafrifoedd ethnig (mewn cynlluniau llawn o 2005 ymlaen) (rheoliad 23); gwybodaeth atodol ar blant sy'n derbyn gofal (rheoliad 24); gwybodaeth ar ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a threfniadau'r awdurdod i gynorthwyo disgyblion o'r fath (mewn cynlluniau llawn o 2005 ymlaen) (rheoliad 25); esboniad o gynigion yr awdurdod ar gyfer monitro ei berfformiad o dan y cynllun (rheoliad 26); disgrifiad o'r ymgynghori a wnaed gan yr awdurdod wrth baratoi'r cynllun (rheoliad 27); a disgrifiad o strwythur pwyllgorau a strwythur trefniadol yr awdurdod (rheoliad 28).

Mae Rhan IV o'r Rheoliadau yn nodi'r anghenion ar gyfer cynlluniau atodol. Mae'r rhain yn cynnwys crynodeb o'r camau a gynigir i fynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion wrth gyflawni targedau (rheoliad 29); datganiad o gynigion sy'n cynnwys diweddariad o holl dargedau'r awdurdod ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol (rheoliad 30); polisi'r awdurdod ar hybu ymwybyddiaeth hiliol a'i strategaeth ar fynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion, mewn perthynas yn unig â'r cynllun atodol ar gyfer 2003 - 05 (rheoliad 31); atodiad sy'n cynnwys asesiad gan yr awdurdod o'r graddau y mae'r targedau wedi'u cyflawni (rheoliad 32); atodiad sy'n cynnwys gwybodaeth ystadegol ar ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig (rheoliad 33); gwybodaeth ar ddisgyblion o leiafrifoedd ethnig (yn y cynllun atodol ar gyfer 2003 - 05 yn unig) (rheoliad 34); a gwybodaeth ar ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a threfniadau'r awdurdod i gynorthwyo'r cyfryw ddisgyblion (yn y cynllun atodol ar gyfer 2003 - 05 yn unig) (rheoliad 35).


Notes:

[1] 1998 p.31. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 142(1).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/1439.back

[4] 1996 p.56.back

[5] 1989 p.41.back

[6] 2000 p.21.back

[7] Y gorchmynion priodol sydd mewn grym ar hyn o bryd yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 1997, O.S. 1997/2009, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1977 a Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997, O.S. 1977/2010, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1976 ac O.S. 2001/889 (Cy.40).back

[8] O.S. 1999/1811.back

[9] O.S. 1999/101 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/911 (Cy.40), O.S 2001/495 (Cy.22) ac O.S. 2002/136 (Cy.19).back

[10] O.S. 1995/2089, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/2624, O.S. 1999/2267 ac O.S. 2001/1109 (Cy.53).back

[11] Mewnosodwyd adran 332A gan adran 2 o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10).back

[12] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090485 0


  Prepared 10 May 2002

About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010