BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020157w.html

[New search] [Help]

2002 Rhif 157 (Cy.23)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 29 Ionawr 2002 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(5), a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1], ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn - 

    ystyr "awdurdod gwasanaethau cymdeithasol" ("social services authority") yw awdurdod lleol at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970[3] yn gweithredu i gyflawni unrhyw swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 1A o'r Ddeddf honno;

    mae i "awdurdod iechyd" yr un ystyr â "health authority" yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[4]); ac

    ystyr "datganiad" ("statement") yw datganiad o anghenion addysgol arbennig a wneir o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

    (4) Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas - 

    (a) ag ysgolion meithrin, neu

    (b) â phlant o dan oedran ysgol gorfodol.

Cyhoeddi gwybodaeth
     2. Rhaid i awdurdod addysg lleol - 

    (a) cyhoeddi gwybodaeth am y materion a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn unol â rheoliad 3(1), (2) a (3);

    (b) cadw golwg ar yr wybodaeth honno; ac

    (c) os ceir newid arwyddocaol mewn unrhyw ran o'r wybodaeth honno, diwygio'r wybodaeth yn unol â hynny a chyhoeddi'r wybodaeth ddiwygiedig yn unol â rheoliad 3(4).

Dull cyhoeddi'r wybodaeth
    
3.  - (1) Rhaid i'r awdurdod addysg lleol gyhoeddi'r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 2(a)  - 

    (a) drwy roi copi ysgrifenedig o'r wybodaeth i unrhyw awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol y mae ganddynt fuddiant yn yr wybodaeth honno ym marn yr awdurdod addysg lleol drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod;

    (b) drwy drefnu bod yr wybodaeth ar gael ar unrhyw wefan y gall fod yr awdurdod yn ei chynnal ar y Rhyngrwyd;

    (c) drwy roi copi ysgrifenedig o'r wybodaeth i'r ysgolion a gynhelir yn ardal yr awdurdod drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod; ac

    (ch) drwy roi copi ysgrifenedig o'r wybodaeth i unrhyw berson sy'n gwneud cais amdano drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod.

    (2) Rhaid i'r wybodaeth am y materion a nodir ym mharagraff 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn gael ei chyhoeddi ar 30 Ebrill 2002 neu cyn hynny.

    (3) Rhaid i'r wybodaeth am y materion a nodir ym mharagraffau 2 a 3 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn gael ei chyhoeddi ar 31 Gorffennaf 2002 neu cyn hynny.

    (4) Rhaid i unrhyw wybodaeth sydd i'w chyhoeddi yn unol â rheoliad 2(c) gael ei chyhoeddi gan yr awdurdod addysg lleol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i ddiwygiad gael ei wneud - 

    (a) drwy roi'r wybodaeth ddiwygiedig i awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol a gafodd wybodaeth o'r blaen oddi wrth yr awdurdod addysg lleol yn unol â rheoliad 3(1)(a) drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod;

    (b) drwy ddiweddaru unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod ar y Rhyngrwyd i ddangos yr wybodaeth ddiwygiedig;

    (c) drwy hysbysu'r ysgolion a gynhelir yn ardal yr awdurdod am y diwygiadau drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod; ac

    (ch) drwy roi'r wybodaeth ddiwygiedig i unrhyw berson sy'n gwneud cais amdano drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod.

    (5) Rhaid i'r wybodaeth a gyhoeddir yn unol â'r rheoliad hwn gael ei chyhoeddi yn ddi-dâl.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Ionawr 2002



YR ATODLEN
Rheoliad 2


YR WYBODAETH SYDD I'W DARPARU GAN YR AWDURDODAU ADDYSG LLEOL


     1. Esboniad ar yr elfen honno o'r ddarpariaeth addysgol arbennig ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig (ond sydd heb ddatganiadau) y mae'r awdurdod addysg lleol yn disgwyl fel rheol iddi gael ei thalu o gyfran yr ysgolion a gynhelir o'r gyllideb ac ar yr elfen honno o'r ddarpariaeth honno y mae'r awdurdod yn disgwyl fel rheol iddi gael ei thalu gan yr awdurdod o'r arian sydd ganddo yn ganolog.

     2. Nodau bras polisi'r awdurdod addysg lleol mewn perthynas â phlant ag anghenion addysgol arbennig ynghyd â gwybodaeth am y camau y mae'r awdurdod yn eu cymryd - 

    (a) i hybu safonau addysgol uchel i blant ag anghenion addysgol arbennig;

    (b) i annog plant ag anghenion addysgol arbennig i chwarae rhan gyflawn yn eu hysgol a'u cymuned ac i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu haddysg ac i wneud dewisiadau amdani;

    (c) i annog yr ysgolion yn eu hardal i rannu eu harferion wrth wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig; ac

    (ch) i weithio gyda chyrff statudol a gwirfoddol eraill i ddarparu cymorth i blant ag anghenion addysgol arbennig.

     3. Y trefniadau cyffredinol a wneir gan yr awdurdod addysg lleol, gan gynnwys unrhyw gynlluniau, amcanion a graddfeydd amser ar gyfer - 

    (a) adnabod plant yn eu hardal sydd ag anghenion addysgol arbennig;

    (b) monitro derbyniadau plant ag anghenion addysgol arbennig (p'un a oes gan y plant hyn ddatganiad neu beidio) i'r ysgolion a gynhelir yn eu hardal;

    (c) trefnu asesiadau anghenion addysgol plant yn unol ag adran 323 o Ddeddf Addysg 1996 yn ardal yr awdurdod addysg lleol, gan gynnwys unrhyw brotocolau lleol ar gyfer gwneud hyn;

    (ch) trefnu gwneud a chynnal datganiadau yn eu hardal gan gynnwys unrhyw brotocolau lleol ar gyfer gwneud hyn;

    (d) rhoi cymorth i'r ysgolion yn eu hardal mewn perthynas â gwneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig;

    (dd) archwilio, cynllunio, monitro ac adolygu'r ddarpariaeth ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig yn eu hardal, yn gyffredinol ac mewn perthynas â phlant unigol;

    (e) sicrhau hyfforddiant, cyngor a chymorth i'r staff sy'n gweithio yn eu hardal gyda phlant ag anghenion addysgol arbennig; ac

    (f) adolygu a diweddaru'r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) i (e).



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod dyletswydd ar yr awdurdodau addysg lleol i gyhoeddi gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud â darparu addysg ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.

Yn benodol, mae'n ofynnol iddynt gyhoeddi esboniad ar y rhan honno o'r ddarpariaeth addysgol arbennig y maent yn disgwyl i'r ysgolion a gynhelir ei hariannu o'u cyfran hwy o'r gyllideb, ac ar yr elfen honno y maent yn disgwyl ei hariannu eu hunain.

Hefyd rhaid iddynt gyhoeddi gwybodaeth am nodau bras eu polisi ar anghenion addysgol arbennig, yn ogystal â'r camau penodol y maent yn eu cymryd ar faterion anghenion addysgol arbennig.


Notes:

[1] 1996 p.56.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1970 p.42; mewnosodwyd adran 1A gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), adran 102(3).back

[4] 1977 p.49; diwygiwyd gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) a Deddf Iechyd 1999 (p.32).back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090420 6


  Prepared 11 February 2002

About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010